´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Jac Codi Baw

Vaughan Roderick | 20:25, Dydd Mercher, 18 Mawrth 2009

Go brin fod llawer yn galaru erbyn hyn ynghylch diflaniad siroedd 1973. Fe fydd 'na fawr o alar ar ôl eu pencadlysoedd ychwaith.

Oce, dyw Cwmbrân byth yn mynd i fod yn Farcelona neu Gaerfaddon ond fe fydd hi'n fwy deniadol unwaith mae Neuadd Sir Gwent wedi dymchwel. Chwarae teg i Gynghorau Torfaen a Sir Fynwy am alw'r bwldosers i mewn!

Oes unrhyw siawns y bydd cynghorwyr Sir Fflint yn dilyn eu hesiampl? Wedi'r cyfan, pe bai Neuadd Sir Yr Wyddgrug yn mynd fe fyddai gobaith i adeilad arall ennill cystadleuaeth y plorod pensaernïol!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 04:22 ar 19 Mawrth 2009, ysgrifennodd Alwyn ap Huw:

    Mi ydwyf i'n un o'r rhai prin sydd yn dal i deimlo perthynas a'r hen siroedd. Hogyn o Feirion ydwyf ac fel hogyn o Feirion byddwyf yn sefyll ar ddydd y farn! Mae'n syndod faint o drigolion Siroedd Meirionnydd a Maldwyn yn arbennig, sydd wedi eu geni ar ôl 1973 sydd yn parhau ag ymrwymiad i'r hen siroedd!

    Yr wyf hefyd y m mysg y rhai prin sydd yn credu bod yr adeiladau dinesig yn yr Wyddgrug yn nhrysorau o bensaernïaeth eu cyfnod. Mi ymladdaf hyd yr eithaf yn erbyn dy ymgyrch i roi'r bwldowser ar eu cyfyl.

  • 2. Am 10:13 ar 19 Mawrth 2009, ysgrifennodd FiDafydd:

    Tydw i ddim yn siwr a ydw i'n cytuno am dy sylwadau am y swyddfeydd yn yr Wyddgrug, ond yn sicr mae adeiladau Cyngor Gwynedd yn arbennig iawn.

  • 3. Am 11:14 ar 19 Mawrth 2009, ysgrifennodd Rhys:

    Dw i'n eitha licio'r adeilad yn yr Wyddgrug hefyd, ond fel adeilad Cwmbran, does dim galw am ei ddefnydd - er, pan na ellil'r eu haddasu?

    Hyll neu beidio, bydd eu tynnu i lawr yn gostus heb sôn ma godi rhai newydd yn eu lle.

  • 4. Am 11:41 ar 20 Mawrth 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

  • 5. Am 16:58 ar 22 Mawrth 2009, ysgrifennodd Negrin:

    Gobeithio neith y bwldosers ddim anghofio pencadlys Heddlu Gwent

  • 6. Am 12:48 ar 24 Mawrth 2009, ysgrifennodd FiDafydd:


    Byddai'n dda gwybod beth oedd gan Vaughan i'w ddweud yn 4 ...!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.