Dim seren i Libra
Mae ffars system gyfrifiadurol "Libra" wedi bod yn rhygnu ymlaen am fisoedd bellach.
Mae'n sicr eich bod yn cofio hanfod y stori sef bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi comisiynu'r system ar gyfer llysoedd ynadon Cymru a Lloegr gan "anghofio" y byddai angen i'r system honno weithredu'n ddwyieithog yng Nghymru.
O ganlyniad i gyfres o gwestiynau gan Jenny Willott AS rydym yn dechrau dysgu mwy.
I ddechrau, beth yw canlyniad "camgymeriad" gweinidogion a gweision sifil "anghofus" Whitehall?
Dyma ateb seneddol gan y gweinidog Bridget Prentice;
"When the bilingual version of the new Libra system is introduced in Wales in September 2009, magistrates court summonses will be produced in Welsh as a matter of course. Until September 2009 summonses can be translated upon request within one working day."
Gadewch i mi gyfieithu. Ar hyn o bryd (ac am yr wyth mis nesaf) mae'n rhai i chi wneud cais am wÅ·s yn Gymraeg. Cyn cyflwyno'r system roedd gwysion mewn ardaloedd Cymraeg yn cael eu cyhoeddi'n ddwyieithog yn awtomatig. Hynny yw, o ganlyniad i "anghofrwydd" yn Whitehall mae'r gwasanaeth Cymraeg wedi dirywio'n sylweddol.
Mae Bridget Prentice yn addo y bydd popeth yn iawn ym Mis Medi. Wrth gwrs gallwn fod yn gwbwl hyderus y bydd y system ddwyieithog yn barod ac yn gweithio'n iawn bryd hynny. Wedi'r cyfan dyw systemau cyfrifiadurol llywodraeth Prydain byth yn hwyr ac yn gweithio bob tro!
Mae 'na fwy. Dyma ateb gan Bridget Prentice i gwestiwn arall gan Jenny Willott.
"The estimated cost of the Libra bilingual solution is £4 million. Final contractual papers are yet to be signed so precise figures are not available at this point. This figure represents application development costs and does not include support costs which are on-going for the life of the application."
Nawr dydw i ddim yn arbenigwr ar gyfrifiaduron ond mae synnwyr cyffredin yn awgrymu bod addasu system i weithio'n ddwyieithog yn debyg o fod yn fwy costus ac yn llai effeithlon na chynllunio'r system i fod yn ddwyieithog o'r cychwyn.
Gadewch i ni fod yn glir am rywbeth arall. Nid trafod mater o ryw foi bach yn rhywle yn "anghofio" rhywbeth am gwbwl o ddyddiau ydyn ni yn fan hyn. Dros gyfnod o flynyddoedd, trwy filoedd o oriau o waith datblygu ac mewn cyfarfodydd di-ri doedd dim un gwas sifil nac un gweinidog yn ddigon ymwybodol o Gymru nac yn ddigon gwybodus am ei hanghenion ieithyddol i godi ei law a dweud "arhoswch eiliad". Mae'n ymddangos nad yw agweddau yn Whitehall wedi newid rhyw lawer ers dyddiau'r "India Office"!
Mae Jenny Willott yn cyfleu'r pwynt yn dda.
"It beggars belief that the Government simply forgot to include the Welsh language in the contract. How can Labour claim to be representing the needs of everyone in Wales when such a basic requirement for Welsh speakers goes unnoticed for an entire decade?"
Dyw "anghofio" ddim yn esgus digon da. Mae hwn yn fethiant llwyr wrth gyflawni dyletwydd sylfaenol. Mae hynny'n haeddu ymchwiliad llawn gyda'r rheiny oedd yn gyfrifol yn cael eu disgyblu neu eu diswyddo.
Os nad yw hynny'n digwydd fe fydd hi'n anodd iawn dadlau yn erbyn datganoli gweinyddiaeth cyfiawnder o Whitehall i'r cynulliad.
SylwadauAnfon sylw
Dydy hynny ddim fater o "anghofio" o gwbl. Roedd y penderfyniad yn un bwriadol.
Dywedodd y HMCS (5 Ionawr 2009)
"Fel yr ydym hefyd wedi’i nodi o’r blaen, roedd y penderfyniad poenus o alluogi tîm prosiect Libra i ddiogelu swyddogaethau a galluoedd y system pan oedd yn wynebu problemau gweithredu difrifol yn ystod mis Mehefin 2008, AR DRAUL DATBLYGU EI GALLU DWYIEITHOG, yn sicrhau bod modd defnyddio’r broses yn llwyddiannus ledled Cymru a Lloegr ... "
Mae'r holl sefyllfa'n warthus, ond nid yr agwedd tuag at yr iaith Gymraeg sydd fwya brawychus i mi (i ddweud y gwir, tydy o ddim yn sioc o gwbl), ond y gost.
Fel Vaughan, tydw innau ddim yn arbennigwr ar cyfrifiaduron chwaith, ond mae'r ffigwr yma o £4m am ryngwladoli'r* meddalwedd yn swnio'n anhygoel o uchel. Wrth gwrs bydd yna ryw gost ychwnaegol, ond siawns na ddylai'r datrysiad ond golygu ychydig o ddyddiau o waith ychwanegol ar y mwyaf.
Mae'n rhaid bod sustemau caffaelu sefydliadau cyhoeddus yn ddiffygiol tros ben.
Dylid gofyn i'r gwmni esbonio sut y cyrhaeddwyd y ffigwr o £4m. Os nad oes rheswm da pam ei fod yn costio cymaint, dylid erlyn y cwmni am dwyll!
*Esboniad o beth yw Rhyngwladoli: