Cofeb Clive
Dydw i erioed wedi credu mewn newyddiaduraeth ddiduedd. I rai o fewn y ´óÏó´«Ã½ mae hynny'n gabledd. Cyn i fi gael y sac felly, mae'n well i fi esbonio.
Nid anghytuno a'r ddelfryd ydw i ond a'r realiti. Efallai bod hi'n bosib bod yn ddiduedd mewn byd o ffantasi, ar fryniau Bro Afallon neu mewn maniffesto etholiadol! Yn y byd real mae newyddiaduraeth ddiduedd yn gwbwl anymarferol ac amhosib. Yn ei hanfod mae newyddiadura yn broses o gasglu ac o ddewis. Mae dewis, o'i natur, yn fater goddrychol.
Yn ddisymwth yr wythnos hon mae Clive Betts wedi ymddeol ar ôl dros ddeugain mlynedd o newyddiadura gwleidyddol am resymau iechyd. Y penwythnos hwn hefyd mae'n ddeg mlynedd ar hugain ers refferendwm 1979.
Ar Fawrth yr ail, 1979 gyda'r cwrw'n llifo yng nghlybiau Llafur Islwyn ac wrth i John Morris syllu ar yr eliffant ar stepen ei ddrws go brin y byddai unrhyw un wedi proffwydo y byddai gan Gymru gynulliad cyn troad y ganrif.
Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach, ar ddechrau'r wythdegau cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus ym merthyr i drafod lansio ymgyrch o blaid datganoli mewn swyddfa undeb y Merthyr. Roedd Denzil Davies a Geraint Howells yno a rhyw ddeg ar hugain o bobol yn y gynulleidfa, os hynny.
Yng nghefn yr ystafell roedd 'na grŵp arall o riw ddeg o bobol yn eistedd gyda'u camerâu a'u llyfrau nodiadau. Doedd dim diddordeb da'r cyhoedd yn y cyfarfod. Yn wrthrychol, pe bai cyfarfodydd yn cael sylw ar sail y nifer oedd yn bresennol, dyweder, roedd y cyfarfod ym Merthyr yn gwbwl dibwys ac amherthnasol. Doedd newyddiadurwyr gwleidyddol Cymru ddim yn credu hynny. Ein barn oddrychol ni oedd bod y cyfarfod yma'n bwysig ac yn haeddu sylw.
Mae Pat Hannan wedi dadlau bod Cymru yn bodoli fel uned wleidyddol oherwydd penderfyniad y ´óÏó´«Ã½ yn y dauddegau i wasanaethu Cymru Gyfan o Gaerdydd yn hytrach nac o Fryste a Manceinion. Dydw i ddim yn siŵr fy mod yn llwyr gytuno ond rwy'n sicr o un peth. Un o'r rhesymau y mae'r cynulliad yn bodoli heddiw yw oherwydd ystyfnigrwydd newyddiadurwyr fel Clive, John Osmond, Geraint Talfan Davies ac eraill wrth fynnu bod y cwestiwn cyfansoddiadol yn bwysig yn wyneb difaterwch eu darllenwyr a'u gwylwyr.
Dyw hynny ddim yn golygu, fel mae rhai yn credu, bod newyddiadurwyr gwleidyddol Cymru i gyd yn ddatganolwyr pybyr neu'n bumed golofn i Feibion Glyndŵr. Roedd newyddiadurwyr oedd yn ffyrnig yn erbyn datganoli (Geoff Ritch, Golygydd y South Wales Echo, er enghraifft) yn cytuno ynglŷn â phwysigrwydd y cwestiwn ac yn dyrchafu'r pwnc yn eu dewisiadau newyddiadurol.
Roeddwn yn meddwl am Clive wrth gerdded trwy'r senedd y bore 'ma ac fe ddaeth geiriau cofeb Cristopher Wren yn Saint Paul's i'm meddwl "'Reader, if you seek his memorial - look around you."
Brysia wella Clive!
SylwadauAnfon sylw
Dwi yn meddwl fod Clive Betts wedi cael ei gamdrin ar nifer o achlysuron yn arbennig mewn cynhadleddau gwleidyddol ac wedi heclo gan fyfyrwyr idealistig fel fi. Bellach mae rhywun yn fwy parod i gydnabod ei gyfraniad yn dwyn sylw at y dadleuon fyddai eraill wedi hanwybyddu. Mae ei gyfraniad wedi bod yn un gwerthfawr iawn ac mae wedi bod yn lladmerydd pwysig.