Am wasanaeth Cymraeg pwyswych 2011
Does gen i ddim llawer i ychwanegu at yr sydd ar y safle newyddion ynghylch yr LCO iaith. Serch hynny mae croeso i chi adael sylwadau neu gwestiynau. Mae'n ymddangos y bydd y cais yn cael ei gyhoeddi'n swyddogol ar Chwefror y 3ydd.
Mae 'na ambell i beth efallai sy'n werth nodi. Mae hi bron yn anorfod y bydd y cais yn cael ei wanhau yn ystod y broses scriwtineiddio. Er ei fod wedi caniatáu cyhoeddi'r LCO mae'n amlwg bod Paul Murphy yn rhagweld y bydd aelodau seneddol yn ceisio glastwreiddio'r cymalau ynghylch y sector breifat. Ar ben hynny er bod Llafur a Phlaid Cymru yn y cynulliad wedi cytuno ynghylch cynnwys y cais dydi'r ddwy blaid ddim wedi cytuno ynglŷn â chynnwys unrhyw fesur yn seiliedig arno. Peidied neb a meddwl felly y bydd y mesur terfynol o reidrwydd yn cynnwys popeth sydd yn yr LCO.
Gyda llaw, os oes 'na etholiad cyffredinol fe fydd yn rhaid ail-ddechrau'r broses yn gyfan gwbwl. Nid fi sydd ar fai!
Mae 'na bodlediad newydd ar gael. Gwasgwch y botwm ar y dde i lawr lwytho neu danysgrifio.
SylwadauAnfon sylw
Peidied neb a meddwl felly y bydd y mesur terfynol o reidrwydd yn cynnwys popeth sydd yn yr LCO.
Dwi wedi bod yn pendroni ynghylch hyn. Tra ei bod yn anochel y bydd yna wahaniaeth barn rhwng y ddwy blaid ynghylch be ddylai fod mewn Mesur, siawns na fydd WAG wedi dysgu rhywbeth o brofiad yr LCO Tai ac wedi sicrhau eu bod yn gallu dangos eu bod yn bwriadu defnyddio holl sgop yr LCO. Fel arall, bydd yn rhoi esgus hawdd iawn i'r ASau ei wanychu!
Eto i gyd, unwaith mae cynnwys yr eLCO wedi'i benderfynnu (ai gwrywaidd yw eLCO? Pedant?!!), mae'r hawliau wedi'u datganoli. Ydw i'n gywir, Vaughan? A felly, os na chynhwysir rhai elfennau ym mesur 2012, gellid eu cynnwys ym mesur 2014 wedi newid llywodraeth...
Nag o'n i'n sylweddoli bod etholiad cyffredinol yn rhoi stop ar yr holl broses. Oes diben i'r cynulliad baratoi mwy o eLCOi (eLCOion, eLCOiau...) nawr? O ystried yr amser mae'n cymryd, does bosib bydd Etholiad Gyffredinol cyn i'r broses dod i ben ar y rhan fwyaf o fesurau'r cynulliad.
ELCynt...