´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Llai o sbort

Vaughan Roderick | 21:02, Dydd Mawrth, 7 Ebrill 2009

Tynnu coes Lembit oeddwn i yn y post "Am sbort" gan ddyfynnu o'i golofn yn y "papur" hwnnw. Fe wnes i gynnwys y dyfyniad yma.

"So, for once, leave Citizen Smith alone. And as for you, Mr Smith, next time order it through the Daily Sport, mate--and DON'T claim it on expenses."

Dwi newydd gofio bod Lembit wedi dweud rhywbeth ychydig yn wahanol wrth bapurau go iawn, y , er enghraifft.

Lembit Opik, the Liberal Democrat MP, said that Miss Smith had been left "compromised," adding: "This is immensely embarrassing for Jacqui on a personal and domestic level. "I haven't got any particular issue about what they watch in their own time, I do have an issue about the fact that he has compromised her.'

Sut mae'n cymhwyso eu safbwyntiau, dwedwch? Efallai nad yw cysondeb yn bwysig ar blaned Opik.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:28 ar 8 Ebrill 2009, ysgrifennodd Albert:

    A bod yn deg, mae'n anodd i Mr Opik gadw ei lygad ar y bel pan mae o mor brysur yn cyfrannu i raglenni adloniant ar y teledu. Noson o'r blaen, mi welais i Lembit yn dyfalu pwy ydi 'TV's Top 50 Hard Men'.

    Ew, mae'n rhaid bod pobl Maldwyn yn falch iawn wrth ei wylio.

  • 2. Am 22:45 ar 9 Ebrill 2009, ysgrifennodd Hogygog:

    Mae'r sylw 'planed Opik ' yn berthnasol iawn i'w deulu a'i ddiddordebau, Vaughan. Efallai mai
    gwell fuasai iddo ysgrifennu i'r Daily 'Star' neu i'r 'Sun' , efallai ?
    A yw wedi anobeithio cadw ei sedd yn yr etholiad nesaf ac yn gwneud o gorau o'i '15 munud' , tybed ?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.