Smonach
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyrraedd cytundeb a'r Ysgrifennydd Gwladol ynghylch ffawd yr LCO tai fforddiadwy. Ar yr olwg gyntaf mae'n gosod cynsail difrifol iawn o safbwynt pwerau'r cynulliad.
Mae'r llywodraeth yng Nghaerdydd wedi cytuno na fydd y Cynulliad yn cael dileu'r "hawl i brynu" yn gyfangwbwl heb ganiatâd a chydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol. Hynny yw, er bydd yr LCO yn trosglwyddo pwerau deddfwriaethol i'r cynulliad fe fydd angen caniatâd yr Ysgrifennydd Gwladol i ddefnyddio rhai ohonyn nhw. Does dim ond un gair am hynny. Feto.
Ystyriwch ffawd yr LCO iaith. Ar sail y cynsail hwn mae'n ddigon posib y gallai'r Pwyllgor Dethol Cymreig fynnu bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cael feto tebyg dros fesurau i hybu'r Gymraeg yn y sector breifat, er enghraifft. Mae pwerau'r pwyllgor dethol yn sydyn wedi cynyddu'n sylweddol ar draul y cynulliad. Y pwyllgor dethol fydd yn gosod egwyddorion a phenderfynu polisi. Torri glo mân yn fanach fydd gwaith y cynulliad
Beth ar y ddaear oedd pwynt ail Ddeddf Llywodraeth Cymru os ydy San Steffan yn gallu clymu dwylo'r cynulliad yn y fath fodd- a pham ar y ddaear mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cytuno?
SylwadauAnfon sylw
Traed moch go iawn dydy hyn ddim yn gneud synnwyr mae nhw yn cyfaddawdu lle dydy'r gyfraith ddim yn rhoi lle i gyfaddawdu. Ddary y Cynulliad newid yr LCO i roi yr hawl i Murphy gael y gair ola? Mae hyn yn gychwyn ar ddiwedd y glymblaid yn fy marn i a gorau po gyntaf.
Rhaid gofyn am eglurhad ar un pwynt Vaughan. Os ydi'r manylion ar eich safle'n gywir, mae'n golygu bod y pwerau perthnasol bellach yn gorwedd yng Nghaerydd gyda llywodraeth y Cynulliad. Ond dydi'r Ysgrifenydd Gwladol ddim yn aelod o'r Cynulliad felly sut mae modd iddo fo gael y gair olaf? Mae hi fatha rhoi'r hawl i Brif Weinidog Cymru roi Feto ar rywbeth mae llywodraeth San Steffan eisio'i wneud.
Fasai modd amddiffyn hyn yn gyfreithiol? Anodd credu.
Mae'r pwerau yn gorwedd yng Nghaerdydd ond mae is-gymal yn yr LCO yn datgan na ellir eu defnyddio i lwyr-ddileu'r "hawl i brynu" heb ganiatad yr Ysgrifennydd Gwladol. Rwy'n rhannu dy syndod fod y fath beth yn bosib. Yn sicr mae yn erbyn ysbryd Mesur Llywodraeth Cymru- ond ma'e amlwg bod y cyfreithwyr wedi ei ganiatau. Mae'n werth ychwanegu bod 'na flwyddyn a hanner ers i'r LCO yma gael ei gyhoeddi a dydyn ni ddim hanner ffordd trwy'r broses eto. Mae hynny heb son am y gwaith o lunio mesur.
Feto yn wir.
Gair arall i ti: Imperialaeth
Dwi'n cymryd fod y feto yma yn ymddangos nid yn unig yng nghorff yr LCO, ond yng ngeiriad y Materion sydd i'w trosglwyddo? Yn ol Deddf Llywodraeth Cymru 2006 mae gan y Cynulliad yr hawl i wneud Mesurau o fewn yMaterion sydd wedi eu rhestru yn Atodlen 5 i'r ddeddf. Dwi'n cymryd felly bydd rhaid i'r pwer feto yma gael ei nodi yno, fel rhan o eiriad y Mater ei hun.
Mae hyn yn smonach go iawn. Byddai'n well petai'r llwyodraeth wedi ildio ar y pwynt yma a derbyn y cyfyngiadau oedd yr ASau'n gofyn amdanynt na chytuno i gynsail mor bgeryglus a hyn.
Yr unig beth da allwn ni ddeud am y peth ydi ei fod yn hwb i'r rhai sydd am weld refferendwm ar bwerau cynradd cyn gynted a phosib. Dyma'r hysbyseb orau bosib am be sydd o'i le efo'rdrefn bresennol!
Rwy'n meddwl dy fod yn gywir. Dyw'r dogfennau ddim o fy mlaen ar hyn o bryd ond mae'r pwynt yn gwneud synnwyr perffaith.