Deffrowch, orthrymedigion daear*
Dydw i ddim yn talu llawer o sylw gan amlaf i gynghorwyr sy'n dewis newid plaid. Mae'n ddigwyddiad cymharol gyffredin ac mae 'na bob math o gymhellion gwleidyddol a phersonol am newid ochor.
Gallai penderfyniad y Cynghorydd Brent Carter o Ferthyr i adael y Democratiaid Rhyddfrydol ac ymuno a Llafur fod ychydig yn fwy arwyddocaol gan ei fod wedi digwydd mewn rhan o Gymru sy'n hynod ddiddorol yn wleidyddol ar hyn o bryd.
Er bod poblogaeth hen faes glo'r de wedi gostwng mae tua chwarter o bobol Cymru o hyd yn byw yn y cymoedd glofaol. Yn draddodiadol yr ardal yma oedd cadarnle Llafur Cymru. Yn y blynyddoedd ers streic y glowyr mae hynny wedi newid- o leiaf mewn etholiadau lleol a chynulliad. Yr hyn sy'n drawiadol yw nad yw'r newid hynny yn unffurf.
Rwy'n cyffredinoli braidd ond yn fras yng nghymoedd gorllewinol y maes glo mae patrwm dwy-blaid wedi ei sefydlu. Llafur a Phlaid Cymru yw'r pleidiau hynny. Yn y cymoedd dwyreiniol, yn bennodol ym Merthyr, Blaenau Gwent a Thorfaen, mae 'na ryw fath o anarchiaeth etholiadol wedi datblygu gyda Llafur yn gwegian a llu o wahanol grwpiau a phleidiau yn ceisio elwa.
Drychwch ar ganlyniad etholiad y cynulliad ym Merthyr yn 2005, er enghraifft. Mae'r patrwm yn fwyaf eglur wrth edrych ar ganrannau'r bleidlais.
Llafur; 37.0%, Dem. Rhydd.; 15.2%, Ann(1);12.5%, Plaid; 12.0%, Ann(2); 9.1%, Ceid.; 5.5%, Ann (3); 4.0%, Ann(4); 3.8 %, Ann(5); 0.8%.
Gadewch i ni ryfeddu at y ffigyrau yna. Fe dderbyniodd yr ymgeisydd Llafur ym Merthyr lai na deugain y cant o'r bleidlais! Fe gadwodd Huw Lewis ei sedd oherwydd bod y bleidlais wrth Lafur wedi ei gwasgaru rhwng wyth ymgeisydd arall- pump ohonyn nhw yn ymgeiswyr annibynnol.
Flwyddyn yn ddiweddarach cynhaliwyd etholiad arall y tro hwn i ddewis cynghorwyr lleol. Dyma'r canlyniadau o Dorfaen (yn nhermau nifer y seddi y tro hwn)
Llafur;18; Ann.;12, Ceid.;5, Llais y Bobol;4, Plaid;3, Dem. Rhydd.;2.
Mae'r gwrthryfel anhrefnus yma wedi cyrraedd ei benllanw ym Mlaenau Gwent lle mae Llafur wedi colli'r cwbwl lot. Y cyngor, y sedd cynulliad, y sedd seneddol, yr holl siabang.
Pam mae hynny wedi digwydd? Mae gen i un esboniad posib. Sylfaen economaidd oedd i'r bleidlais Lafur yn y maes glo. Hynny yw roedd pobol yn pleidleisio dros Lafur oherwydd bod hynny yn fanteisiol iddyn nhw o safbwynt yr arian yn eu pocedu. Anghofiwch am unrhyw beth arall. Does bron neb yn fwy ceidwadol yn rhai o'u hagweddau cymdeithasol na phleidleiswyr traddodiadol y Blaid Lafur yn y cymoedd. Pres oedd yn bwysig.
Wrth i'r pyllau gau ac wrth i'r gwahaniaethau rhwng polisïau economaidd y pleidiau ddiflannu fe ddiflannodd y cymhelliad i bleidleisio dros Lafur hefyd.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae'r agendor rhwng Llafur a'r Ceidwadwyr ym maes yr economi wedi ail-ymddangos. Mae'n bosib y bydd hynny yn galluogi i Lafur ail-sefydlu ei goruchafiaeth yn y cymoedd. Un wennol ni wna wanwyn- ond fe allai penderfyniad Cyng. Carter fod yn arwyddocaol.
*Dydw i ddim yn esbonio'r pennawd fel arfer ond mae cyfieithiad is o'r yn dipyn o ffefryn gen i.
SylwadauAnfon sylw
Diddorol iawn. Mae bron yn amhosib i orbwysleisio dylanwad Undeb y Glowyr ar wleidyddiaeth y cymoedd dros rhan fwyaf o'r ganrif ddiwethaf.