Rialtwch
Diawch, fe wnes i bron anghofio postio'r ffilmiau wythnosol. Dyma nhw. Fe wnaethon ni yn ´óÏó´«Ã½ Cymru ddathlu genedigaeth ein brawd bach, ´óÏó´«Ã½ Alba, yn 2008. Dyma agoriad y sianel Aeleg. Trefniant o "Alba" gan Runrig yw'r gân.
Roeddwn i'n meddwl bod gyrfa Jerry Springer yn destun od ar gyfer opera! Mae hwn yn fwy rhyfedd!
A'r gair olaf am etholiadau America.
SylwadauAnfon sylw
Ydych chi'n gwybod beth yw cysylltiadau gwleidyddol y grwp 'Runrig ' , Vaughan ? . Grwp gwych na chafodd eu gwerthfawrogi ddigon yng Nghymru.
Oes 'na rywun sy'n digwydd gwybod sawl awr o Aeleg sy'n cael eu darlledu'n wythnosol gan ´óÏó´«Ã½ Alba?
Rwy'n cymryd nad sianel hollol Aeleg mohoni, ond rhywbeth sy'n cyfateb i'r hyn oedd ´óÏó´«Ã½ Cymru/Wales cyn i S4C gymryd y Gymraeg oddi yno. Eto, dydw i ddim yn gwybod!
Beth bynnag yw'r atebion, mae'n beth da ofnadwy i weld yr iaith yn cael y sylw, hyd yn oed os yw'r gân dipyn bach yn "cheesy"!
Mae'r sianel yn gyfan gwbwl Aeleg- er bod popeth wedi is-deitlo. Mae 'na fwy o ail-ddarlledu nac ar S4C er mwyn llenwi'r oriau. Mae'r rhan fwyaf o'r rhaglenni ar gael ar i-Player
Rwy'n cymryd mai cenedlaetholwyr oedd aelodau Runrig o ystyried geiriau gwreiddiol "Alba". Mae fersiwn y ´óÏó´«Ã½ yn llai wleidyddol!
Hanner iawn. Yr oedd y gwr a fu'n canu i Runrig am flynyddoedd maith, sef Donnie Munro, yn ymgeisydd Llafur aflwyddianus rai blynyddoedd yn ol. Nid oedd wedi cuddio ei deyrngarwch pleidiol erioed. Credaf i'r chwaraewr allweddellau - Pete Wishart, ar y llaw arall, gael ei ethol yn enw yr SNP yn ddiweddarach ( ond nid yr un etholaeth ) . Pete Wishart oedd yr AS cyntaf i ymddangos ar 'Top of the pops' . Yr oedd rhyw chwedl beth amser yn ol fod y blaid Lafur yn ynysoedd y Gorllewin yn fwy pleidiol i'r Gaeleg na'r SNP . Mae'r aelod seneddol (Calum McDonald , Llafur) ar gyfer yr ardal yn rhannu'r un enw ac un o aelodau Runrig .
Mae stori am Charles Kennedy ( AS Skye ) yn holi Donnie Munro ar raglen radio os oedd ganddo uchelgais gwleidyddol . Yr ateb gonest oedd
" Oes - ond dim ond dy etholaeth di !"
Un o aelodau Runrig wedi sefyll dros Lafur i Senedd yr Alban.....