Dumbo yn y Bae
Pan oedd fy nhad-cu yn ddociwr yng Nghaerdydd yn ôl yn y tridegau a'r pedwardegau "swyddfa'r docs" oedd yr enw cyffredin ar yr adeilad crand sydd nawr yn cael ei adnabod fel y "Lanfa" neu'r "Pierhead".
Talodd Ron Davies bunt am gyn pencadlys Cwmni Rheilffordd Caerdydd fel rhan o'r cytundeb gyda chwmni Grovesnor Waterside i leoli'r cynulliad yn y Bae yn hytrach nac yn Neuadd y Ddinas neu ar Sgwâr Callaghan. Fel mae'n digwydd fe wnes i fachu'r bunt ac mae hi gen i o hyd!
Roedd y Lanfa'n dipyn o fargen ar y pryd neu felly oedd pethau'n ymddangos ond mae atgyweirio'r a chynnal y lle wedi costi miliynau o bunnau dros y degawd diwethaf a'r gwir amdani yw does neb erioed wedi bod yn sicr sut mae defnyddio'r lle.
Bwriad Ron oedd mai'r Lanfa fyddai pencadlys Llywodraeth Cymru i wneud y rhaniad rhyngddi hi a'r cynulliad yn gwbwl eglur. Gwrthod y syniad yna wnaeth Alun Michael a Rhodri Morgan, ill dau, gan gredu y byddai'n creu delwedd hen-ffasiwn a ffroen uchel i'r llywodraeth.
Cyn agor y Senedd roedd yr adeilad yn gartref i arddangosfa (ofnadwy o wael) yn esbonio gwaith y cynulliad ac yn cael ei ddefnyddio fe canolfan addysg i bartïon ysgol- y gwaith sydd bellach wedi ei leoli yn hen siambr y cynulliad yn Nhŷ Hywel.
Mae'r lanfa felly ar gau i'r cyhoedd unwaith yn rhagor wrth i filoedd ychwanegol gael ei wario i greu "canolfan hyblyg ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a chynadleddau".
Mae angen gwneud rhywbeth. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf fe wnaeth 183,000 o bobol ymweld â'r senedd ond llai na 55,000 a'r Lanfa.
Roedd John Morris yn hoff o son am yr eliffant ar stepen ei ddrws. Oes na eliffant gwyn ar stepen drws y Senedd?
SylwadauAnfon sylw
Y swyddogaeth delfrydol i adeilad y Pierhead dylse fod yn swyddfa swyddogol y prif Weinidog. Dylid cael gwared o'r jingoistiaeth gwrth-elitaeth yma sy'n golygu fod Cymru wastad yn cynnig llymri i'r phobl tra fod Prydeindod neu'r Alban yn cynnwys statws a chydnabyddiaeth.
Y pierhead i fod yn swyddfa gweinyddiaeth y Prif Weinidog a'i alw'n Ty Coch - enw Cymraeg hawdd fyddai'r di-Gymraeg yn ei ddeall ac yn ei ddefnyddio.
Gan ddilyn dy sylwad ddoe am ddiffyg cartref swyddogol i'r Prif Weinidog, ie, yn sicr mae angen un. Mae sawl cartref ysblenydd ym Mro Morgannwg neu hyd yn oed y tai crand tu ol y gatiau tu ol yr hen Swyddfa Gymreig. Gwastraff arian? Na, nid ty i Rhodri Morgan fyddai hi ond cydabyddiaeth o statws swydd Prif Weinidog Cymru. Os ydy pobl yn credu fod Cymru'n bwysig yna mae ei harweinydd yn haeddu'r gorau hefyd. Does neb yn cwyno fod adeilad yr Amgueddfa neu Llyfrgell Genedlaethol wedi ei 'wastraffu' ar staff y llefydd yno, oherwydd nid ar gfyer y staff yr adeiladwyd y lle, ond i ddangos mawredd dysg a phwysigrwydd Cymru. Yn yr un modd, mae angen cydnabod a dathlu mawredd a phwysigrwydd democratiaeth ac hunaniaeth Cymru gyda lle teilwng i'w Senedd a'i Phrif Weinidog.
Mae tlodi Cymru yn ddim i'w gymharu a thlodi ei hunanhyder ac hunanbarch.
Gai ddeud, post dda gan D.Enw.
Mae'n amser i ni cymraeg (hydnod y sosialwyr eithaf fel y finnau) i dderbyn bod angen rhyw fath o breswyl i brif weinidog cymru i ddathlu mawredd gymru (fel mae pob gwlad arall yn ewrop yn 'neud) ac ar gyfer pryderon ddiplomateg (...ddiflas). Mae'r Albanwyr a'r Gwyddelod ym mhell o mlaen ni ar y achos yma.
Dwi ddim yn arbenigwr ar fro Morgannwg, ond mae angen breswyl rwan, hydnod os bod pres treth yn cael ei ddefnyddio (yn ystod y crunch) achos mae hyn yn fuddsoddiad i'r ddyfodol (cofiwch yr pres sydd yn cael ei fuddsoddi yn yr hen "welsh office" yn mharc cathays yn Nghaerdydd rwan!).
p.s. i hogyn ifanc sydd ddim mor ddalentog a chi yn y gymraeg D.Enw, be mae llymri yn ei golygu?
Mae dy gyfeiriad at Queen Anne Square (y cartrefi crand ym Mharc Cathays) yn ddiddorol. Fe'i codwyd yn fwriadol fel cartrefi i weinidogion Cymru y tu ol i'r safle y clustnodwyd ar gyfer ein senedd. Efallai bod y sefyllfa wedi newid ond tan yn ddiweddar roedd y rhan fwyaf o'r tai yn eiddo cyhoeddus.
"...delwedd hen-ffasiwn a ffroen uchel i'r llywodraeth..". Am rhyw reswm mae rhai y dyddiau yma'n drysu ffurfioldeb gyda bod yn "hen fashiwn a ffroen uchel". Mae'r ddau beth yn gwbwl wahanol, a dyw un ddim yn eithrio'r llall. Fe ellir fod yn ffurfiol ar yr un pryd a bod yn fodern ac yn ostyngedig heb ynrhyw broblem!
Mae rhoi cartref swyddogol i Lywodraeth y Cynuilliad neu'r Prif Weinidog ei hun yn cadarnhau statws a phwysigrwydd y Swyddfa yn ffurfiol ar ran pobol Cymru. Mae peidio gwneud hyn ond yn diraddio pwysigrwydd y Swyddfeydd hyn.