´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth

Archifau Ionawr 2009

Podlediad

Vaughan Roderick | 14:24, Dydd Gwener, 30 Ionawr 2009

Sylwadau (0)

Am resymau teuluol dydw i ddim wedi bod yn blogio llawer yr wythnos hon.

Ymddiheuriadau am hynny. Mae 'na bodlediad newydd ar gael ac fe ddylai pethau ddychwelyd i'r drefn arferol wythnos nesaf.

Kirsty, Elvis a Colonel Sanders

Vaughan Roderick | 14:00, Dydd Mawrth, 27 Ionawr 2009

Sylwadau (0)

Mae'n anodd credu weithiau ond ymhen ychydig fisoedd fe fyddwn ni hanner ffordd trwy oes y trydydd cynulliad. Dyw e ddim yn teimlo felly. Efallai mai'r rheswm am hynny oedd bod y trafodaethau clymblaid ac yna salwch Rhodri Morgan yn golygu bod misoedd wedi mynd heibio ar ôl yr etholiad cyn i lywodraeth "Cymru'n Un" gychwyn ar ei gwaith go iawn.

Dydw i ddim mewn gwirionedd yn deall pam ond yn ddiweddar mae ambell i flogiwr a newyddiadurwr wedi codi cwestiynau ynglŷn â dyfodol y glymblaid honno. Maen nhw'n honni y gallai rhyw glymblaid wahanol ddod i rym rhywbryd rhwng nawr a'r etholiad nesaf. Hwyrach eu bod yn hiraethu am y cyfnod rhyfedd hwnnw o gyffro a ffars yn ystod haf 2007! I fod yn onest dydw i ddim yn gweld pam na ddylai'r llywodraeth bresennol barhau. Fe fyddai angen cwympo mas difrifol neu gythraul o esgus da i'r naill blaid neu'r llall torri cytundeb a chefni ar ei phartner.

Serch hynny mae rhai yn dal i fynnu bod yr hinsawdd wedi newid gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi newid arweinydd a newid tebyg ar y gorwel i Llafur. Mae 'na bob math o sibrydion (di-sail dw i'n meddwl) o gwmpas am gyfarfodydd dirgel rhwng Kirsty Williams a rhyw ddarpar arweinydd Llafur neu'i gilydd.

Fe wfftiodd Kirsty y sibrydion yn blwmp ac yn blaen heddiw. Yr unig ymgeisydd posib yr oedd hi wedi cwrdd ag ef oedd Carwyn Jones, meddai, a hynny ar hap a damwain mewn bwyty KFC cyn gêm rhwng y Sgarlets a'r Gweilch. Ydy hi'n bosib bod dyfodol llywodraeth Cymru wedi ei benderfynu dros "Bargain Bucket" a "Viennetta"?

Go brin. Mae'r rheiny sy'n meddwl y gallai Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol gyrraedd rhyw fath o ddêl yn anghofio ffaith bwysig. Oherwydd salwch Karen Sinclair fe fyddai mwyafrif llywodraeth coch/melyn yn un hynod o fregus. Mae Llafur wedi profi'r artaith yna o'r blaen. Pam ar y ddaear y byddai plaid sy'n arwain llywodraeth â mwyafrif swmpus yn dewis rhoi ei hun mewn yn ôl mewn sefyllfa lle'r oedd pob un bleidlais yn dibynnu ar fympwy Trish Law a gallu Brian Gibbons i wthio'r botwm cywir?

O safbwynt Llafur fe fyddai ysgariad yn boenus a pheryglus i bwy bynnag sy'n arwain y blaid. Mae Huw Lewis, hyd yn oed, wedi datgan yn gyhoeddus y dylai'r blaid gadw at ei gair gan sicrhâi bod y llywodraeth bresennol yn para am dymor cyfan.

Ond beth am y partner arall yn y briodas? Mae'n ddigon hawdd dadlau bod Plaid Cymru wedi gwneud y penderfyniad anghywir trwy wrthod yr enfys yn 2007. Os gofiwch chi fe wnaeth Ieuan Wyn Jones gyfiawnhau ei benderfyniad i fod yn ddirprwy yn hytrach na'n brif weinidog trwy honni mai dim ond trefniant â Llafur fyddai'n sicrhâi refferendwm cyn 2011.

Oes unrhyw un yn disgwyl y bydd hynny'n digwydd? Mae'n haws gen i gredu y bydd Elvis yn cael ei ddarganfod yn gweithio mewn siop tsips yn Nhreorci. Serch hynny fe fyddai cerdded allan o'r llywodraeth yn ergyd andwyol i hygrededd Ieuan Wyn Jones- yn gyfaddefiad o ddiffyg crebwyll gwleidyddol. Hyd y gwn i does na ddim cynllwyn yn rhengoedd Plaid Cymru i newid arweinydd a thra bod Ieuan wrth y llyw mae "Cymru'n Un" yn ddiogel.

Fe ddywedodd Kirsty Williams heddiw ei bod hi'n bwriadu arwain ei phlaid yn ôl mewn i lywodraeth Cymru. Dydw i ddim yn gweld unrhyw ffordd iddi wneud hynny cyn etholiad 2011.

Rialtwch y Sul

Vaughan Roderick | 10:28, Dydd Sadwrn, 24 Ionawr 2009

Sylwadau (1)

Oherwydd nifer yr awgrymiadau mae 'na ail sioe ffilmiau'r penwythnos yma.

Doeddwn i ddim yn ymwybodol o waith asiantaeth "Addysg y Cyfryngau Cymru". Diolch i bwy bynnag wnaeth dynnu fy sylw at ei ffilmiau. Rwy'n ymddiheuro am ddileu'r e-bost ar gam!

Mae'r ffilm gyntaf yn gynnyrch cywaith rhwng plant ysgol o Gaerdydd a'r prifardd Mererid Hopwood.

Ffilm gan ddisgyblion blwyddyn 6 Ysgol Saron, Sir Gaerfyrddin, yn adrodd chwedl Llyn Llech Owain sydd nesaf.

Fe fydd rhai ohonoch chi wedi weld ffilm Lleucu Meinir am ddyddiau olaf Ysgol Mynyddcerrig o'r blaen. Mae'n amlwg yn boblogaidd o farnu o'r nifer wnaeth ei hawgrymu!

Ac awgrym arall gan Dewi i gwpla. Mae 'na gyfan ar "YouTube" ynglŷn â'r wladfa. Gan fod hi'n Ddydd Sul dyma emyn i orffen!

Gadewch eich awgrymiadau yn y sylwadau. Fe fydd 'na ragor ddydd Sadwrn nesaf.

Rialtwch

Vaughan Roderick | 17:20, Dydd Gwener, 23 Ionawr 2009

Sylwadau (0)

Mae'n ddiwrnod y ffilmiau. Diolch i Dewi am y gyntaf sydd, meddai "yn hen ond yn dda o Awstralia". Doeddwn i ddim wedi ei gweld hi o'r blaen! Yn anffodus dyw hi ddim yn bosib mewnosod hon ond dyma'r . Mae'n werth ei chlicio!

Fersiwn o "Ysbryd y Nos" yw ail awgrym Dewi.

Am y tro cyntaf yn fy mywyd mae Arlywydd yr Unol Daleithiau yn iau na fi. Mae'n brofiad sy'n dod i bawb yn hwyr neu'n hwyrach! Fe ddigwyddodd i Chet Huntley yn 1960 gyda ethol JFK!

Diolch i Andy am honna. Y rhaglen ganlyniadau etholiad gyntaf ar deledu unrhyw le yn y byd oedd un NBC ar noson etholiad 1948 (yr un pan enillodd Harry S Truman yn gwbwl annisgwyl). Dyma flas ohoni.

Ac yn olaf disgyblion Glan Clwyd yn cam bihafio- ar gyfer y camera, gobeithio!

Diolch am yr awgrymiadau. Rhagor o ffilmiau yfory.

Am wasanaeth Cymraeg pwyswych 2011

Vaughan Roderick | 15:40, Dydd Gwener, 23 Ionawr 2009

Sylwadau (3)

Does gen i ddim llawer i ychwanegu at yr sydd ar y safle newyddion ynghylch yr LCO iaith. Serch hynny mae croeso i chi adael sylwadau neu gwestiynau. Mae'n ymddangos y bydd y cais yn cael ei gyhoeddi'n swyddogol ar Chwefror y 3ydd.

Mae 'na ambell i beth efallai sy'n werth nodi. Mae hi bron yn anorfod y bydd y cais yn cael ei wanhau yn ystod y broses scriwtineiddio. Er ei fod wedi caniatáu cyhoeddi'r LCO mae'n amlwg bod Paul Murphy yn rhagweld y bydd aelodau seneddol yn ceisio glastwreiddio'r cymalau ynghylch y sector breifat. Ar ben hynny er bod Llafur a Phlaid Cymru yn y cynulliad wedi cytuno ynghylch cynnwys y cais dydi'r ddwy blaid ddim wedi cytuno ynglŷn â chynnwys unrhyw fesur yn seiliedig arno. Peidied neb a meddwl felly y bydd y mesur terfynol o reidrwydd yn cynnwys popeth sydd yn yr LCO.

Gyda llaw, os oes 'na etholiad cyffredinol fe fydd yn rhaid ail-ddechrau'r broses yn gyfan gwbwl. Nid fi sydd ar fai!

Mae 'na bodlediad newydd ar gael. Gwasgwch y botwm ar y dde i lawr lwytho neu danysgrifio.

Y 10 Uchaf- Arfon a Llanelli

Vaughan Roderick | 13:22, Dydd Iau, 22 Ionawr 2009

Sylwadau (6)

Pan wnes i baratoi rhestr "deg uchaf" o'r etholaethau Cymreig mwyaf diddorol yn yr etholiad nesaf fe wnaeth sawl un awgrymu fy mod yn anghywir i gynnwys Arfon ar draul Llanelli. Mae 'na ddadl i'w chael. Yn y bôn mae'r cwestiwn yn ddigon syml- oes gan Blaid Cymru well cyfle o gipio Llanelli na sydd gan Lafur o ennill Arfon?

Sylwch mai "ennill" yn hytrach na "chipio" yw'r ferf yn achos Arfon. Fel Aberconwy mae hon yn etholaeth newydd sy'n cyd-fynd â ffiniau'r hen gyngor dosbarth. Mae Dwyfor wedi gadael felly a Bangor a Dyffryn Ogwen wedi dod i mewn.

Efallai eich bod yn cofio Rallings a Thresher o'r erthygl ynglÅ·n ag Aberconwy. Nhw yw'r academyddion sy'n llunio canlyniadau tybiannol ar gyfer etholaethau newydd- hynny yw amcangyfrif o ganlyniad yr etholaeth yn yr etholiad blaenorol. Maen nhw o'r farn mai Llafur fyddai wedi ennill yr Arfon yn 2005. Dyma'u ffigyrau;

Llafur 8165 (35.5%)
Plaid Cymru 8072 (35.1%)
Ceidwadwyr 3431 (14.9%)
Dem. Rhydd. 2599 (11.3%)
Eraill 748 (3.2%)
Mwyafrif 93 (0.4%)

Ras gyfartal yw honno i bob pwrpas. Roedd canlyniad etholiad cynulliad 2007 yn wahanol iawn.

Plaid Cymru 10260 (52.4%)
Llafur 5242 (26.8%)
Ceidwadwyr 1858 (9.5%)
Dem. Rhydd. 1424 (7.3%)
UKIP 789 (4.0%)
Mwyafrif 5018 (25.6%)

O safbwynt y canrannau dyw hynny ddim mor wahanol â hynny i ganlyniad tybiannol etholiad cynulliad 2003- yr hyn sy'n drawiadol yw'r niferoedd crai. Fe bleidleisiodd bron i hanner etholwyr Arfon yn etholiad y cynulliad canran sy ddim llawer yn llai na sy'n troi allan mewn etholiad cyffredinol. Er mwyn ennill felly fe fyddai'n rhaid i Lafur sicrhâi cefnogaeth etholwyr wnaeth bleidleisio dros Blaid Cymru yn etholiad y cynulliad. Mae hwnnw'n dalcen caled i weithio o gofio amhoblogrwydd Llafur a'r ffaith mai Hywel Williams yw deiliad y sedd i'r rhan fwyaf o'r etholwyr.

