Helo, Helo, Helo
Mae'n ymddangos bod Plaid Cymru'n troi'n rhyw fath o gartref ymddeol i Heddlu'r Gogledd! Mae pleidwyr Wrecsam newydd ddewis y cyn Arolygydd Arfon Jones fel eu hymgeisydd seneddol. Mae darpar ymgeiswyr Aberconwy ac Ynys Môn hefyd yn gyn-blismyn. Fe fyddai Morse neu Marple yn dechrau dirnad patrwm!
Fe wnaeth yr enwebiad yma wneud i mi feddwl am ymdrechion Prif Gwnstabl y Gogledd, Richard Brunstrom, i gymreigio'r heddlu a chodi pontydd i'r Gymru Gymraeg. Yn gryno, dadl y Prif Gopyn oedd bod plismona yn dibynnu ar gydsyniad a pharodrwydd cymunedau i roi cymorth i'r heddlu. Yn ei farn ef roedd yr heddlu wedi colli'r cydsyniad a'r gefnogaeth honno mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith. Dyma oedd ganddo i ddweud wrth aelodau Cymuned.
Roedd sylwadau Mr Brunstrom yn ddadleuol ar y pryd ond roedd 'na wirionedd yn ei eiriau. Y rheswm y mae Rhys Gethin a'i feibion yn gorwedd a'u traed yn rhydd ar ryw draeth yn rhywle yw bod pobol a fyddai wedi gallu rhoi cymorth i'r heddlu wedi dewis peidio gwneud. Roedd hynny, am wn i, yn ymateb i dactegau llawdrwm y Glas ar "Sul y Blodau" (1980) ynghyd a rhyw ymdeimlad anelwig bod yr heddlu yn gorff estron, trefedigaethol.
A fyddai cangen o Blaid Cymru wedi dewis cyn-blismon fel ymgeisydd yn yr wythdegau? Dydw i ddim yn gwybod. A fyddai cyn-blismon wedi dewis ymuno a Phlaid Cymru? Fedrai ddim ateb hynny chwaith- ond mae'n ymddangos i mi bod 'na newid go sylfaenol ar droed o safbwynt agweddau cenedlaetholwyr a Chymry Cymraeg tuag at yr heddlu.
SylwadauAnfon sylw
Ys dywed y Sais, it's a fair cop!
Diolch am y sylw, ond na ddim Richard Brunstrom ddaru fy ysbrydoli fi i fod yn genedlaetholwyr mwy fel ymgyrchu dros y Blaid yn etholaethau Meirionnydd yn 1970 a 74 a Merthyr yn 72! heb son am refferendwm 97.