Mam Fach
Mae John Stevenson yn gyfaill annwyl i mi ac wedi bod ers chwarter canrif. Mae e ymhlith y bobol fwyaf deallus dwi'n nabod. Diolch byth mae fe ac nid fi sy'n gorfod ceisio esbonio troeon trwstan gwleidyddiaeth Ynys Môn i'r genedl!
Mae sgandalau Cyngor Môn wedi bod yn rhan gyson o fywyd gwleidyddol Cymru ers degawdau bellach ac i'r rheiny sydd ddim yn byw ar yr ynys maen nhw bron yn annealladwy!
Yn gyntaf mae'n rhaid ceisio dilyn y caleidosgop o bleidiau a grwpiau ar y cyngor grwpiau gydag enwau fel "Môn i fyny yma" a "Mam Ymlaen" neu rywbeth felly ynghyd ac aelodau annibynnol swyddogol, aelodau annibynnol annibynnol ayb. Ydy hynny'n rhan o'r broblem efallai? Hynny yw pan mae cynghorwyr Môn yn cael eu hethol does dim modd i'r etholwyr wybod pa grwpiau fydd yn cael eu ffurfio ar ôl yr etholiad na phwy fydd yn llywodraethu. Y cyfan y gall yr etholwr wneud felly yw cynnig pleidlais o hyder neu ddiffyg hyder yn yr aelod lleol fel unigolyn yn hytrach na dylanwadu ar gyfeiriad a pholisïau'r cyngor yn ei gyfanrwydd.
Yn y tymor hir gallai'r sefyllfa debyg pery problemau yn etholiadau cynulliad. Mae hi'n ofnadwy o anodd i unrhyw un blaid ennill mwyafrif yn y cynulliad gyda thrigain aelod etholedig. Os ydy'r nifer yn cynyddu i wythdeg fe fydd hi'n gwbwl amhosib hyd yn oed i Lafur. Am resymau digon anrhydeddus a dealladwy dyw'r pleidiau ddim yn fodlon trafod clymbleidiau posib yn ystod ymgyrch etholiad -ond ydy hynny'n deg a'r etholwyr?
Cymerwch esiampl. Meddyliwch am gefnogwr Llafur yn y cymoedd lle nad oes gobaith cath i Lafur ennill sedd restr. Gallai'r cefnogwr hwnnw fel ffan O "Gymru'n Un" ystyried rhoi ei ail bleidlais i Blaid Cymru. Ond a fyddai'n gall i wneud hynny heb wybod os oedd Plaid Cymru'n yn llygadu'r enfys neu Llafur yn dymuno closio at y Democratiaid Rhyddfrydol?
Does gen i ddim ateb i'r broblem. Dwi ond yn gobeithio nad yw firws Llangefni yn ein haentio!
SylwadauAnfon sylw
Mae hon yn ddilema cyffredin mewn gwledydd lle ceir trefn bleidleisio cyfrannol.
Un ffordd o'i chwmpas hi ydi i blaid ddweud cyn yr etholiad gyda phwy maen nhw'n fodlon gweithio - fel bydd y Blaid Lafur a Fine Gael yn ei wneud weithiau.
Y risg o wneud hynny o dan rhai cyfundrefnau cyfranol ydi bod gwneud datganiad o'r fath yn gallu lleihau'r nifer o bleidleisiau tactegol mae plaid yn eu cael.
Er enghraifft mae datganiad gan Lafur (Iwerddon) eu bod yn fodlon mynd i lywodraeth gyda FG, ond nid FF yn golygu mai ychydig o ail, trydydd neu bedwerydd pleidleisiau fydd yn dod o gyfeiriad cefnogwyr FF.
"i'r rheiny sydd ddim yn byw ar yr ynys maen nhw bron yn annealladwy!"
Ac i'r rheiny sydd YN byw ar yr ynys hefyd!