Mae 'na un ffactor arall sy'n gwneud Plaid Cymru'n dawel hyderus. Disgrifiwyd hen etholaeth Conwy fel "sedd lle mae pawb yn pleidleisio i'w hail ddewis". Yn sicr roedd pleidleisiau personol a thactegol yn allweddol i lwyddiant Betty Williams. A fydd y cyfan o'r pleidleiswyr hynny'n deyrngar i Lafur mewn amgylchiadau ac etholaeth newydd? Mae hynny'n annhebyg.

Un ffactor arall sy'n werth ei grybwyll yn Arfon yw'r hyn ddigwyddodd yn etholiadau lleol 2008. Yn yr etholiadau hynny collodd Plaid Cymru gyfres o seddi yn sgil y cynllun amhoblogaidd i ad-drefnu'r ysgolion. Ydy hynny'n debyg o effeithio ar ganlyniad yr etholiad cyffredinol yn enwedig os oes 'na ryw fath o ymgeisydd Llais Gwynedd-aidd yn sefyll? Mae hynny'n annhebyg hefyd. Roedd y cynllun ad-drefnu wedi ei gyhoeddi cyn etholiad y cynulliad yn 2007 a does dim tystiolaeth ei fod wedi cael unrhyw effaith o gwbwl ar y canlyniad.

Yn ffodus does dim rhaid dibynnu ar Rallings a Thresher yn achos Llanelli! Dyma'r canlyniad yn yr etholiad cyffredinol diwethaf.

Llafur 16,592 (46.9%)
Plaid Cymru 9,358 (26.5%)
Ceidwadwyr 4,844 (13.7%)
Dem. Rhydd. 4,550 (12.9%)
Mwyafrif 7,234 (20.5%)

A dyma'r canlyniad yn etholiad cynulliad 2007.

Plaid Cymru 13,839 (50.1%)
Llafur 9,955 (36.1%)
Ceidwadwyr 2,757 (10.0%)
Dem. Rhydd. 1,051 (3.8%)
Mwyafrif 3,884 (14%)

Yr hyn sy'n drawiadol yw nad yw pleidlais grai Helen Mary Jones cymaint â hynny'n llai na phleidlais Nia Griffith. Ar ôl dweud hynny, mae Helen yn ymgeisydd eithriadol, roedd 'na helynt yng nghylch ysbytai lleol yn 2007 ac mae etholiadau cynulliad yn fwy ffafriol i Blaid Cymru nac etholiadau seneddol.

Ond fe dderbyniodd Llafur grasfa arall yn etholiadau lleol 2008 ac am y tro cyntaf roedd 'na dystiolaeth bod Plaid Cymru yn dechrau herio Llafur yn y dref ei hun yn ogystal â'r pentrefi o'i chwmpas.

Ydy hi'n bosib felly i Blaid Cymru gipio sedd seneddol Llanelli? Ydy - ond fe fyddai angen storom berffaith i wneud hynny.

Ai Llanelli yntau Arfon sy'n haeddu bod yn y deg uchaf? Penderfynwch chi!


°Õ°ùê±ô²õ

Vaughan Roderick | 13:01, Dydd Iau, 22 Ionawr 2009

Sylwadau (2)

Rwy'n gobeithio nad yw hyn yn arwydd o'r hyn sy'n debyg o ddigwydd i economi Cymru! Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi penodi rheolwr gyfarwyddwr newydd i ofalu am gynaladwyedd. Ar hyn o bryd mae Clive Bates yn un o uchel swyddogion y Cenhedloedd Unedig... yn Sudan.

Mae dwy o raglenni gwleidyddol ´óÏó´«Ã½ Cymru yn dychwelyd yr wythnos hon. Mae 'na ddwy stori dda iawn ar "Dragon's Eye" heno un ymwneud ac iechyd ac llall a'r iaith. Ar ´óÏó´«Ã½1 yn unig fydd "Dragon's Eye o hyn ymlaen. Yfory fe fydd "Dau o'r Bae" (a'r podlediad) yn dychwelyd. Jon Owen Jones, Roger Roberts, Sarah Hill a Brieg Powell yw'r gwesteion. I'r rheiny sy'n mwynhau "Rialtwch" y penwythnos fe fydd 'na ail "sioe" ar y blog Ddydd Sul oherwydd nifer yr awgrymiadau a dolenni sydd wedi dod i law.

Hon

Vaughan Roderick | 10:35, Dydd Iau, 22 Ionawr 2009

Sylwadau (1)

Fe fydd Kirsty Williams yn annerch yr "Oxford Union" heno fel rhan o ddadl yn dwyn y teitl "where are all the women?"

Yn ei haraith disgwylir iddi ddweud hyn;

"I don't recall people expressing wonderment that a father of two, three or four children could balance their family commitments with their work. That's the gap between the idea of equality, and the practice in modern Britain. But we are all complicit in this state of affairs, to a greater or lesser degree."

Digon teg. Un cwestiwn. A fyddai myfyrwyr Rhydychen wedi gwahodd arweinydd newydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru i'w hannerch pe bai'n ddyn?

Jyst Gofyn...

Vaughan Roderick | 20:27, Dydd Mercher, 21 Ionawr 2009

Sylwadau (2)

Mae 'na bob math o sibrydion ynghylch yr LCO iaith o gwmpas y lle yn y Bae. Un ohonyn nhw yw na fydd y Cynulliad yn cael yr hawl i orfodi i fanciau ddefnyddio'r Gymraeg er bydd yr hawl honno yn bodoli mewn ambell i ran arall o'r sector breifat.

Un cwestiwn bach. Onid yw Northern Rock ac RBS bellach yn rhan o'r sector gyhoeddus? Os felly, pam eu heithrio? Os ydy Lloyds/HBOS a Barclays yn diweddu'n eiddo i'r llywodraeth sut ar y ddaear mae cyfiawnhau eu trin nhw'n wahanol i'r Swyddfa Bost, dyweder?

Ar y llaw arall fe fyddai'n rhyfedd o fyd pe bai'r cynulliad yn cael gorfodi i Northern Rock weithredu'n ddwyieithog- ond nid y Principality.

Dw i'n dechrau deall pam y mae'r cais hwn wedi cymryd cyhyd!

ON; Ymateb un o weinidogion y llywodraeth (un ddylai wybod) i'r pwynt yma "...diddorol... does neb wedi meddwl am hynny".

Llaeth a Mêl

Vaughan Roderick | 20:16, Dydd Mercher, 21 Ionawr 2009

Sylwadau (0)

Am ba bwnc wnaeth y Llywydd rhoi slap eiriol i Nick Bourne yn y siambr heddiw?

Beth oedd testun ei ddadl ffyrnig (ffrae hyd yn oed) a Mohammad Asghar mewn derbyniad heno? Ydy'r Llywydd yn credu, mewn gwirionedd fod ei gyd-bleidiwr yn "Muslim Zionist"?

Ydy Dafydd o hyd yn dal dig am y busnes yna 'da llysgennad Israel?

O geiniog i geiniog

Vaughan Roderick | 15:42, Dydd Mercher, 21 Ionawr 2009

Sylwadau (1)

Mae'r llywodraeth yn San Steffan wedi ildio i bwysau'r gwrthbleidiau ynghylch cyhoeddi manylion treuliau aelodau seneddol. Fe fydd ein cydweithwyr yn Westminster felly yn cael rhannu'r pleser o ganfod iPods a pheiriannau smwddio trowsus ac o ymosod yn hunangyfiawn ar drachwant honedig ein gwleidyddion!

Mae'n hawdd deall pam yr oedd y llywodraeth yn dymuno celu'r manylion ac mae'n ddigon posib y bydd y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn difaru peidio cytuno pan ddaw'r cyfan i'r wyneb!

Fe wnâi broffwydo hyn. Fe fydd 'na ddwy fath o stori'n cael ei 'sgwennu gyda rhai'n ymosod yn ffyrnig ar aelodau sydd wedi hawlio symiau anferthol ac eraill yn bychanu'r rheiny sydd wedi hawlio swllt a chwech am frechdan neu stamp. Dyma broffwydoliaeth arall. Yn sgil cyhoeddi'r holl straeon yma fe fydd rhai aelodau seneddol yn troi ar y newyddiadurwyr a'u cyhuddo o ragrith. Gan boeri gwaed fe fydd ambell i aelod yn mynnu y dylai treuliau gohebwyr gael eu cyhoeddi hefyd.

Digon teg. Heb osod cynsail i neb arall dyma fy nhreuliau i.

Yn y flwyddyn ariannol gyfredol rwyf wedi hawlio £75 am glustffon i glywed cyfarwyddiadau o'r galeri teledu.

Yn 2007-2008 Fe wnes i hawlio £73.88 am deithio i Lundain ar gyfer "Pawb a'i Farn" a £530 am ddillad i wisgo ar CF99. Nid fi wnaeth ddewis y dillad a dydw i ddim yn cael gwisgo nhw unrhyw bryd arall- a dweud y gwir byswn i ddim yn dymuno gwneud ta beth!

Yn 2006-07 Fe wnes i hawlio cyfanswm o £54.10. Roedd hynny i dalu am ginio gyda Jane Hutt a rhai o'i swyddogion.

Y pwynt yw, wrth gwrs, bod aelodau seneddol ac aelodau cynulliad yn debycach i bobol hunangyflogedig neu fusnesau bach nac i weision cyflog. Yn fy achos i a fy nghydweithwyr mae'r ´óÏó´«Ã½ yn talu'n uniongyrchol am bethau fel ystafelloedd gwesty mewn cynhadledd. Os am deithio mwy na hanner can milltir mewn car mae'n rhaid defnyddio car cwmni nid un personol. Rwyf yn talu ambell i beth o'm mhoced fy hun- parcio, peint neu baned i wleidydd, pethau felly. Mae bywyd yn rhy fyr i foddran hawlio'r arian yn ôl.

Yn achos y gwleidyddion talu a hawlio yn ôl yw'r drefn. Eu dewis nhw yw hynny. Does 'na ddim rheswm pam na ddylai'r senedd neu'r cynulliad ddarparu fflatiau, ceir neu swyddfeydd etholaeth ar eu cyfer. Fe fyddai hynny'n llai o waith i'r aelodau byswn i'n tybio. Pam peidio gwneud felly- os nad oes a wnelo hynny rhywbeth a gallu aelodau i bluo eu nythod eu hun neu nythod eu pleidiau?

HHH

Vaughan Roderick | 13:33, Dydd Mawrth, 20 Ionawr 2009

Sylwadau (9)

Roedd hi'n anorfod bron y byddai rhywun yn rhywle yn darganfod bod gan Barrack Obama gysylltiadau Cymreig. Does neb wedi awgrymu, hyd y gwn i, mai Ab Ama yw'r sillafiad cywir ond mae archifydd Cyngor Môn wedi darganfod bod gan yr Arlywydd wreiddiau yng Nghaergybi.

Er bod Carwyn Jones wedi dweud heddiw ei fod yn gobeithio y byddai'r Arlywydd yn ymweld â'r cynulliad (do, fe ddywedodd e hynny, onest!) dydw i ddim yn dal fy anadl. Er bod y Cymry, fel cenhedloedd eraill Ewrop, yn hoffi "hawlio" gwleidyddion America ychydig iawn o'r gwleidyddion hynny sy ad-dalu'r ddyled- os nad oes 'na fantais etholiadol! Mae gan Obama wreiddiau Gwyddelig hefyd. Os oedd e'n dewis ymweld â Moneygall neu Gaergybi does dim dwywaith gen i mai i Swydd Offaly y byddai fe'n mynd!

Yr unig wleidydd Americanaidd dw i'n ei gofio'n arddel ei wreiddiau Cymreig oedd Hubert Horatio Humphrey a hynny er bod ei deulu wedi croesi Môr Iwerydd yn 1648. Erbyn heddiw mae Humphrey yn cael ei gofio'n bennaf fel dirprwy Lyndon Johnson a'r gŵr wnaeth golli i Richard Nixon yn 1968.

Mae digwyddiadau gwaedlyd y flwyddyn honno gan gynnwys saethu Martin Luther King a Robert Kennedy a'r terfysgoedd y tu allan i Gonfensiwn y Democratiaid yn Chicago wedi taflu cysgod dros yrfa Humphrey. Dyma flas o'r confensiwn.

Mae'r gân yma gan Tom Lehrer yn cyfleu maint dirmyg y chwith tuag at Humphrey.

Ond ar ddiwrnod hanesyddol mae'n werth oedi am eiliad ac ystyried cyfraniad Humphrey. Y rheswm am hynny yw mai'r achos oedd yn nodweddu ei yrfa yn fwy na dim oedd hawliau sifil.

Cyn dyddiau Rosa Parkes a King roedd Humphrey yn fodlon peryglu ei yrfa trwy ddadlau yn erbyn y ffordd yr oedd pobol ddu'n cael eu hamddifadu o'u hawliau. Yn 1948 Humphrey oedd yn bennaf gyfrifol am gynnwys ymroddiad i hawliau cyfartal yn rhaglen etholiadol Truman. Am dros bymtheg mlynedd ef oedd prif lefarydd Y Democratiaid ar hawliau sifil ac ef oedd yn rheoli'r llawr yn y senedd yn 1964 pan gafodd y "Civil Rights Act" ei gymeradwyo. Fel dirprwy Johnson roedd ganddo ran allweddol wrth sicrhâi bod y "Voting Rights Act" hefyd yn cyrraedd y llyfr statud. Mae'n anodd dychmygu y byddai Barack Obama yn Arlywydd heb y mesurau hynny.

Dydw i ddim yn gweld llawer o bwynt mewn hawlio Obama ond gan fod Humphrey yn ymfalchïo yn ei wreiddiau Cymreig hwyrach y dylwn ni ymfalchïo ynddo ef.

Uchelgais

Vaughan Roderick | 10:56, Dydd Mawrth, 20 Ionawr 2009

Sylwadau (0)

Mae Carwyn Jones o hyd yn gwrthod datgelu ei gynlluniau ynglÅ·n ag arweinyddiaeth Llafur Cymru ond does neb yn amau ei fod yn ddyn uchelgeisiol. Serch hynny mae 'na derfyn i'r uchelgais hwnnw. Wrth son am Barack Obama heddiw dywedodd Carwyn "byswn i ddim eisiau bod yn ei sgidiau fe".

Er bod hi'n fach mae hi'n ddigon...

Rialtwch

Vaughan Roderick | 21:46, Dydd Gwener, 16 Ionawr 2009

Sylwadau (5)

Mae'n ymddangos bod y gyfres fach yma'n boblogaidd. Roeddwn wedi bwriadu iddi orffen ar ôl y gwyliau ond gan fod nifer o'ch awgrymiadau chi wedi dod i law beth am gario ymlaen?

Diolch i Andy Bell yn Melbourne am y ddwy ffilm gyntaf. Mae Andy yn cynhyrchu newyddion yr ABC yn nhalaith Victoria ac yn rhannu pryderon llawer o newyddiadurwyr ynhghylch yr hyn sydd wedi digwydd i newyddion teledu. Mae'n tynnu sylw at y ffilm fach ddoniol ond deifiol yma gan JibJab.

|

Andy hefyd wnaeth sbotio'r eitem yma ar ´óÏó´«Ã½ Alba am fandiau Cymraeg yng nghystadleuaeth Nòs Ùr.

Cyfaill o Iwerddon wnaeth dynnu sylw at gyfres ragorol TG4 yn adrodd hanes y GAA.

Ac un gen i. Roedd nifer ohonoch chi wedi mwynhau blasu "Maori TV" wythnos ddiwethaf. Yr ochr arall i Fôr Tasman mae sefyllfa trigolion brodorol Awstralia yn parhau'n drychinebus. Mae "National Indigenous Television" yn ceisio newid pethau. Pen-blwydd Hapus NITV!

Hyn a'r Llall

Vaughan Roderick | 10:28, Dydd Gwener, 16 Ionawr 2009

Sylwadau (0)


Mae 'na erthygl ddiddorol gan Leighton Andrews ynglŷn â'r defnydd o arian preifat i gyflawni prosiectau cyhoeddus wedi ymddangos ar safle . Nid dadlau o blaid PFI mae Leighton a dyw'r hyn sydd ganddo i ddweud ddim yn groes i bolisi'r llywodraeth. Serch hynny mae'r tôn yn wahanol iawn i'r rhethreg arferol.

Wythnos nesaf fe fydd cartref newydd Cerddorfa ´óÏó´«Ã½ Cymru yng yn agor gyda pherfformiad o "Badger in the Bag" gan Alun Hoddinott. Pwy fydd yn cynrychioli'r llywodraeth, tybed? Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth neu Elin Jones a'i thwelve bore?

Does 'na ddim "Dau o'r Bae" heddiw. Fe fydd y rhaglen a'r podlediad yn dychwelyd wythnos nesaf.

Darllen rhwng y llinellau (Bournewatch)

Vaughan Roderick | 11:09, Dydd Iau, 15 Ionawr 2009

Sylwadau (7)

Diddorol.

Mae 'na ddau ddatganiad newyddion gan y Ceidwadwyr wedi ein cyrraedd y bore 'ma. Does 'na ddim cysylltiad rhyngddyn nhw. Nac oes. Dim o gwbwl.

Mae'r cyntaf yn datgan bod aelodau cabinet yr wrthblaid wedi pleidleisio'n unfrydol o blaid cynnig o hyder yn arweinyddiaeth Nick Bourne. Cyn i chi ofyn mae "cabinet yr wrthblaid" yn cynnwys pob un aelod o'r grŵp. Does 'na'r un Tori yn gorfod slymio ar y meinciau cefn.

Mae'r ail ddatganiad yn cyhoeddi bod y blaid yn sefydlu pwyllgor i lunio canllawiau newydd i'r aelodau ynghylch hawlio treuliau. Fel dwedais i, dim cysylltiad.

Lle mae hynny'n gadael pethau? Fel hyn dw i'n darllen y sefyllfa. Rwy'n meddwl bod aelodau'r grwp wedi dod at eu iawn bwyll ynghylch y niwed y mae'r ffrwgwd wedi achosi i'r blaid a'u bod yn credu hefyd y gallai orfodi i Nick Bourne sefyll lawr wneud pethau'n waeth. Mae 'na ffactor arall hefyd. Er bod 'na wrthwynebiad i Nick o fewn y grwp dyw hynny ddim yn gyfystyr a chefnogaeth i Jonathan Morgan fel ei olynydd. Does dim dwywaith yn fy meddwl i y byddai Jonathan wedi hogi ei gyllell pe bai ganddo'r pleidleisiau yn ei boced.

Ydy Nick yn saff felly? Ydy, am y tro, o gymryd bod 'na ddim rhagor o faw gan ei wrthwynebwyr i daflu. A fydd Nick yn arwain y blaid i mewn i etholiad 2011? Byswn yn mentro swllt na fydd e....ond mae gobeithion aelod Gogledd Caerdydd o wneud hynny hefyd yn ansicr. Darren Miller sydd ar ei ennill.

Wrth fynd heibio

Vaughan Roderick | 00:50, Dydd Iau, 15 Ionawr 2009

Sylwadau (0)

Mae'r cylchgrawn hoyw "Attitude" wedi cyhoeddi erthygl ynglŷn â Chris Bryant, aelod seneddol y Rhondda. Am y tro cyntaf, dw i'n meddwl, mae'n trafod effaith "y llun yna" ar ei fywyd a'i yrfa. Dyw'r erthygl ddim ar gael ar-lein ond mae 'na grynodeb yn.

Mae 'na heno bod yr "Evening Standard", papur prynhawn Llundain, wedi ei werthu i ddyn busnes o Rwsia. A fydd hynny, efallai, yn derbyn mwy o sylw na'r hyn sydd wedi digwydd i'w wasg Gymreig yr wythnos hon? O bosib.

Y Western Post

Vaughan Roderick | 14:07, Dydd Mercher, 14 Ionawr 2009

Sylwadau (5)

Ar y cyfan rwy'n osgoi 'sgwennu am y cyfryngau a newyddiaduraeth. Mae 'na beryg fy mod yn syllu ar fy mogail fy hun neu'n cyflawni rhyw losgach newyddiadurol trwy wneud!

Dw i am dorri'r rheol am unwaith gan fod 'na ddau ddatblygiad pwysig ym myd newyddiaduraeth Gymreig wedi eu cyhoeddi yn ystod y dyddiau diwethaf a heb gael y sylw haeddiannol.

Roedd y yn ymwneud a'r wasg. Cyhoeddodd Trinity Mirror fod y ddau is-gwmni sy'n cynhyrchu'r Western Mail a'r Daily Post yn cael eu cyfuno. Mae rheolwyr y cwmni deheuol "" yn gadael y cwmni. Rheolwyr cwmni'r Gogledd "" fydd wrth y llyw. Does dim angen dyfalu ynghylch cymhelliad y cwmni sef torri costau ac arbed arian.

Mae 'na un fantais bosib o'r newid. Ychydig iawn o gyfnewid deunydd sy 'n rhwng y Western Mail a'r Daily Post ar hyn o fyd ac mae'n ddigon posib y bydd y newid yn arwain at fwy sylw i straeon cenedlaethol Cymreig yn y Post ac i straeon y Gogledd yn y Western Mail.

Yr anfantais amlwg yw nad Cymru'n unig sydd wedi ei chynnwys yn yr is-gwmni newydd. Yn ogystal a'r hyn y mae'r cwmni'n galw'n "marketplace business" yng Nghyffordd Llandudno (sef y Daily Post a phapurau eraill y Gogledd) mae gan "NW2" fusnesau yn Lerpwl, Swydd Gaer a Huddersfield. Mae'n ymddangos bod "Media Wales" wedi ei israddio i fod yn "marketplace business" arall i gwmni a'i bencadlys yng Ngogledd Orllewin Lloegr.

Y yw'r trafodaethau rhwng y ´óÏó´«Ã½ ac ITV i sicrhâi parhad rhaglenni newyddion rhanbarthol ar y sianel fasnachol. Mae 'na rinweddau mawr i'r syniad yma. Mae'r dyddiau lle'r oedd darlledwyr yn gallu fforddio neu gyfiawnhau hela dwy uned ddarlledu allanol i gyfro achos llys ar ben.

Ar ddiwedd y dydd arian cyhoeddus sy'n talu am gynnyrch y ´óÏó´«Ã½. Yn bersonol, fedrai ddim meddwl am ddadl dda, er enghraifft, yn erbyn caniatáu i wefannau newyddion Cymraeg atgynhyrchu a defnyddio peth o gynnyrch y ´óÏó´«Ã½ cyn belled a bod 'na ambell i reol golygyddol. Os mai'r bwriad yw cael pobol i ddefnyddio gwasanaethau Cymreig pam na ddylai gwefan newydd Golwg, dyweder, gael mewnosod adroddiadau gohebwyr y ´óÏó´«Ã½?


Wel, Dyna Sypreis!

Vaughan Roderick | 12:40, Dydd Mercher, 14 Ionawr 2009

Sylwadau (4)

Fe fydd 'na fwy am hyn yn ystod y dyddiau nesaf ond gesiwch beth? Mae'r LCO Iaith mewn trafferth eto! Wel dyna syndod.

Ydych chi'n cofio'r awgrym yna bod popeth wedi ei setlo, bod y gorchymyn ar ddesg Paul Murphy ac y byddai'r Ysgrifennydd Gwladol yn ei gymeradwyo i'r cabinet rhywbryd ym Mis Ionawr? Roedd 'na hyd yn oed dyddiad yn cael ei grybwyll- Ionawr 26.

Dw i bron wedi alaru ar sgwennu'r paragraff nesaf. Diawch, waeth i mi dorri a phastio'r hyn wnes i ysgrifennu ar Ragfyr y degfed.

"Ydych chi'n cofio'r LCO iaith- y cais oedd i fod i gael ei gyhoeddi yn ôl yn y Gwanwyn?
Fe drodd y Gwanwyn yn Haf a'r Haf yn Hydref. Tan heddiw'r addewid oedd y byddai'r cais yn ymddangos "cyn y Nadolig" . Y prynhawn yma yn siambr y cynulliad cyhoeddodd Yr ysgrifennydd Gwladol bod adrannau Whitehall bellach wedi cwblhau'r broses o astudio'r cais. Fe fydd yr LCO felly yn cael ei gyhoeddi. Pryd? Wel, "yn y flwyddyn newydd".
Rhai dyddiau yn ôl clywais fod un o swyddogion Plaid Cymru wedi sgwennu cân "All I want for Christmas is my language LCO". Dim ffiars o beryg".

Beth yw'r broblem y tro hwn? Traed oer yn Swyddfa Cymru ynghylch sancsiynau cyfreithiol yn erbyn Gweinidogion y Goron efallai?

