Nadolig bob yn ail ddydd Iau...
"Ar fryniau bro Afallon
Mae pawb yn byw yn hen
Does neb yn colli ei dymer
Ac mae gwg 'run fath a gwên..."
Mae'n anodd anghytuno a bwriad y Mesur Dysgu a Sgiliau sy'n cael ei drafod gan y cynulliad heddiw. Go brin y byddai'n unrhyw un yn dadlau yn erbyn cynnig dewis mwy o eang o bynciau i ddisgyblion a myfyrwyr rhwng 14 a 19 oed trwy ofyn i ysgolion a cholegau addysg bellach gydlynu eu darpariaeth.
Yn Afallon Dafydd Iwan mae'n siŵr y byddai'r fath beth yn digwydd yn ddidrafferth. Yn ein Cymru fach ni fe allai hi fod yn anodd iawn wireddu'r freuddwyd.
Dyw'r syniad ddim mor newydd â hynny. Pan oeddwn i yn y chweched fe wnes i'n rhan fwyaf o'n lefelau A yn yr ysgol ac un (gwleidyddiaeth fel mae'n digwydd) yn y Coleg Technegol drws nesaf. Y broblem yw wrth gwrs nad yw'r rhan fwyaf o'n hysgolion a'n colegau'r drws nesaf i'w gilydd.
A fydd y ffaith bod cwrs wedi ei gynnwys mewn "cwricwlwm lleol" yn golygu bod y cwrs hwnnw ar gael i bawb mewn gwirionedd?
Pwy sydd i deithio o safle i safle- yr athro neu'r disgybl? Os y disgybl a fydd trafnidiaeth ar gael i'w cludo- ac os oes 'na pwy fydd yn talu? Os mai'r athro sy'n teithio o ysgol i ysgol oni fydd angen cyflogi nifer sylweddol o athrawon ychwanegol? O ble y daw eu cyflogau nhw?
A fydd disgwyl i ddisgyblion mewn gwisg ysgol gymysgu a myfyrwyr coleg sy'n dilyn cod disgyblaeth llawer mwy llac? Mewn sefyllfa lle mae plant ysgol yn mynychu cwrs mewn coleg a fydd myfyrwyr aeddfed y coleg hwnnw yn wynebu prawf CRB? Dywedwch fod Ysgol A yn cynnig cwrs TGAU Ffrangeg ac Ysgol B yn cynnig Sbaeneg. Onid yw hi'n anorfod y bydd y mwyafrif llethol o ddisgyblion yn dewis yr iaith sydd ar gael yn eu hysgol nhw? Os ydy disgybl wedi ei wahardd gan ysgol a fydd yr hawl ganddo i ddychwelyd yno i ddilyn cwrs?
Nid fi sy'n codi'r cwestiynau yma, gyda llaw, maen nhw bron i gyd wedi cael eu codi wrth i bwyllgorau'r cynulliad ystyried y mesur. Hyd yma mae'r atebion sydd wedi eu cynnig gan y llywodraeth i rai ohonyn nhw yn aneglur.
I fod yn deg nid mater i fesur yw'r cwestiynnau yma i gyd ond mater i reoliadau a phenderfyniadau lleol. Serch hynny dwi'n crafu fy mhen ynghylch sut yn union y mae'r system yma'n mynd i weithio.
Dydi problemau fel rhain ddim yn amhosib eu datrys ond dydyn nhw ddim yn hawdd eu datrys chwaith yn enwedig mewn cyfnod lle mae cyllidebau'r colegau a dosbarthiadau 6 yn cael eu cwtogi.
Mae'n siŵr eich bod chi'n cofio'r ffrae ynghylch ariannu'r cyfnod sylfaen mae'n anodd credu na fydd 'na ffrae debyg ynghylch y cynlluniau yma.
SylwadauAnfon sylw
Ac wrth gwrs faint o'r cyrsiau yma fydd ar gael yn y Gymraeg - yn enwedig y cyrsiau galwedigaethol?
Pwy oedd yr 16 AC a ataliodd eu pleidlais?
Gallai dysgu o bell fod yn fuddiol iawn yn hyn o beth - buwyd yn abrofi â'r dechneg yn Ynys Môn tua diwedd y 90au - rhan o'r hyn a elwid ar y pryd yn Addysg Dechnegol a Galwedigaethol - TVEI. Llwyddwyd i roi gwersi Sbaeneg i blant oedd yn wasgaredig. Erbyn hyn, mae'r dechnoleg a elwir yn 'fideo-gynadledda' yn gwella, fel bod modd gwireddu'r posibiliadau o rannu adnoddau prin a fyddai, fel arall, yn gyfyngedig i un sefydliad addysgol. Mae amserlennu ar draws gwahanol sefydliadau er mwyn darparu ar gyfer dewisiadau cannoedd o fyfyrwyr yn fater arall .......