´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rialtwch

Vaughan Roderick | 14:25, Dydd Gwener, 17 Ebrill 2009

Y Rhyddfrydwyr yw thema'r wythnos hon. Pam, tybed?

Y ffilm yma yw'r darn gorau o ddychan i mi weld erioed. Fel cefndir i bawb dan hanner cant roedd cyn-arweinydd y Rhyddfrydwyr a'i gyd-ddiffynyddion (dau ohonynt o Borthcawl) newydd eu cael yn ddieuog o gynllwynio i lofruddio Norman Scott, cyn-gariad Thorpe. Roedd 'na gwyno ar y pryd bod crynhoad y barnwr yn anhygoel o ffafriol i'r amddiffyniad. Dyma fersiwn Peter Cook o sylwadau'r barnwr yng nghyngerdd Amnest Rhyngwladol y "Secret policeman's Ball"

Nesaf araith enwog David Steel yn yr Arcadia, Llandudno. "Go back to your constituencies..."


Lembit! Aelod Maldwyn yn proffwydo buddugoliaeth i'w blaid yn is-etholiad Crewe a Nantwich.

Canlyniad yr etholiad hwnnw.

Gyda llaw, mae gen i ynghylch dyfodol y Democratiaid Rhyddfrydol ar y prif safle.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:07 ar 17 Ebrill 2009, ysgrifennodd Emyr:

    Oes unrhyw un yn gwybod, neu wedi mynd ati i geisio canfod (drwy ddarllen gwefusau er enghraifft), be' mae DLlG yn ei ddweud wrth AH, a vice versa?

    Yn arbennig, byddai'n ddiddorol gwybod beth oedd wedi peri i'r ddau ohonyn nhw chwerthin mor harti gyda'i gilydd.

    Diddorol gweld yr hen DLlG yn saliwtio gymaint hefyd, ond yn edrych yn bur aneswmwyth wrth wneud.

  • 2. Am 13:41 ar 18 Ebrill 2009, ysgrifennodd Hogygog:

    Vughan, petawn yn Ryddfrydwr, ni fuaswn yn or-hapus at y ffordd yr ydych yn tynnu ein sylw at eu cysylltiad gyda gwyr sydd gyda cefndiroedd a hanes amheus. A oedd angen crybwyll Mr Opik o gwbl ?
    O ddifrif, mae dychan Peter Cook o'r achos drewllyd yna yn atgoffa hynny o grynhoad chwerthinllyd y barnwr yn achos enllib Jeremy Archer .

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.