Diweddariad; Mae Llywodraeth y cynulliad yn ymateb i flogs y dyddia 'ma! Dyma'i datganiad;

"Gwnaeth y Prif Weinidog yn glir ddoe ein bod am gyhoeddi'r LCO arfaethedig yn fuan. Dydi llywodraethau ddim yn rhoi sylw ar drafodaethau dydd i ddydd, ond rydyn ni'n edrych ymlaen at gael trafodaeth lawn ar yr LCO pan fydd wedi ei gyhoeddi. Nid ydym yn cynnig sylw ar unrhyw ddyfalu"

Linc

Vaughan Roderick | 15:00, Dydd Mawrth, 13 Ionawr 2009

Sylwadau (0)

Rwyf wedi ysgrifennu ynghylch y posibilrwydd o gynnal refferendwm cyn 2011 ar gyfer y ´óÏó´«Ã½. Gwnâi ddim atgynhyrchu'r erthygl yn fan hyn ond mae croeso i chi ddefnyddio'r post yma i wneud sylwadau.

Wedi'r Torriad

Vaughan Roderick | 12:07, Dydd Mawrth, 13 Ionawr 2009

Sylwadau (4)

Dyma nhw yn ôl felly. Ar ôl dathlu'r Nadolig/gweithio'n ddyfal yn eu hetholaethau mae aelodau'r Cynulliad yn ôl y bae a diawch mae'n teimlo fel "Groundhog Day" gyda Nick Bourne yn amddiffyn ei dreuliau mewn cynhadledd newyddion a Rhodri ac Ieuan yn mynnu bod y gyfundrefn LCOs yn gallu gweithio'n effeithiol.

Fe fydd sefyllfa Nick yn fwy eglur erbyn diwedd yr wythnos dw i'n meddwl. Heddiw cyhoeddodd ei fod am wneud cyfres o areithiau ar hyd a lled Cymru a'i fod wedi ysgrifennu at ymgeiswyr seneddol y Blaid yn cynnig cymorth yn yr etholiad cyffredinol. "Busnes fel arfer" oedd y neges "mae'r ffrwgwd ynghylch treuliau wedi gostegu".

Efallai. Mae oddeutu hanner aelodau'r grŵp Ceidwadol yn dweud yn agored wrth newyddiadurwr eu bod am weld newid arweinydd. Mae un aelod yn dweud ei fod wedi gofyn i Nick rhoi'r ffidl yn y to. Mae Nick yn gwadu hynny. Dyw e ddim yn ymwybodol o unrhyw anniddigrwydd. "Mae'r grŵp yn unedig a chadarn" meddai ac mae'n gwadu bod unrhyw aelod wedi gofyn iddo fynd.

Dyma'r dewis felly;

A. Mae'r aelodau'n dweud celwydd.
B. Mae'r newyddiadurwyr yn dweud celwydd.
C. Mae Nick yn dweud celwydd.
Ch. I ddyfnu Rhodri Morgan "Denial isn't just a river in Egypt".

Mae croeso i chi ffonio ffrind.

Y Deg Uchaf- Aberconwy

Vaughan Roderick | 12:05, Dydd Sul, 11 Ionawr 2009

Sylwadau (4)

Un o gyfres achlysurol yn edrych ymlaen at yr Etholiad Cyffredinol nesaf.

Amser maith yn ôl roedd 'na gyngor o'r enw Aberconwy ac etholaeth o'r enw Conwy. Nawr Conwy yw'r cyngor ac Aberconwy yw'r etholaeth. Nid dyna yw'r unig beth syn gallu drysu dyn am wleidyddiaeth yr ardal.

Tan 1997 roedd gwleidyddiaeth hen etholaeth Conwy yn weddol syml. Roedd 'na bleidlais Geidwadol gadarn ond doedd hi ddim yn cynnwys mwyafrif yr etholwyr. Roedd gafael Wyn Roberts (a chyn 1966, Peter Thomas) ar y sedd yn dibynnu ar fethiant unrhyw un o'r pleidiau eraill i gronni'r bleidlais wrth-geidwadol y tu ôl i'w hymgeisydd. Fe ddaeth y Rhyddfrydwr Roger Roberts yn agos at wneud hynny droeon ond heb lwyddiant.

Mae'n hawdd anghofio erbyn hyn cymaint o ddaeargryn oedd etholiad 1997 ond roedd effaith y daeargryn hwnnw yn amlwg yng Nghonwy.

Llafur 14,561 (35.0%)
Dem. Rhydd. 12,965 (31.2%)
Ceidwadwyr 10,085 (24.3%)
Plaid Cymru 2,844 (6.8%)

Buddugoliaeth drawiadol i Lafur felly ond dim hanner mor drawiadol a'r hyn ddigwyddodd yn etholiad cynulliad 1999.

Plaid Cymru 8,252 (30.6%)
Llafur 8,171 (30.2%)
Ceidwadwyr 5,006 (18.5%)
Dem. Rhydd. 4,480 (16.5%)
Annibynnol 1,160 (4.3%)

Dydw i ddim am eich diflasu trwy restri pob un canlyniad ond fe sefydlwyd patrwm amlwg yng Nghonwy yn 1999 sy'n parhau hyd heddiw ac sy'n sicr o barhau yn yr Aberconwy newydd. Mae'r gwahaniaeth rhwng y patrwm pleidleisio mewn etholiadau cynulliad a phatrwm etholiadau seneddol yn fwy nac yn unrhyw etholaeth arall, bron a bod. Mae 'na reswm da ac amlwg dros hynny.

Mae astudiaethau academaidd wedi dangos bod canran llawer yn uwch o bobol sydd wedi eu geni yng Nghymru yn bwrw pleidlais mewn etholiad cynulliad nac o'r rheiny sydd wedi symud mewn i'r wlad. O'r rheiny sydd wedi eu geni yma mae'r Cymry Cymraeg yn fwy tebygol o bleidleisio na'r di-Gymraeg.

Nawr dyma i chi ychydig o ystadegau am Gonwy (y sir y tro hwn) o gyfrifiad 2001.

Wedi eu geni yng Nghymru; 54%
Wedi eu geni tu allan i Gymru; 46%
Yn medru'r Gymraeg; 29.4%

Fe wnewch chi sylwi yn syth bod Conwy yn cynnwys canrannau sy'n uwch nac arfer o'r grŵp sy'n lleiaf tebygol o bleidleisio- sef y rheiny oedd wedi eu geni tu allan i Gymru ond hefyd o'r grŵp sy'n fwyaf tebygol o bleidleisio- y Cymry Cymraeg. Dyna, ynghyd â thuedd gan rai o gefnogwyr Plaid Cymru i bleidleisio'n dactegol mewn etholiadau seneddol, sy'n gyfrifol am y gwahaniaeth rhwng y patrymau pleidleisio.

Cyn i neb fy nghamddeall rwy'n derbyn yn llwyr bod 'na gefnogaeth i Gareth Jones ymhlith "blue rinses" Llandudno ac i'r Ceidwadwyr ymhlith y Cymry Cymraeg ond mae'r patrwm sylfaenol mewn etholiad cynulliad yn un ffafriol i Blaid Cymru.

Gadewch i ni edrych nesaf ar effaith y newid ffiniau. Yn fras mae Bangor a Dyffryn Ogwen wedi gadael yr etholaeth a Nant Conwy wedi ail-ymuno. Canlyniad hynny yn etholiad cynulliad 2007 oedd troi'r ras o fod yn ornest rhwng Llafur a Phlaid Cymru i fod yn un rhwng Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr. Dyma'r canlyniad.

Plaid Cymru 7,983 (38.6%)
Ceidwadwyr 6,290 (30.4%)
Llafur 4,508 (21.8%)
Dem. Rhydd. 1,918 (9.3%)

Ydy'r un peth yn debyg o ddigwydd yn yr etholiad seneddol? Mae'r dystiolaeth yn amwys.

Pob tro mae ffiniau etholaethau'n newid mae academyddion yn gwneud eu gorau glas i amcangyfrif beth fyddai'r canlyniad wedi bod yn yr etholiad blaenorol pe bai'r ffiniau newydd yn bodoli bryd hynny.

Mae'r yma (y "notional results") yn cael eu paratoi'n ofalus gan ddefnyddio'r fethodoleg orau posib. Serch hynny maen nhw'n anodd eu llunio mewn etholaethau gwledig lle mae presenoldeb cynghorwyr annibynnol yn cymylu'r dystiolaeth ynghylch cryfder y pleidiau mewn gwahanol wardiau. Cymerwch fel esiampl amcangyfrif Rallings a Thrasher o'r canlyniad yn Aberconwy pe bai'r etholaeth honno yn bodoli yn etholiadau cynulliad 2003.

Plaid Cymru 29.7%
Llafur 27.8%
Ceidwadwyr 27.2%
Dem. Rhydd. 15.3%

I ddyfynnu'r hen Ifans "Scersli belief".

Dyma'r amcangyfrif Rallings a Thrasher o "ganlyniad" Aberconwy yn etholiad cyffredinol 2005.

Llafur 31.5%
Ceid 30.6%
Dem. Rhydd. 19.8%
Plaid Cymru 14.4%

Nawr mae'r dystiolaeth o amcangyfrif 2003 yn awgrymu bod y fethodoleg braidd yn ffafriol i Lafur ac yn hynod o anffafriol i Blaid Cymru. Serch hynny, mae hi braidd yn gynnar i gymryd yn ganiataol mai ras rhwng y ceffylau glas a gwyrdd yw hon. Fe fyswn i'n tybio y bydd angen o leiaf 13,000 o bleidleisiau i ennill Aberconwy yn yr etholiad cyffredinol. I Blaid Cymru mae hynny'n golygu pum mil o bleidleisiau'n fwy na chyfanswm Gareth Jones. Gan fod cefnogwyr Plaid Cymru yn troi allan mewn niferoedd tebyg mewn etholiadau cynulliad a seneddol yr unig ffordd i gael y pleidleisiau hynny yw trwy wasgu ar y bleidlais Lafur a phleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol.

Mewn un ystyr mae hi fel bod yn ôl yn nyddiau Syr Wyn. Fe fydd 'na bleidlais Geidwadol sylweddol. Cystadlu am bleidleisiau wrth-geidwadol mae'r tair plaid arall. Ennill y sedd yw'r canlyniad delfrydol, wrth gwrs ond fe fyddai dod yn ail i'r Ceidwadwyr yn fuddugoliaeth o bwys strategol yn y tymor hir i Lafur, Plaid Cymru neu hyd yn oed y Democratiaid Rhyddfrydol.

Gair am yr ymgeiswyr i gloi. Dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw un wedi synnu pan gyhoeddodd Betty Williams ei bod am ymddeol rhai misoedd yn ôl. Y syndod i mi (ac i eraill) oedd ei bod hi wedi bwriadu sefyll yn Aberconwy yn hytrach na'r Arfon newydd. Y ddamcaniaeth oedd y byddai ganddi fwy o gyfle yn y sedd orllewinol. Fe dderbyniodd y ddamcaniaeth yna gythraul o glatsied gan ganlyniad Arfon yn etholiad y cynulliad. Mae'n ddigon posib bod Betty wedi penderfynu nad yw naill sedd na'r llall yn bosib ei hennill y tro nesaf.

Fe fydd yr ymgeisydd Llafur newydd yn gweithio talcen caled wrth gystadlu yn erbyn yr ymgeiswyr atyniadol ac adnabyddus sydd wedi eu dewis gan y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru sef Guto Bebb a Phil Edwards. Er cystal eu rhinweddau mae'r ddau yn wynebu ambell i broblem. Fe fydd Phil yn ei chael hi'n anodd i sicrhâi pleidlais bersonol fel un Gareth Jones yn Llandudno a dw i'n amau y gallai Guto fod yn "rhy Gymreig" i rai o'r etholwyr. Mae UKIP wedi gwneud yn dda yn yr ardal yn y gorffennol. Gallai hynny fod yn broblem i Guto.

Fe fydd llawer yn dibynnu ar yr amseriad a'r amgylchiadau ar y pryd, wrth reswm. Ond, fel mae pethau ar hyn o bryd, byswn yn tybio mai Guto Bebb yw'r ffefryn.

T Llew Jones

Vaughan Roderick | 14:19, Dydd Sadwrn, 10 Ionawr 2009

Sylwadau (2)

Fe wnes i gwrdd a un waith. Rwy'n falch fy mod wedi. Roedd yn gyfle i ddweud diolch.

Pan oeddwn yn grwt roedd llyfrau a chylchgronau Cymraeg i blant yn bethau prin- y llyfrau coch glas a gwyrdd i ddysgu darllen, Llyfr Mawr y Plant, Hwyl a Chymru'r Plant. Dyna fyddai'r cyfan oni bai am T Llew Jones.

