Yma mae beddrodau'n tadau
Rwy'n dwli ar y dylai Cymry alltud gael bleidleisio mewn refferendwm ar bwerau llawn i'r cynulliad.
Fe fyddai'n datrys yr holl ddadlau ynghylch defod y Cymry ar Wasgar/Cymru a'r Byd. Gallwch chi ddychmygu'r dagrau wrth i haid o Americanwyr fwrw eu pleidleisiau wrth i gôr meibion ganu "Unwaith eto yng Nghymru annwyl"?
Y broblem wrth gwrs yw diffinio "Cymro Alltud". Mae Arglwydd Garel Jones ei hun yn cydnabod y broblem.
"Yn amlwg, fyddai rhywun ddim am gyrraedd sefyllfa lle mae cwpwl o gannoedd o filoedd o bobl yn Ariannin adawodd Cymru yn 1850 yn pleidleisio."
Ond na phoener. Mae pobol sy'n ceisio am ddinasyddiaeth Brydeinig yn gorfod eistedd . Fel cymwynas i drigolion Tooting a Threlew dw i wedi llunio prawf Cymreig cyffelyb. Credwch neu beidio mae'r cwestiynau yma i gyd wedi eu modelu ar gwestiynau go iawn "Byw yn y DU".
1. Beth yw enw'r cyhoeddiad sy'n croniclo trafodaethau'r Cynulliad?
2. Mae pobol Cymru yn bwyta twrci adeg Nadolig. Cywir neu anghywir?
3. Ar ba ddyddiad y mae Dydd Gŵyl Dewi yn cael ei ddathlu?
4. Beth yw'r oedran gadael ysgol yn Sir Fflint?
5. Yn lle y mae "cofi" yn cael ei siarad?
6. Oes 'na fwy o Fethodistiaid nac o Fedyddwyr yng Nghymru?
7. Pa system bleidlesio sy'n cael ei defnyddio i ethol cynghorau cymuned?
8. Oes rhaid i fyfyrwyr dalu ffioedd dysgu yng Nghymru?
A fyddai Arglwydd Garel Jones yn pasio tybed?
Mae'r awgrym yn dwyn i gof corff rhyfedd o'r enw "Cyngor Cymru a Mynwy", un o'r ymdrechion cynnar i leddfu'r galw am ddatganoli. Yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd yr oedd y Cyngor yn cwrdd ond cymaint oedd dylanwad Cymry Llundain arno nes i ryw wag awgrymu y byddai'n rhatach cynnal y cyfarfodydd ar blatfform gorsaf Paddington!
SylwadauAnfon sylw
Efo enw fel William Armad Thomas Tristan Garel-Jones dylai gael pedair pleidlais o leiaf.
Wrth gwrs gallwch chi ddim gadael i'r Wladfa bleidlesio. Jawch, falle se nhw'n pleidlesio dros mwy o ddedffau! Nawr sgwn i sut fyddai Mr. Garel Jones a'i gyd "frodorion" gynt yn weinidogion gwlad dan Mrs T yn pleidlesio...
Onid ein gobaith yw creu Cymru sydd wedi ei seilio ar ddinasyddiaeth nid ar hil neu ach? Mae'n ddatganiad clir o'r dull yr ydym yn diffinio Cymreictod bod hawl gan holl drigolion Cymru, o ba genfndir bynnag, bleidleiso, tra nad oes hawl gan y Cymry hynny sydd wedi dewis byw dramor. Mae'n ymddangos bod Garel Jones a Kinnock yn coleddu syniad o genedligrwydd wedi ei wreiddio mewn hil neu dras! Mae eu hawgrym yn gosod cynsail peryglus.
Y mae sylw Daniel yn ardderchog. Fel un o drigolion Grangetown, credaf bod ei neges yn holl bwysig.