Lincs
Mae'n sbel ers i mi gynnig casgliad o ddolenni i chi. Dyw rheolau'r ´óÏó´«Ã½ ddim yn caniatáu i mi gadw "blogroll" parhaol ond dyma rai o'r safleoedd a blogs sydd ymhlith fy ffefrynnau.
Mae blog yr ieithydd Simon Ager yn hynod ddifyr. Mae ei gystadlaethau "dyfalwch yr iaith" yn lot o sbort.
Mae'r awdur wedi dechrau blogio. Fe ddylai hon ddatblygu'n safle difyr i'r rheiny sy'n ymddiddori mewn newyddiaduraeth.
Blog hynod ddiddorol ynglŷn â'r defnydd o'r we i wleidydda yw . Mae wedi sgwennu o bersbectif Gweriniaethwyr yr Unol Daleithiau ond mae 'na wersi i bawb o'r ddarllen.
Mae sianel yar YouTube yn drysorfa. Dyma i chi ffilm lliw(!) o Gaerdydd yn 1926.
A beth am ymweld ag Eisteddfod 1916?
SylwadauAnfon sylw
Mi gefais i e-bost gan y Next Right yn gofyn i mi adio fy mlog i'w rhestr. Ddim cweit yn siwr syniad pwy oedd gofyn i flog canol-chwith ar Gymru i ymuno a'r wefan de Ameicanaidd!