Y pwynt am ei lyfrau oedd ein bod yn eu darllen oherwydd eu bod nhw'n lyfrau arbennig o dda nid oherwydd bod athro neu athrawes wedi'n gorchymyn i ddarllen llyfr Cymraeg. Roedd " yr un mor gyffrous ac unrhyw lyfr "Famous Five" a "Thrysor y Mor-ladron" yn curo "Treasure Island" yn rhacs. Fe'n cyfoethogwyd.

Efallai nad heddiw yw'r amser i wneud y pwynt yma ond mae 'na rywbeth bach sy'n fy ngwylltio. Roedd T Llew Jones yn ysgrifennu mewn Cymraeg oedd yn ddeheuol ond yn safonol ac yn gwbwl ddealladwy i blant ym mhob rhan o Gymru. Mae rhai o'n awduron plant heddiw yn 'sgwennu fel pe bai pob un plentyn Cymraeg ei iaith yn dod o Fethesda neu 'Sgubor Goch.

Rwy'n helpu fy nith i ddysgu darllen ar hyn o bryd. Rwyf wedi hen alaru ar gorfod esbonio beth yw ystyr geiriau fel "wsti" ac "hefo". Dydw i ddim yn meddwl y byddai'r un awdur i'r plant lleiaf yn defnyddio'r gair "crwt" mewn llyfr . Sut mae cyfiawnhau defnyddio "hogyn" felly? Beth sy'n bod ar air safonol fel "bachgen"?

e wnes i gwrdd a T Llew Jones un waith. Rwy'n falch fy mod wedi. Roedd yn gyfle i ddweud diolch.

Pan oeddwn yn grwt roedd llyfrau a chylchgronau Cymraeg i blant yn bethau prin- y llyfrau coch glas a gwyrdd i ddysgu darllen, Llyfr Mawr y Plant, Hwyl a Chymru'r Plant. Dyna fydda'r cyfan oni bai am T Llew Jones.

Y pwynt am ei lyfrau oedd ein bod yn eu darllen oherwydd eu bod nhw'n lyfrau arbennig o dda nid oherwydd bod athro neu athrawes wedi'n gorchymyn i ddarllen llyfr Cymraeg. Roedd "Trysor Plasywernen" yr un mor gyffrous ac unrhyw lyfr "Famous Five" a "Thrysor y Mor-ladron" yn curo "Treasure Island" yn rhacs. Fe'n cyfoethogwyd.

Efallai nad heddiw yw'r amser i wneud y pwynt yma ond mae 'na rywbeth bach sy'n fy ngwylltio. Roedd T Llew Jones yn ysgrifennu mewn Cymraeg oedd yn ddeheuol ond yn safonol ac yn gwbwl ddealladwy i blant ym mhob rhan o Gymru. Mae rhai o'n awduron plant heddiw yn 'sgwennu fel pe bai pob un plentyn Cymraeg ei iaith yn dod o Fethesda neu 'Sgubor Goch.

Rwy'n helpu fy nith i ddysgu darllen ar hyn o bryd. Rwyf wedi hen alaru ar orfod esbonio beth yw ystyr geiriau fel "wsti" ac "hefo". Sut mae cyfiawnhau defnyddio "crwt" neu "hogyn" yn lle'r gair safonol "bachgen"? Mae dysgu darllen yn ddigon anodd heb wynebu rhwystr ychwanegol y geiriau anghyfarwydd.

Does dim byd yn bod mewn defnyddio tafodiaith mewn llyfrau i blant hÅ·n neu oedolion ond oes angen gwneud hynny mewn llyfrau dysgu darllen?

Rialtwch

Vaughan Roderick | 21:58, Dydd Gwener, 9 Ionawr 2009

Sylwadau (4)

Mae'n fore Sadwrn. Dyma'r ffilmiau.

Fe wnaeth nifer ohonoch chi fwynhâi gweld agoriad ´óÏó´«Ã½ Alba. Mae 'na lwyth o sianeli mewn ieithoedd bach erbyn hyn. Yng Ngwlad y Basgiaid, er enghraifft, mae ETB1 yn addo rhywbeth ychydig yn wahanol!

Beth yw ieithoedd swyddogol Catalonia? Mae 'na dair ohonyn nhw. Catalaneg, wrth gwrs. Sbaeneg? Si. Iaith Aran (Araneg?) yw'r llall. TV3 sy'n esbonio. Mae angen gwaith a gwybodaeth rydlyd o un o'r ieithoedd Lladinaidd i ddeall hon- ond mae'n werth yr ymdrech.

Dydw i ddim yn mynd i esgus fy mod yn deall y ffilm nesaf! Dim ond 45,000 o bobol sy'n byw ar Ynysoedd Ffaröe. Oes mae 'na sianel Ffaröeg- sef SvF. Dychmygwch sianel wedi ei rhedeg gan Glwb Ffermwyr Ifanc! Croeso i fyd SvF!

Yn olaf y newyddion o Seland Newydd. Mae unrhyw sianel sy'n credu bod hela moch yn haeddu ail bennawd ar y newyddion yn werth ei gwylio!

Smonach

Vaughan Roderick | 16:41, Dydd Gwener, 9 Ionawr 2009

Sylwadau (6)

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyrraedd cytundeb a'r Ysgrifennydd Gwladol ynghylch ffawd yr LCO tai fforddiadwy. Ar yr olwg gyntaf mae'n gosod cynsail difrifol iawn o safbwynt pwerau'r cynulliad.

Mae'r llywodraeth yng Nghaerdydd wedi cytuno na fydd y Cynulliad yn cael dileu'r "hawl i brynu" yn gyfangwbwl heb ganiatâd a chydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol. Hynny yw, er bydd yr LCO yn trosglwyddo pwerau deddfwriaethol i'r cynulliad fe fydd angen caniatâd yr Ysgrifennydd Gwladol i ddefnyddio rhai ohonyn nhw. Does dim ond un gair am hynny. Feto.

Ystyriwch ffawd yr LCO iaith. Ar sail y cynsail hwn mae'n ddigon posib y gallai'r Pwyllgor Dethol Cymreig fynnu bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cael feto tebyg dros fesurau i hybu'r Gymraeg yn y sector breifat, er enghraifft. Mae pwerau'r pwyllgor dethol yn sydyn wedi cynyddu'n sylweddol ar draul y cynulliad. Y pwyllgor dethol fydd yn gosod egwyddorion a phenderfynu polisi. Torri glo mân yn fanach fydd gwaith y cynulliad

Beth ar y ddaear oedd pwynt ail Ddeddf Llywodraeth Cymru os ydy San Steffan yn gallu clymu dwylo'r cynulliad yn y fath fodd- a pham ar y ddaear mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cytuno?

Lincs

Vaughan Roderick | 23:06, Dydd Iau, 8 Ionawr 2009

Sylwadau (1)

Gan fod y drafodaeth ynghylch safon iaith wedi creu cymaint o stŵr mae "Pedant Iaith" wedi sefydlu ei flog ei hun. Dyma'r . Mae'n bosib bod ychydig o ddiogi ieithyddol gen i wedi esgor ar drafodaeth bwysig. Hap a damwain!

Mae hynny'n fy atgoffa nad ydwyf wedi postio set o ddolenni'n ddiweddar. Y ´óÏó´«Ã½, nid fi, sy'n dewis y "blogroll" ond dw i'n sicr eich bod yn mwynhau dewisiadau'r gorfforaeth!

Yn ôl yr arfer fe wnâi grybwyll a rhag ofn bod unrhyw un heb eu darganfod. Does 'na ddim byd arbennig o newydd o safbwynt safleoedd Cymreig. Dyma ddewis eclectig felly.

Mae yn llwyddo i wneud i fi chwerthin. O safbwynt gwleidyddiaeth America rwy'n meddwl y byd o . Wrth hiraethu am yr hen ddyddiau yn fy musnes i does na'r unlle syn well na .

Mwynhewch.

Ni allaf ddianc rhag hwn...

Vaughan Roderick | 19:26, Dydd Mercher, 7 Ionawr 2009

Sylwadau (1)

Ydych chi'n cofio "melltith Lembit"- y ffenomena sy'n sicrhâi dinistr i unrhyw un neu unrhyw beth y mae aelod Maldwyn yn cefnogi. Charles Kennedy, Mark Oaten, Jenny Randerson, Sian Lloyd, ymgyrch y dyn ei hun dros lywyddiaeth ei blaid, mae pob un wedi dioddef o'r felltith.

Ychydig wythnosau yn ôl cyhoeddodd Lembit ei fod am 'sgwennu colofn wythnosol i'r "Daily Sport". Mater o amser oedd hi cyn i'r stori yma ymddangos yn y .

"Sport Media Group, the publisher of the Daily Sport and Sunday Sport newspapers, is looking at a debt for equity swap and other sources of new financing, after breaching one its banking covenants."

O diar.

Deg i dragwyddoldeb

Vaughan Roderick | 11:09, Dydd Mercher, 7 Ionawr 2009

Sylwadau (7)

Dydw i erioed wedi deall pam fod paentio'r bont ar draws Afon Forth yn gymaint o jobyn. Efallai mai un dyn bach yn defnyddio brws sâl sy'n gyfrifol am y dasg! Ta waith, yn ôl y chwedl yr eiliad mae'r gwaith wedi ei gwblhau mae angen dechrau eto.

Rhaglenni noson etholiad yw'r peth agosaf i'r bont ddiarhebol ym myd darlledu. Yr eiliad mae un yn dod i ben mae'n rhaid dechrau ar y nesaf. Y pethau anoddaf a mwyaf pwysig yw sicrhâi bod y meddalwedd ar gyfer cyflwyno'r canlyniadau yn gweithio'n effeithiol a dewis y llefydd i osod yr unedau darlledu allanol. Dydyn ni ddim yn gwneud y dewisiadau cywir bob tro. Fe wnaethon ni golli canlyniad Ceredigion yn 2005, er enghraifft.

Mae dewisi yn gywir ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf yn arbennig o anodd. Mae ambell i sedd yn amlwg. Does dim angen bod yn athrylith i wybod bod yn rhaid bod yn bresennol yn Aberconwy, Maldwyn a Gorllewin Caerfyrddin!

Y tu hwnt i'r rhai amlwg mae'n fwy anodd. Mae'n ymddangos y bydd yr etholiad cyffredinol nesaf yn un eithaf hen ffasiwn. Yr economi, mae'n debyg, fydd maes y gad gyda gwahaniaethau polisi amlwg a sylfaenol rhwng Llafur a'r Ceidwadwyr. Os felly fe fydd yn wahanol iawn i unrhyw etholiad yn ystod y chwarter canrif diwethaf ac mae'n bosib y bydd 'na wasgfa ar y pleidiau llai.

Os ydy hynny'n digwydd (ac mae'n "os" go fawr) fe fydd yn rhaid i ni ychwanegu llwyth o seddi newydd at y rhestr or etholaethau gwledig ecsentrig sydd wedi hawlio'n sylw yn ystod etholiadau diweddar. Fe fyddwn yn ôl ar y tir lle ymladdwyd etholiadau'r chwedegau a'r saithdegau- etholaethau trefol a dinesig ymylol fel Gogledd Caerdydd, Gorllewin Casnewydd a Bro Morgannwg. Mae hynny'n creu problem i ni.

Gan amlaf mae adnoddau yn cyfyngu'r nifer o ddarllediadau allanol i rhyw ddwsin. Y tro hwn mae'n ddigon hawdd llunio rhestr o ugain neu fwy o etholaethau diddorol. Mae hynny'n nifer rhyfeddol o fawr yng nghyd-destun hanes gwleidyddol Cymru. Byswn yn tybio bod yn rhai mynd yn ôl i ddauddegau'r ganrif ddiwethaf i ganfod cymaint o etholaethau gwerth eu gwylio. Dyma fy neg uchaf i- fe fyddaf yn sgwennu'n fanwl am bob un o nhw rhwng nawr a'r etholiad.

Aberconwy
Gogledd Caerdydd
Ceredigion
Bro Morgannwg
Arfon
Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro
Dyffryn Clwyd
Ynys Môn
Maldwyn
Pen-y-bont

Mae croeso i chi anghytuno. Beth am Frycheiniog a Maesyfed, Llanelli a Gorllewin Abertawe? Oes gobaith gan Lafur ad-ennill Gorllewin Clwyd? Roedd De Clwyd a Gŵyr yn ymylol yn etholiad y cynulliad- ydy'r un peth yn wir mewn etholiad cyffredinol? Mae 'na ddigon i drafod!