Y sustem gabinet ydy'r broblem, ymhob Cyngor mae yna nifer o unigolion uchelgeisiol sydd am fod yn aelodau or cabinet ar ffordd orau i neud siwr fod hyny yn digwydd ydy ffurfio grwp fach annibynnol hefo digon o aelodau i warantu un sedd yn y cabinet; a dyna ni mae pawb yn hapus. Ond mae angen arweinydd cryf i gadw y grwpiau bach yma gydai gilydd o fewn clymblaid...dydy hi ddim yn job hawdd ac yn amlwg wedi mynd yn draed moch yn Sir Fon.
Diddorol. Tybed oedd yr hen drefn o bwyllgorau yn gweddu'n well i gyngor gyda nifer sylweddol o aelodau annibynnol? Fe fydd hi'n ddiddorol gweld sut mae pethau'n datblygu ym Mhowys lle ffurfiwyd grwpiau gwelidyddol am y tro cyntaf yn sgil etholiad llynedd.
Does gen i ddim profiad o'r hen bwyllgorau ond edrycha ar Sir Wrecsam, mae na 3 Dem/Rh/Ann, 1 Tory,
1 PC, 2 Llafur, 1 Ann, 1 Ann, 1 Ann ar y Bwrdd Gweithredol, mae Rh Dem/4 grwp Annibynnol, Tories & PC mewn clymblaid ond heb bolisiau fel y cyfryw na chytundeb rhwng y grwps i gyd.
Dyw'r hen system bwyllgorau ddim gwell - ddim ym Mon, beth bynnag. Yr hen drefn oedd yn bodoli yma ugain mlynedd yn ol, a doedd pethau ddim gwell bryn hynny.
Yn wir, o dan y drefn honno ym Mon, ar gychwyn cyngor newydd wedi etholiad, roedd un cynghorydd yn pasio rhestr o amgylch o'r aelodau hynny yr oedd o am ei weld ar wahanol bwyllgorau. 'Vote for ...' ayb. Nid ef oedd 'arweinydd' y Cyngor fel y mae gennym arweinydd heddiw - ond roedd yn rheoli'r cyngor yn union fel petai ef yn arweinydd.
Gyda llaw, tybed a yw'r cyngorydd hwnnw yn aelod o gabinet Mon heddiw???
Mae Môn a Wrecsam yn defnyddio systemau llywodraethu gwahanol. Mae Wrecsam yn defnyddio system bwrdd, lle mae pob grŵp yn cael cynrychiolaeth ar y bwrdd gweithredol yn unol â maint y grŵp, er nad oes angen i bob aelod o'r bwrdd dderbyn portffolio. Felly yn Wrecsam mae gan y Grŵp Llafur ddau aelod o'r bwrdd ond nid oes ganddynt bortffolios (h.y. gwasanaethau i'w rhedeg, fel y gwasanaeth ysgolion er enghraifft).
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn defnyddio system cabinet, lle mae arweinwyr y grŵp llywodraethol neu'r grwpiau clymbleidiol yn dewis pwy sydd yn y cabinet. Nid yw'r Grŵp Llafur ym Môn yn rhan o'r glymblaid - nid oes ganddynt aelodau o'r cabinet ac maent yn gweithredu fel un o'r gwrthbleidiau.
Gyda system bwrdd fel Wrecsam, mae grŵp bach o gynghorwyr yn gallu sicrhau sedd i un o'u haelodau ar y bwrdd ond gyda system cabinet fel Ynys Môn, nid yw hynny'n ddigon, mae'n rhaid clymbleidio gyda grŵp arall neu grwpiau eraill a sicrhau mwyafrif i fod yn y cabinet
Dwi ddim yn meddwl mai'r system yw'r broblem ond yn hytrach unigolion. Gormod o geffylau blaen a nifer o o bobl yn nyrsio hen glwyfau. Dwi yn siwr y byddai yn haws cael trefn ar lygod mewn sach. Fel unigolion mae nifer yn gallu swnio yn rhesymol a chall ond fe fyddai yn haws cael parti o blant i rannu powlen o jeli na chael rhain i gyd-weithio.