´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dofi'r Teigr

Vaughan Roderick | 10:57, Dydd Llun, 8 Rhagfyr 2008

Heddiw fe fydd Mwslimiaid yng Nghymru ac ar draws y byd yn dathlu Eid al-Adha neu "Eid fawr" fel mae'n cael ei galw ar lafar. Gŵyl yw ystyr y gair Eid, gyda llaw. Gwnâi ddim stretsio'r pwynt trwy awgrymu "prifwyl" fel cyfieithiad Cymraeg!

Pan oeddwn yn grwt roedd Mwslimiaid Caerdydd yn dathlu'r achlysur trwy gynnal gorymdaith liwgar trwy'r ddinas. Wrth i Tiger Bay droi'n Fae Caerdydd bu farw'r traddodiad .

Yn ffodus fe ffilmiodd fy nhad un o'r gorymdeithiau olaf yn ôl yn 1968. Mae'r ffilm honno ar gael i'w gwylio ar safle archif y ´óÏó´«Ã½. Mae lluniau'r orymdaith yn cychwyn am 10.48 ond mae'r clip cyfan yn werth ei wylio gan ei fod hefyd yn cynnwys tad Ryan Giggs yn sgorio cais ym Mharc yr Arfau!

Coffau parodrwydd Ibrahim i aberthu ei fab, Isaac, i Dduw mae'r ŵyl. Abraham yw Ibrahim yn y traddodiad Cristnogol, wrth gwrs, ac mae'r stori'n cael ei adrodd yn y Beibl yn Genesis. Yr angen am ffydd yn Nuw yw pwynt y stori. Mae'r Apostol Paul yn gallu esbonio'r peth yn well na fi!

"Ffydd wnaeth i Abraham offrymu Isaac yn aberth, pan oedd Duw yn ei brofi. Dyma'r un oedd wedi derbyn addewidion Duw, yn ceisio aberthu ei unig fab! A hynny er bod Duw wedi dweud wrtho, "Drwy Isaac y bydd dy linach yn cael ei chadw." Roedd Abraham yn derbyn fod Duw yn gallu dod â'r meirw yn ôl yn fyw. Ac mewn ffordd mae'n iawn i ddweud ei fod wedi derbyn Isaac yn ôl felly."
Hebreaid 11. 17-18

Dyna ddiwedd y bregeth. Mwynhewch y ffilm.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.