Trafodaeth

Vaughan Roderick | 22:09, Dydd Mawrth, 6 Ionawr 2009

Sylwadau (15)

Rwy'n teimlo bod 'na drafodaeth dda a phwysig (efallai) wedi codi ynghylch cywirdeb iaith. Dw i am wneud rhywbeth anarferol trwy ail-gyhoeddi'r post a'r sylwadau a'ch croesawi i wneud sylwad. Diawl, weithiau mae ychydig bach o ddiogi yn talu o safbwynt cael ymateb!

Dyma'r post gwreiddiol.

Dydw i ddim yn cyhoeddi pob un o'r sylwadau sy'n cael eu postio ar y blog yma. Weithiau mae nhw'n anghymwys, weithiau mae nhw'n bersonol.

Ddoe fe dderbyniais un sylwad (caredig, dw i'n meddwl) gyda chais i beidio cyhoeddi. Gan barchu hynny, ac heb ei ddyfynnu, mae'n codi pwynt hynod ddiddorol. Hanfod y sylwad oedd bod 'na nifer o wallau gramadegol yn y post "Hen Hanes". Dydw i ddim am wastraffu amser yn anghytuno a'r cyweiriadau. Dyw post bach diog o gartref ddim cweit mor drylwyr ac erthyglau o'r gwaith!

Ond mae'n codi cwestiwn diddorol. Cwestiwn "mas a gras" os liciwch chi. Mae emynau Pantycelyn yn gyson yn defnyddio "mas" a "gras" fel geiriau sy'n odli. Mae'r llyfrau emynau ar y llaw arall yn gyson yn troi'r "mas" yn "maes" gan golli'r odl. Mae'r cywirdeb ieithyddol yn lladd y farddoniaeth.

Wrth gychwyn y blog 'ma fe wnes i benderfynu defnyddio Cymraeg ychydig yn wahanol i'r iaith y byswn yn defnyddio wrth 'sgwennu erthyglau newyddion- sef rhyw fath o fersiwn ysgrifenedig o'r iaith dw i'n ei siarad yn ddyddiol. "Dw i" yn lle "rwyf" neu " mi ydwyf", "mas" yn lle "allan", "cryts" yn lle "bechgyn", "taw" yn lle "mai" ac yn y blaen.

Mae'r rheiny efallai yn wallau ieithyddol -os ydych chi'n feistr at y Cywiriadur Cymraeg- ond mae'r gwallau hynny'n ran o ymgais i ddod o hyd i ffordd o sgwennu sy'n ddarllenadwy i bobol nad ydynt gan amlaf yn darllen Cymraeg.

Mae'r "stat-porn"ynghylch nifer darllenwyr y blog yma'n awgrymu rhyw faint o lwyddiant. Mae'r adwy rhwng y nifer o bobol sy'n medru siarad Cymraeg a'r nifer sy'n gallu ei darllen yn broblem ddifrifol. Mae 'na angen ddybryd i greu Cymraeg ysgrifenedig sy'n ddealladwy i siaradwyr Cymraeg yn hytrach nac iaith sy'n eiddo i gwlt o ramadegwyr.

Mae 'na beryglon wrth gwrs. Mae safonau gramadegol yn bwysig. Ond mae'n beryglus hefyd i ddyrchafu'r Gymraeg i fod yn iaith sy'n eiddo i'r ychydig sy'n gallu ei sgwennu mewn modd clasurol gywir Ydy ni'n credu, mewn gwirionedd, bod sefyllfa'r Gymraeg mor gryf nes ei bod yn gallu fforddio bod yn llai hyblyg na'r Saesneg?

Os oedd "mas" yn ddigon da i Bantycelyn mae'n ddigon da i fi.

Vaughan

Dyma'r sylwadau.

Fyddwn i ddim yn poeni'n ormodol.'Dwi'n blogio'n rheolaidd a 'dwi'n defnyddio dull 'sgwennu sy'n gyfaddawd rhwng fy iaith lafar a fy iaith ysgrifenedig.Dyna ti'n ei wneud - ac yn fy marn bach i, dyna'r ffordd briodol i flogio.
Blogmenai

Cytuno'n llwyr bod angen i'r Gymraeg fod yn hyblyg - mewn gwirionedd mae'n fy mhoeni i yn fwy i weld gwallau gramadegol syml fel diffyg atalnod llawn a ballu, na ffurfiau tafodieithol. Eto i gyd, wrth gwrs, mae angen rheolau - ac er ei bod yn wir i ddweud mai ychydig gannoedd ohonom ni sy'n cyrraedd unrhyw safon ac yn gwbl hyderus gyda'r iaith ysgrifenedig, y peth pwysica' ydy ein bod ni'n trafod ac yn dadlau am y pethau 'ma yn agored. Neu fel arall sut ydyn ni i fod i ddysgu?
Iesgob Annwyl

Posib dweud mwy am yr ystadegau Vaughan? Ffigyrau?
Dewi

(Ateb;Dydw i ddim yn y gwaith ar hyn o bryd ond fe wnai)

Am eich bod chi wedi dewis codi'r pwynt yn gyhoeddus, buasai'n well gen i pe tasech chi wedi trafod yr union bwyntiau a godais innau. Dan yr amgylchiadau hyn, fyddai dim ots gen i pe bai'r sylwad o'r blaen yn cael ei gyhoeddi. Eto, does dim ots gen i 'chwaith os penderfynwch y dylai'r drafodaeth ddod i ben fan hyn.
Fyddwn i ddim yn dychwelyd at y pwynt, oni bai eich bod chi wedi cam-ddehongli fy neges gynt ryw ychydig.
Nid "mas" vs "maes" (neu "ma's") oedd dan sylw o gwbl gen i. Sylwch na soniais i o gwbl am eich defnydd o "ochor", "pobol", "Dadlau... [y] mae Huw Lewis", "...yn weithred [ ]wleidyddol" a.y.b.. Nid y "tafodiaethol" vs y "clasurol" oedd gen i mewn golwg, ond *cywirdeb" (fel dw i'n ei weld).
Tri phwynt gramadegol a godais innau yn fy neges, os cofiaf yn iawn (yn ogystal â rhai manion dibwys ynghylch atalnodi ac ati - manion na ddylwn fod wedi eu crybwyll mewn gwirionedd). Yr unig bwyntiau y soniais amdanynt oedd y rhai a wnaeth y gwaith o ddarllen yn anos imi, sef:
i) y dryswch yn eich blog rhwng ffurfiau berfol unigol a lluosog. Mae hyn i'w weld eto yn y blog diweddaraf: "Ydy [sic] ni'n credu" yn lle "Ydyn ni'n credu" (sylwer, nid wy'n mynnu taw "ydym ni" gydag "-m" sydd i'w ddefnyddio yma).
Mae'n wir taw gwall teipio yw hwn yn fwy na thebyg, ond mae'n anffodus iawn fod y gwall penodol hwn yn un sy'n lledu ar dudalennau ´óÏó´«Ã½ Cymru'r Byd, a dylid gofalu rhag ofn i'r defnydd "swyddogol" yma ei droi yn ffurf 'dderbyniol'.
ii) Diffyg treiglad meddal mewn berf ar flaen cymal negyddol: "Gwnaeth ychydig ddyddiau fawr o wahaniaeth" yn lle "Wnaeth..." (pwynt bach iawn, mae'n wir, sy'n hawdd ei anghofio wrth ysgrifennu ar frys, ond mae'r treigladau yn bwysig o hyd).
iii) nid "mai" vs "taw" oedd fy mhwynt i (rydw i, fel un o Sir Gâr, yn hollol o blaid "taw"!), ond "mai" vs "mae" mewn cymalau perthynol.
Rydym ni'n hollol gytûn y dylid defnyddio "Cymraeg ysgrifenedig ... dealladwy", a hefyd rwy'n cytuno fod hyblygrwydd y Saesneg yn beth da. Mae'r ´óÏó´«Ã½ Saesneg yn lle gwych i glywed - ac i ddarllen - trafodaethau am gywirdeb ac esblygiad ieithyddol. Eto, mae byd o wahaniaeth rhwng sefyllfaoedd y ddwy iaith.
Efallai y dylwn ychwanegu fy mod i'n parchu'ch gwaith chi yn fawr iawn - a hefyd waith William Williams, er na fyddwn i'n mynd â'r gymhariaeth yn rhy bell (^^), ac - ie - roedd y neges i fod yn "garedig"! 'Mond dadlau er mwyn y ddadl, efallai - ond mae'n ddadl bwysig.
Diolch ichi. Rwy'n gobeithio fod hyn wedi egluro fy marn ryw ychydig.
(Gan ymddiheuro am unrhyw wallau teipio yn y neges frysiog yma!)

Pedant Iaith

Cytuno'n llwyr. Mae sawl cywair i iaith a does dim mor chwithig ag arddull lenyddol yn cael ei gwthio ar drafodaethau anffurfiol. Ac os nad yw'r bobl yr anelir atyn nhw'n deall yr hyn sy'n cael ei ddweud neu'i ysgrifennu mewn unrhyw iaith mae'r awdur wedi methu. Byddai'n well iddo fo neu hi ganolbwyntio ar weu.Ond, i hollti blew ac i ddangos y gallaf innau fod yn bedant hefyd, mae 'sicrhâi' yn codi fy ngwrychyn. 'Sicrhau' yw'r sillafiad cywir. Mae hwn yn gwestiwn sy'n codi ei ben yn aml yn y Gymraeg. Rydw i'n credu taw diffyg siaradwr "cyffredin" yw rhan o'r broblem. Mae yna lwyth o bobl sy'n mynnu ar ddefnyddio iaith gor-ffurfiol ac mae yna lwyth sy'n mynnu ar ddefnyddio iaith gor-dafodieithol. Ond does yna uffern o lawer ohonom sy'n bodoli yn y canol. Felly mae'n anodd dod o hyd iaith gyffredin, anodd dod o hyd diffiniad o beth yw'r fath beth.
Ar fy rhan i, rydw i'n anelu at ddefnyddio iaith Wlpanaidd gyda sillafu cywir. Yn fy marn i, does pwynt i sillafu gair yn "anghywir" er mwyn gweddu ei ynganiad. Megis "falle" yn lle nag "efallai" -- gellir ynganu gair yn ôl pa bynnag awydd ond does angen ei sillafu'n wahanol. Oherwydd mae'n achosi drysu -- yn enwedig ymhlith ni dysgwyr annwyl. Allem ni ddim canfod y gair yn ein geiriaduron. A dyna ddylai fod yn amcan ryw iaith gyffredin -- bod yn ddealladwy i gynifer â phosib. Ar y cyfan rydw i'n credu eich bod yn llwyddo yma.

Chris

Fel ddwedais i fe wnes i gymryd y post fel un caredig. Efallai bod 'na werth i fi nodi un peth. Er bod y blog yma'n ymddangos ar wefan y ´óÏó´«Ã½, fi, a fi'n unig, sy'n gyfrifol am y cynnwys. Mae 'na fanteision ac anfanteision yn hynny ond does na ddim "staff" enfawr yn gofalu am y cynnwys. Y gwir amdani yw fy mod yn tueddu bod yn weddol llipa o safbwynt cywirdeb ieithyddol wrth flogio yn fy amser hamdden.
Vaughan

O Chris, gwir pob gair. Pam ar y ddaear y mae pobol yn mynnu bod "Mae nhw" yn anghywir a "maen nhw" yn gywir ac eithrio bod Syr John Morris Jones wedi penderfynu hynny ar fympwy? Fe fydd rhyw un yn cynnig esboniad!
Vaughan

Mae "nhw" yn rhagenw personol, ac maen nhw (a ni) yn dilyn y rheol sillafu yma er mwyn i eraill fedru deall ein brawddegau.
Yn hanesyddol, siwr iawn, y rheswm dros y gwahaniaeth yma yw bod "maen nhw" yn deillio o "maent (hwy)", a'r terfyniad berfol yn "-t" yno yn glir. Wrth golli'r "-t" ar lafar (ac mewn cyweiriau llai ffurfiol) mae angen cadw'r "-n" er mwyn gwahaniaethu.
Arfer a chonfensiwn yw'r cyfan, wrth gwrs, megis pob rheol iaith. Ond mae rheolau o'r fath yn bwysig, a hebddi nw byzhe ny miwn tipun o bucyl ac yn ool yn y kanol oesoet nev rywbet! :)

Pedant Iaith

Hmm.. Dyma gwestiwn caled. Rwyf i yn 'pedantic' eithradol yn y Saesneg, ond mae gramadeg fy Nghymraeg yn wael iawn.. ac yn mynd yn waeth.
Trici iawn...

Beddgelert

Diawl, mi wyt ti'n dda!
Vaughan

Mae datblygiad iaith yn ddeinamig. Buaswn wrth fy modd yn darllen blogs Vaughan yn iaith tects....P9n 'ma, neu dros y Pen8nos.....
Dewi

Pedant - ti'n codi nifer o bwyntiau da a dwi mewn parchedig ofn o dy allu i ddeall gramadeg. Ond, gan gymryd fod gwahaniaeth rhwng 'Maen nhw' a 'Mae nhw' tydw i heb gam-ddeall beth sydd gan Vaughan neu eraill dal sylw. Mae'r un peth yn wir am 'Ydyn nhw' (yn hytrach na'r anghywir 'ydy nhw'). Mae'n rhaid cael safon ond onid y cwestiwn a yw'n amser i ni newid beth yw'r safonnau hynny. Os nad ydy pobl yn cael trafferth deall fod Mae nhw yn cyfleu mae'n nhw, yna oni ddweud mai 'mae nhw' / ydy nhw' sy'n yw'r ffurf safonnol bellach? Iesgob, os nad ydy Vaughan ac eraill methu sgwennu Cymraeg cywir, yna pwy ddiawl sydd? Efallai ei bod yn amser symleiddio pethau? Pwynt Chris Cope yn un da - doeddwn i hwb feddwl am beth o'r safbwynt honno o'r blaen.

D.enw


Ar y Silff

Vaughan Roderick | 15:32, Dydd Mawrth, 6 Ionawr 2009

Sylwadau (1)

Pam mae pawb yn credu fy mod i'n dymuno cael llyfrau fel anrhegion Nadolig? Efallai byswn wedi hoffi Nintendo Wii neu iPod- beth bynnag yw'r rheiny. Efallai bod pobol yn credu fy mod yn gallu hawlio am bethau fel 'na ar "dreuliau"! Sori, dydw i ddim yn aelod cynulliad Ceidwadol!

Ta beth, fe ddaeth y stoc arferol o lyfrau ac erbyn hyn dw i wedi cael cyfle i bori trwy'r rhan fwyaf ohonyn nhw. Dyma ambell i argraff.

Mae'n ymddangos bod Peter Finch wedi penderfynu manteisio ar lwyddiant "Real Cardiff" a "Real Cardiff 2" trwy lansio cyfres yn dilyn yr un fformat. Mae Peter ei hun wedi 'sgwennu "" (sy'n swnio fel gorsaf radio i fi) ond y trysor yw "" gan Mario Basini. Mae darllenwyr y "Western Mail" yn hen gyfarwydd a safon 'sgwennu Mario a'i safbwyntiau cadarn a digyfaddawd. Mae fe ar ei orau wrth drafod tref ei febyd. Dyma un paragraff bach sy'n cyfleu'r naws- disgrifiad o un o beldroedwyr y dref.

"The short, mercurial Jenkin Powell had legs so bowed it was a miracle he could walk, let alone run with an eel's electric speed... Journalists and fans usually softened his first name to Shenkin. From there it was a short step to the nickname "stinkin". But it was always a term of affection."

Un arall o "enwau mawr" y Western mail yw John Humphries awdur "". Fel mae'r teitl yn awgrymu adrodd hanes mudiadau treisgar Cymru yn ail hanner yr ugeinfed ganrif mae'r llyfr. Mae'n ddifyr ac yn ddarllenadwy. Yn anffodus dydw i ddim yn meddwl bod John yn dod yn agos at brofi ei brif ddamcaniaeth sef bod 'na gysylltiadau uniongyrchol rhwng y gwahanol grwpiau ac unigolion bu'n gosod dyfeisiadau a chynnau tannau ar hyd y degawdau. Mae John yn osgoi'r cwestiwn amlwg. O gofio bod yr heddlu yn y chwedegau wedi dal arweinwyr MAC a'r FWA- sut ar y ddaear wnaethon nhw fethu dal arweinwyr Meibion Glyndwr- os oedd y cysylltiadau hynny'n bodoli?

Darlledwr o dras Cymreig yw Alan Jones ond dyw'r gair "darlledwr" ddim yn cyfleu maint ei ddylanwad ar wleidyddiaeth Awstralia. Jones yw Rush Limbaugh neu Bill O'Reilly Sydney- y darlledwr radio asgell dde sydd yn gallu dinistrio gyrfaoedd gwleidyddol a bywydau unigol. Dydw i erioed wedi darllen bywgraffiad mor ddamniol a "Jonestown" gan Chris Masters- ond nid polemig yw'r llyfr. Cam wrth gam mae'r awdur yn olrhain y ffeithiau ac yn cyflwyno ei dystiolaeth. Mae'n croniclo llygredd Jones wrth dderbyn arian gan gwmnïau ac yna eu canmol ar yr awyr, ei gelwyddau ynghylch ei fywyd rhywiol a phersonol a'i effaith ddinistriol ar wleidyddiaeth. Ond, fel mae Masters ei hun yn nodi, dyw cyhoeddi'r llyfr ddim wedi cael unrhyw effaith ar Jones, ei yrfa na'i boblogrwydd. Mae hynny yn arwydd o'i bwêr.

Mater o deyrngarwch

Vaughan Roderick | 12:40, Dydd Llun, 5 Ionawr 2009

Sylwadau (8)

Mae un o gryts fy nheulu yn wynebu argyfwng. Er ei fod yn un o selogion y "Spar Family Stand" ym Mharc Ninian penderfynodd y bychan ei fod am gael tîm i gefnogi yn uwch gynghrair Lloegr a chystadlaethau Ewrop. Er mwyn efelychu Aaron Ramsey penderfynodd mai Arsenal fyddai'r tîm hwnnw. Nawr, beth sydd wedi digwydd? Cwpan yr FA, y bedwaredd rownd. Caerdydd v Arsenal. Och! Gwae ni! Beth i wneud? Pwy i gefnogi? Mae penderfyniadau fel 'na'n anodd yn ddeg oed!

Mae teyrngarwch emosiynol yn bwysig mewn gwleidyddiaeth hefyd. Mae cysylltiad plaid a'i chefnogwyr yn aml iawn yn dibynnu'n fwy ar emosiwn a "ffyddlondeb i'r tîm" nac ar unrhyw benderfyniad polisi neu rinwedd yn yr arweinyddiaeth. Dyna yw'r rheswm, mae'n debyg, am y casineb tuag at unrhyw un sy'n newid plaid. Mae Alun Davies yn dioddef hynny ar hyn o bryd ac er nad yw e wedi cymryd y cam olaf trwy ymuno â Phlaid Cymru mae Ron Davies yn destun gwawd yn rhengoedd y Blaid Lafur.

Go brin bod unrhyw un wedi dioddef yn fwy o'r ffenomena nac Elystan Morgan. I'r rheiny sy'n rhy ifanc i gofio safodd Elystan dros Blaid Cymru ym Meirionnydd yn 1964. Ef oedd y "Gwynfor ifanc"- mab darogan ei blaid. Erbyn 1966 roedd wedi troi at Lafur gan ennill Ceredigion i'r blaid. Collodd ei sedd yn 1974 a methiant fu ymdrech i ddychwelyd i'r senedd fel aelod Llafur Ynys Môn.

Eironi'r stori yw bod Elystan wedi cam-ddarllen y sefyllfa wleidyddol yng Nghymru. O fewn misoedd i'w ethol yn 1966 daeth is-etholiad Caerfyrddin. Does dim dwy waith yn fy meddwl i y byddai Elystan wedi ennill Meirionnydd neu Geredigion i Blaid Cymru yn 1970 neu 1974 pe bai heb newid ei blaid. Dw i'n argyhoeddedig hefyd y byddai wedi dal y naill sedd neu'r llall heb fawr o drafferth mewn etholiadau dilynol.

Nawr, mae Elystan wedi cael bywyd da a llawn fel arglwydd a barnwr. Serch hynny mae'n anodd peidio teimlo bod 'na elfen o drasiedi a gwastraff ynghylch ei yrfa. Ar ben hynny fe wnaeth ddioddef blynyddoedd o wawd a chasineb gan genedlaetholwyr. "Athelstan Organ" oedd Elystan yn ôl "Lol" ac roedd posteri yn ei wawdio ar welydd colegau a stondinau `steddfod. Trwy hyn oll fe gadwodd ei urddas. Glynodd at ei egwyddorion gwleidyddol hefyd gan arwain yr ymgyrch "Ie" yn refferendwm 1979- jobyn di-ddiolch os buodd un erioed!

Y cwestiwn sy' gen i yw "pam?"- ond nid cwestiwn i Elystan yw hwnnw. Mae'n ddigon hawdd deall y cymysgedd o rwystredigaeth ac uchelgais wnaeth arwain at ei benderfyniad yntau. Yn hytrach mae'n gwestiwn i gefnogwyr Plaid Cymru a'r pleidiau eraill. Pam y casineb parhaol tuag at Elystan ac eraill? Pam mae Alun Davies a Ron Davies yn cael eu dirmygu? Ydy unrhyw un sy'n newid ei feddwl yn "fradwr"? Sut mae rhyw un sy'n cael ei ganmol fel arwr un diwrnod yn gallu troi'n ddarn o faw ci dros nos?

Mae teimlad o siom, dicter hyd yn oed, wrth i rhyw un adael plaid yn ddealladwy- ond oes rhaid i'r peth bara am byth?

Rialtwch

Vaughan Roderick | 09:18, Dydd Sul, 4 Ionawr 2009

Sylwadau (6)

Diawch, fe wnes i bron anghofio postio'r ffilmiau wythnosol. Dyma nhw. Fe wnaethon ni yn ´óÏó´«Ã½ Cymru ddathlu genedigaeth ein brawd bach, ´óÏó´«Ã½ Alba, yn 2008. Dyma agoriad y sianel Aeleg. Trefniant o "Alba" gan Runrig yw'r gân.


Roeddwn i'n meddwl bod gyrfa Jerry Springer yn destun od ar gyfer opera! Mae hwn yn fwy rhyfedd!

A'r gair olaf am etholiadau America.


Iaith Pawb

Vaughan Roderick | 00:06, Dydd Sul, 4 Ionawr 2009

Sylwadau (13)

Dydw i ddim yn cyhoeddi pob un o'r sylwadau sy'n cael eu postio ar y blog yma. Weithiau mae nhw'n anghymwys, weithiau mae nhw'n bersonol.

Ddoe fe dderbyniais un sylwad (caredig, dw i'n meddwl) gyda chais i beidio cyhoeddi. Gan barchu hynny, ac heb ei ddyfynnu, mae'n codi pwynt hynod ddiddorol. Hanfod y sylwad oedd bod 'na nifer o wallau gramadegol yn y post "Hen Hanes". Dydw i ddim am wastraffu amser yn anghytuno a'r cyweiriadau. Dyw post bach diog o gartref ddim cweit mor drylwyr ac erthyglau o'r gwaith!

Ond mae'n codi cwestiwn diddorol. Cwestiwn "mas a gras" os liciwch chi. Mae emynau Pantycelyn yn gyson yn defnyddio "mas" a "gras" fel geiriau sy'n odli. Mae'r llyfrau emynau ar y llaw arall yn gyson yn troi'r "mas" yn "maes" gan golli'r odl. Mae'r cywirdeb ieithyddol yn lladd y farddoniaeth.

Wrth gychwyn y blog 'ma fe wnes i benderfynu defnyddio Cymraeg ychydig yn wahanol i'r iaith y byswn yn defnyddio wrth 'sgwennu erthyglau newyddion- sef rhyw fath o fersiwn ysgrifenedig o'r iaith dw i'n ei siarad yn ddyddiol. "Dw i" yn lle "rwyf" neu " mi ydwyf", "mas" yn lle "allan", "cryts" yn lle "bechgyn", "taw" yn lle "mai" ac yn y blaen.

Mae'r rheiny efallai yn wallau ieithyddol -os ydych chi'n feistr at y Cywiriadur Cymraeg- ond mae'r gwallau hynny'n ran o ymgais i ddod o hyd i ffordd o sgwennu sy'n ddarllenadwy i bobol nad ydynt gan amlaf yn darllen Cymraeg.

Mae'r "stat-porn"ynghylch nifer darllenwyr y blog yma'n awgrymu rhyw faint o lwyddiant. Mae'r adwy rhwng y nifer o bobol sy'n medru siarad Cymraeg a'r nifer sy'n gallu ei darllen yn broblem ddifrifol. Mae 'na angen ddybryd i greu Cymraeg ysgrifenedig sy'n ddealladwy i siaradwyr Cymraeg yn hytrach nac iaith sy'n eiddo i gwlt o ramadegwyr.

