Car Bach Hud
Weithiau mae'n anodd deall y busnes datganoli yma ac i wybod pa bwerau sydd wedi eu trosglwyddo a pha rai sy ddim.
Fe achosodd y dryswch hynny drafferth i'r cynulliad wrth geisio tynhau rheolau diogelwch bysys ysgol gyda chryn grafu pen ynghylch beth yn union oedd yn bosib ei wneud. Cafwyd enghraifft arall wrth i gyfreithwyr y Cynulliad a chyfreithwyr San Steffan anghytuno ynghylch yr hawl i wahardd smacio plant- mater o les plant yn ôl y Bae ond mater i'r gyfraith droseddol yn ôl Westminster.
Nawr dyma i chi broblem fach arall. Mae'r adran drafnidiaeth yn Llundain yn bwriadu torri cyfyngiadau cyflymdra ar briffyrdd dwy lôn o 60 i 50 milltir yr awr. Digon teg. Mae perffaith hawl gan yr adran i wneud hynny. Mae gosod cyfyngiadau cyflymdra safonol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn fater i'r llywodraeth ganolog.
Achub bywydau ac osgoi damweiniau yw cymhellion yr adran drafnidiaeth wrth gwrs ond gallai'r newid danseilio un o brif addewidion Llywodraeth Cymru sef gwella'r cysylltiadau rhwng de a gogledd. Wedi'r cyfan, ac eithrio ambell i filltir priffordd dwy lon yw'r A470 rhwng Merthyr a Chyffordd Llandudno. Fe fyddai'r munudau sydd i'w harbed trwy gael gwared â throeon Ganllwyd a Choed y Brenin, fel enghraifft, yn cael eu colli eto pe bai 'na gyfyngiad o 50 milltir yr awr wrth fynd heibio Trawsfynydd ar Sarn Helen.
Yn fan hyn mae pethau'n dechrau mynd yn ddryslyd. Er mai San Steffan sy'n gyfrifol am osod y cyfyngiadau Bae Caerdydd a'r cynghorau sy'n gyfrifol am ei gweithredu.Hynny yw er mai cyfyngiadau'r adran drafnidiaeth sy'n ymddangos yn rheolau'r ffordd fawr mae gan lywodraeth y cynulliad yr hawl i eithrio ffordd neu ffyrdd o'r cyfyngiadau hynny.
Dyna, o leiaf, yw fy nealltwriaeth i o bethau. Rwy'n amau y bydd ambell i gyfreithiwr yn ennill ceiniog neu ddwy allan o hon!
SylwadauAnfon sylw
Ond nage cyfyngiad penodol sydd yma, nagife, Vaughan. Newid y 'cyfyngiad Cenedlaethol' (yr hen di-gyfyngiad) sy dan sylw.
Fel sgil effaith newid o'r fath,tybed faint o niwed a wneir i 'ddiwydiant' y ralis bach yng nghefn gwlad Cymru. Mae'r ralis ma yn dod ag eitha tipyn o arian mewn i rai ardaloedd.