Wedi'r Torriad
Dyma nhw yn ôl felly. Ar ôl dathlu'r Nadolig/gweithio'n ddyfal yn eu hetholaethau mae aelodau'r Cynulliad yn ôl y bae a diawch mae'n teimlo fel "Groundhog Day" gyda Nick Bourne yn amddiffyn ei dreuliau mewn cynhadledd newyddion a Rhodri ac Ieuan yn mynnu bod y gyfundrefn LCOs yn gallu gweithio'n effeithiol.
Fe fydd sefyllfa Nick yn fwy eglur erbyn diwedd yr wythnos dw i'n meddwl. Heddiw cyhoeddodd ei fod am wneud cyfres o areithiau ar hyd a lled Cymru a'i fod wedi ysgrifennu at ymgeiswyr seneddol y Blaid yn cynnig cymorth yn yr etholiad cyffredinol. "Busnes fel arfer" oedd y neges "mae'r ffrwgwd ynghylch treuliau wedi gostegu".
Efallai. Mae oddeutu hanner aelodau'r grŵp Ceidwadol yn dweud yn agored wrth newyddiadurwr eu bod am weld newid arweinydd. Mae un aelod yn dweud ei fod wedi gofyn i Nick rhoi'r ffidl yn y to. Mae Nick yn gwadu hynny. Dyw e ddim yn ymwybodol o unrhyw anniddigrwydd. "Mae'r grŵp yn unedig a chadarn" meddai ac mae'n gwadu bod unrhyw aelod wedi gofyn iddo fynd.
Dyma'r dewis felly;
A. Mae'r aelodau'n dweud celwydd.
B. Mae'r newyddiadurwyr yn dweud celwydd.
C. Mae Nick yn dweud celwydd.
Ch. I ddyfnu Rhodri Morgan "Denial isn't just a river in Egypt".
Mae croeso i chi ffonio ffrind.
SylwadauAnfon sylw
"Fe fydd sefyllfa Nick yn fwy eglur erbyn diwedd yr wythnos dw i'n meddwl."
Vaughan. Cadwa 'mlan dweud hyn a rhyw wythnos fe fyddi di'n sicr o fod yn gywir.
Nad yw Nick Bourne yn edrych yn hynod o debyg i'r hen 'Welsh Sec' na, Nicholas Edwards.
'any relation', sgwn i ? Spooky.
Efallai fod siawns creu 'Baron Tiger Bay' o Nick Bourne eto ?
Ti ar tudlaen flaen LabourList. www.labourlist.org
Dydw i ddim yn sicr ydy hynny'n beth da ai peidio!