Mae 'na beryglon wrth gwrs. Mae safonau gramadegol yn bwysig. Ond mae'n beryglus hefyd i ddyrchafu'r Gymraeg i fod yn iaith sy'n eiddo i'r ychydig gannoedd neu filoedd o bobol sy'n gallu ei sgwennu mewn modd clasurol gywir Ydy ni'n credu, mewn gwirionedd, bod sefyllfa'r Gymraeg mor gryf nes ei bod yn gallu fforddio bod yn llai hyblyg na'r Saesneg?

Os oedd "mas" yn ddigon da i Bantycelyn mae'n ddigon da i fi.

Hen Hanes

Vaughan Roderick | 14:11, Dydd Sadwrn, 3 Ionawr 2009

Sylwadau (3)

Mi ydw i ychydig ar ei hôl hi wrth sgwennu am gynlluniau i wario dwy filiwn o bunnau ar ddiogelu safleoedd hanesyddol sydd yn ôl y gweinidog treftadaeth yn "rhan annatod o'n cenedligrwydd, ein hiaith a'n diwylliant ni fel Cymry." Maen nhw wedi sefyll ers canrifoedd gwnaeth ychydig ddyddiau fawr o wahaniaeth!

Peidied neb a meddwl nad yw'r penderfyniad yma yn un cyfan gwbwl wleidyddol. Does ond angen edrych ar y rhestr o safleoedd i ddeall beth yw'r bwriad. Glyndyfrdwy, Sycharth, Abergwyngregyn, Abaty Cwm Hir, Ystrad Fflur, Pennal. Mae fel darllen fel mynegai i un o lyfrau hanes Gwynfor Evans!

Roedd gan Gwynfor gymhelliad gwleidyddol fel hanesydd. Does dim byd yn bod ar hynny. Mae'n wir am nifer o haneswyr. Fe gafodd y cymhelliad hwnnw ei gyfleu'n dda gan yr Athro Jac L Williams pan ddywedodd bod "cof cenedl cyn bwysiced a'i hiaith o safbwynt ei pharhad". Mae'n dealltwriaeth o'n hanes, ein mytholeg cenedlaethol os dymunwch chi, yn dylanwadu'n enfawr ar ein gwleidyddiaeth. Dyw hi ddim yn afresymol i ddadlau, er enghraifft, mae'r rheswm y mae Cymry Cymraeg yn fwy tebygol o gefnogi Plaid Cymru yw bod eu dealltwriaeth o hanes Cymru yn wahanol ac yn fwy dwys na dealltwriaeth y di-Gymraeg.

Rwy'n symleiddio braidd trwy ddweud bod 'na ddwy garfan o haneswyr yng Nghymru ond mae 'na wirionedd yn yr honiad. Ar y naill ochor mae'r haneswyr sy'n gweld hanes y Cymry fel un stori hir -rhyw fath o linyn arian sy'n ein cysylltu ni heddiw a Merched Beca, Owain Glyndŵr, Catraeth a'r Brythoniaid, pobol fel Syr John Lloyd, Gwynfor Evans a John Davies. Yr Athro Dai Smith, efallai, yw'r enghraifft orau o'r garfan arall, pobol sy'n gweld hanes Cymru fel cyfres o chwyldroadau- proses hir o ddinistrio, ail-greu a thrawsnewid. Dyw'r haneswyr hynny ddim yn gwadu bod y Cymry yn genedl ond maen nhw'n dadlau bod bron popeth sy'n ein nodweddu fel cenedl yn gynnyrch canrifoedd olaf yr ail mileniwm. Dadlau dros y fersiwn honno o hanes mae Huw Lewis gyda'i ymgyrch i sefydlu ym Merthyr.

Mae'n rhaid edrych ar gyhoeddiad Alun Ffred Jones yn y cyd-destun hwnnw. Mae dyrchafu safleoedd sydd yn bwysig yn y fersiwn genedlaetholgar o hanes Cymru yn weithred gwleidyddol- yn rhan o ymdrech i "adeiladu'r genedl". Cofiwch, roedd yr arfer o anwybyddu'r safleoedd yma yn y gorffennol yr un mor wleidyddol.

Dadl Cadw a'i rhagflaenwyr oedd bod 'na "lai i weld" yn y safleoedd Cymreig. Mae'n wir nad yw olion Sycharth yn cymharu a Chestyll Edward I ond ai dyna oedd y gwir reswm? Yn Nyffryn Hafren, er enghraifft trysorwyd a diogelwyd Castell Normanaidd . Cafodd Castell Llywelyn yn , sydd mewn cyflwr digon tebyg, ei anwybyddu. Mae'n rhyfeddol nodi na chafwyd unrhyw waith archeolegol nac unrhyw ymdrech i ddiogelu Dolforwyn tan wythdegau'r ganrif ddiwethaf.

Mae'n bosib dadlau mae gwneud yn iawn am gamweddau'r gorffennol mae Alun Ffred felly. Serch hynny fe fydd hi'n hynod ddiddorol gweld sut mae Cadw yn dehongli'r safleoedd yma i'r cyhoedd a pha fersiwn o'n hanes sy'n cael ei gyflwyno.

Plesio Peter (eto)

Vaughan Roderick | 10:57, Dydd Gwener, 2 Ionawr 2009

Sylwadau (8)


Rwyf wedi penderfynu cynnig ymateb difrifol i . Dydw i ddim yn credu fy mod yn llaw drwm wrth drafod y Democratiaid Rhyddfrydol ond gan fod Peter o'r farn fy mod i dyma ddeg o bethau da am Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru.

1.Gweithgarwch eu cynghorwyr. Ar y cyfan mae cynghorwyr y Democratiaid Rhyddfrydol yn hynod weithgar a chydwybodol.
2.Effeithlonrwydd eu cynghorau. Mae'r cynghorau y mae'r blaid yn eu harwain at eu gilydd yn rhai effeithiol a di-sgandal.
3.Richard Livsey. Y gwleidydd mwyaf hoffus yng Nghymru.
4.Haelioni. Mae parodrwydd aelodau'r blaid i ymestyn i'w pocedi eu hun i ariannu'r blaid yn rhyfeddol.
5.Dewrder. Dyw'r aelodau'r blaid ddim yn ofni safiadau amhoblogaidd- yn enwedig ynghylch Ewrop.
6.Eleanor Burnham a Mick Bates. Fe fyddai'r cynulliad yn hynod o ddi-liw hebddynt!
7.Teis Peter Black. Ditto.
8.Bod yn wrthblaid. Dyw hi ddim yn beth iach i unrhyw blaid allu cymryd sedd yn ganiataol. Mae 'na lwyth o seddi lle mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cadw plaid arall ar ei thraed.
9.Lembit. Beth fyddai "Wales on Sunday" yn gwneud hebddo?
10.Anoraciaeth. Sylweddoli nad pethau amherthnasol a dibwys yw pynciau cyfansoddiadol megis systemau pleidleisio a datganoli. Y cyfansoddiad yw fframwaith ein cymdeithas ac mae cael y fframwaith cywir yn angenrheidiol i bopeth arall.

Dyna ddigon am eleni.

Plesio Peter

Vaughan Roderick | 23:45, Dydd Iau, 1 Ionawr 2009

Sylwadau (1)

Dw i'n hoff iawn o Peter Black. Ar ei mae e wedi rhestri cyfres o ddymuniadau ar gyfer y flwyddyn newydd. Yn eu plith mae hwn.

"7. Vaughan Roderick will write something nice about the Welsh Liberal Democrats on his blog."

Iawn. Dim problem. Mae "Rhyddid Canolog" yn enw ardderchog ar eu pencadlys.

Adroddiad Blynyddol

Vaughan Roderick | 20:52, Dydd Iau, 1 Ionawr 2009

Sylwadau (5)

Ond dyw hi'n rhyfedd meddwl ein bod ni bron wedi cyrraedd hanner ffordd trwy oes y trydydd cynulliad? Efallai bod y calan yn gyfle i ni lunio rhyw fath o adroddiad blynyddol i weld sut mae'r criw presennol o aelodau yn cymharu a'u rhagflaenwyr.

Doedd dim dwy waith, yn fy meddwl i, bod yr ail gynulliad yn wannach na'r cyntaf. Hynny oherwydd ymadawiad nifer o wleidyddion profiadol fel Dafydd Wigley, Ron Davies a Cynog Dafis. Ar y cyfan doedd gwaed newydd 2003 ddim yn argyhoeddi. Gyda dim ond trigain o aelodau does 'na ddim lle yn y cynulliad i ormod o ddyffars- a dyffars, mae gen i ofn, oedd nifer o newydd-ddyfodiad 2003. Mae criw 2007 ar y llaw arall wedi bod yn chwa o awyr iach ac wedi cyfrannu llawer at wella safon y trafod yn y Bae.

Ar feinciau Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr y mae'r rhan fwyaf o'r newydd-ddyfodiad yn eistedd wrth gwrs. Gadewch i ni edrych arnyn nhw fesul plaid.

Etholwyd pedwar aelod Plaid Cymru newydd ac un "re-tread" yn 2007. Does dim angen dweud bod y "re-tread" Gareth Jones yn gaffaeliad i'r grŵp. Mae'r aelodau newydd ar y llaw arall wedi pery loes calon i mi trwy orfodi i mi lyncu fy ngeiriau. Dw i wedi pregethu troeon y dylai'n gwleidyddion brofi "bywyd go-iawn" cyn mynd i wleidydda'n llawn amser. Mi ydwyf o hyd yn meddwl bod 'na beryglon mewn cael "dosbarth gwleidyddol" sy'n symud yn syth o'r coleg i fod yn ymchwilwyr ac yna'n aelodau. Ond yn achos Plaid Cymru does dim dwywaith mae'r ddau aelod newydd sydd wedi gwneud marc yw'r ddau sy'n disgyn i'r dosbarth hwnnw sef Nerys Evans a Bethan Jenkins. Mae'r ddau aelod o'r "byd go iawn" Chris Franks a Mohammad Asghar yn aelodau meinciau cefn os buodd 'na rai erioed. Dw i'n amau fy mod wedi bod yn gyfoglyd o nawddoglyd wrth sôn am Nerys a Bethan ar ôl etholiad 2007. Oce. Sori. Roeddwn i'n anghywir!

Yn ffodus mae presenoldeb Nick Ramsay ar y meinciau Ceidwadol yn profi bod 'na rhyw faint o werth i'm damcaniaeth. Ef heb os yw'r gwannaf o newydd-ddyfodiaid y Torïaid. Mae Darren Miller, Paul Davies, Angela Burns ac Andrew R T Davies i gyd wedi profi eu hun yn aelodau effeithiol. Mae'n ddigon hawdd dychmygu pob un o'r pedwar yn arwain y grŵp rhyw bryd yn y dyfodol. Mae hynny'n adrodd cyfrolau am eu safon- ond wrth gwrs yn cynyddu'r pwysau ar yr arweinyddiaeth presennol.

Dim ond dau aelod newydd oedd ar y meinciau Llafur ar ôl 2007 sef y ddau aelod rhestr Alun Davies a Joyce Watson. Does 'na ddim llawer gen i i ddweud am Joyce Watson. Mae rhyw ffatri gan y Blaid Lafur yn rhywle sy'n cynhyrchu gwleidyddion fel hi. Mae Alun, ar y llaw arall yn "Marmite" o wleidydd- yn rhyw un i'w gasáu neu i'w ddwli arno, yn ôl eich chwaeth. Mae ganddo fe rôl arbennig i chwarae o fewn y blaid fel rhyw fath o "attack dog" yn ymosod ar y Ceidwadwyr ac yn gwahaniaethu rhwng dwy blaid y llywodraeth. Tynnu blew o drwynau'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yw job Alun. Mae'r ffaith bod cymaint o Dorïaid a Phleidwyr yn ei gasáu ond yn profi ei fod yn effeithiol!

Does 'na ddim wynebau newydd ar feinciau'r Democratiaid Rhyddfrydol. Mae hynny'n broblem- yn enwedig gan fod yr eilyddion ar y fainc yn ymddangos yn gryfach na rhai o'r tîm sydd ar y cae. Meddyliwch cymaint yn fwy effeithiol fyddai'r grŵp pe bai pobol fel Aled Roberts a Nick Bennett yn aelodau. Ta waith, mae'n debyg y bydd ambell i un yn ymddeol y tro nesaf gan sicrhâi tipyn o waed ffres hyd yn oed os mai dim ond y chwech sedd arferol sy'n cael eu hennill.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.