´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Trwy gyfrwng y cyfrwng

Vaughan Roderick | 19:19, Dydd Mercher, 10 Rhagfyr 2008

Fe wnes i ysgrifennu ychydig ddyddiau yn ôl am y posibilrwydd y byddai Real Radio/GMG yn ennill trwydded radio FM i Ogledd Cymru gan greu gorsaf radio fasnachol genedlaethol i Gymru. Mae hynny nawr wedi digwydd.

Fe fydd y cwmni yn cyflogi tri newyddiadurwr yn y Gogledd. Ar adegau fe fydd gan yr orsaf ogleddol ei rhaglenni a'i bwletinau ei hun yn ystod yr oriau brig ac yn darlledu gwasanaeth gorsaf y De ar adegau eraill. Os ydy'r orsaf yn llwyddo i'r un graddau a gwasanaeth y de fe fydd gan Real gynulleidfa o tua'r un maint a Radio Wales- ac yn gyfrwng pwysig felly i'n gwleidyddion a'n gwleidyddiaeth.

Dyma oedd gan y cwmni i ddweud yn ei gais am y drwydded;

"Real Radio will have a greater commitment to news and topical information than the existing commercial services and will maintain a news service containing local material 24 hours a day. We are strongly committed to broadcasting a news service the area can rely on at any time of the day or night. We will establish Real Radio as the first port of call for local listeners looking for accurate up-to-the-minute news bulletins."

Mewn cyfnod lle mae 'na bryderon cynyddol am ddyfodol ein papurau a gwasnaeth newyddion ITV mae'n braf cael newyddion da am unwaith. Y cam nesaf fydd dwyn pwysau ar berchnogion gorsafoedd masnachol eraill Cymru sef Global, UTV a Town & Country i fuddsoddi yn eu newyddiaduraeth.

Mae'n talu i wneud hynny. Mae'r cwymp arswydus yng nghynulleidfaoedd gorsafoedd fel "Red Dragon" ers dyfodiad Real i'r de yn brawf o hynny.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 23:58 ar 10 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Chanticleer:

    Mond trueni bod newyddion Real yn parhau i'w cael ei sgrifennu a'i recordio ym Manceinion ar ol 6pm yn ystod yr wythnos (a 3pm ar sad/sul).

    Eto i gyd, o leia bod newyddion lleol i'w gael o gwbl!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.