Popio'r ploryn
Dydw i ddim yn gwybod beth fyddai cost codi pencadlys newydd sbon i lywodraeth y cynulliad. Dim llawer mwy na'r £42 miliwn y mae'r llywodraeth yn bwriadu eu gwario ac adfer ac ail-ddodrefni'n "CP2", y pendcadlys presenol ym Mharc Cathays, mae'n siwr.
Yn fy marn fach i, fe fyddai pencadlys newydd gwerth pob ceiniog pe bai'n golygu diflaniad CP2 y ploryn penseirniol ar wyneb ein priffddinas!
Does gen i ddim o'r geiriau i gyfleu fy nghasineb tuag at CP2, adeilad hyll a haerllug sy'n anharddu ardal sy'n un o drysorau penseirniol Cymru. Yr haerllugrwydd nid yr hylltra sy'n fy ngwylltio fwyaf. Fel un o adeiladau'r Raj gynt prin yw'r ffenestri sy'n edrych allan ar y bobol sy'n cael eu llywodraethu. Edrych i mewn ar ei gilydd mae'r gweision sifil.
Mae'r holl bensaernïaeth yn cyfleu delwedd o sefydliad sy'n gaeedig, yn gyfrinachol ac yn ddigroeso. Disgrifiwyd yr adeilad unwaith fel "enghraifft berffaith o bensaernïaeth drefedigaethol". Os am brawf o hynny cymharwch y ffos pymtheg troedfedd o ddyfnder sy'n amgylchyni CP2 a'r ffosydd o gwmpas cestyll y Normainaid.
Cyn i neb ddweud , dwi'n gwybod mai peryglon terfysgaeth oedd yr esgus am godi'r fath gaer. Os felly pam nad oes 'na adeiladau tebyg yn Westminster? Oes 'na fwy o beryg o derfysgaeth yng Nghymru nac yn Llundain? Ydy Parc Cathays yn llai pwysig yn bensaernïol na Whitehall?
Ond pechod mwyaf CP2 yw ei lleoliad. Dydyn nhw ddim ar gael ar y we ond mae cynlluniau gwreiddiol Parc Cathays yn werth eu gweld. Mae rhai o'r adeiladau i'w gweld heddiw, Neuadd y Ddinas, yr Amgueddfa a'r Brifysgol, er enghraifft. Ond yn coroni'r cyfan roedd adeilad na chafodd ei godi. Clamp o adeilad, dwywaith yn uwch na Neuadd y Ddinas yn ymestyn lled y parc wedi ei gynllunio yn yr un arddull "neo-baroque". Hwn oedd Senedd Cymru i fod yn cynnwys y "Welsh House of Commons" a'r "Welsh House of Lords".
Ffantasi bensaernïol yn hytrach na realiti gwleidyddol oedd y Senedd wrth gwrs ond fe osodwyd carreg ar y safle yn nodi ei fod wedi ei "ddiogelu am byth" ar gyfer Senedd Cymru. Yn y pumdegau lluniodd y diweddar Athro Dewi Prys Thomas gynlluniau newydd am senedd ar y safle yn arddull bensaernïol y " Festival of Britain"
Ar y safle hwn y codwyd CP2. Byncer i ysgrifenyddion gwladol o Wokingham a'r Wirral lle'r oedd Senedd Cymru i fod. Fe ofynnais rhai blynyddoedd yn ôl beth ddigwyddodd i'r garreg. Doedd neb yn gwybod. Wedi ei thaflu i ryw sgip, mae'n siŵr. Yn sgip hanes y mae CP2 yn haeddu bod hefyd!
.
SylwadauAnfon sylw
Ti'n iawn Vaughan. Er, mae adeliad y Swyddfa Gymreig (CP2 bellach) yn syndod o debyg i senedd-dy Lithwania, y Seimas,
... dwi'n cofio gweld y digwyddiadau yn 1989/90 pan oedd milwyr Rwsia'n ymsosod ar y Seimas a'r Lithwaniaid yn ei amddiffyn ac roedd yn atgoffa rhywun o fersiwn mwy peryglus o brotest Cymdeithas yr Iaith.
Piti mawr na adeiladwyr cynllun Dewi Prys ... siwr y byddai'n fwy urddasol na Ty Hywel sy'n le diddorol o ran ecoleg, ond yn ddigon di-urddas ac yn ddigon bychan a di-uchelgais i beidio herio San Steffan ... yn bwrpasol felly dwi'n meddwl. Doedd y panel ddewis ddim am i ni gael adeilad rhy impressive nac oedden!
Difyr iawn Vaughan! Ond os ydi CP2 yn adeilad ciami beth felly yw dy farn am y swyddfa heddlu na, nid nepell ohono?! Neu falle nad yw rheolau blogio ´óÏó´«Ã½ Cymry yn caniatau i ti ddefnyddio iaith briodol?
Gyda llaw...ydi cynlluniau Dewi Prys ar gael yn rhywle? Byddwn wrth fy modd eu gweld.
Cred neu beidio fe ennillodd Swyddfa'r Heddlu wobor! Fe fydd yr heddlu'n gadael y lle cyn bo hir. Efallai mae'r Brifysgol fydd yn etifeddu'r lle...oes chwant da ti gael swyddfa yna?