´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Aur ac Arian

Vaughan Roderick | 19:30, Dydd Mercher, 20 Mai 2009

Diawch, roeddwn i'n meddwl bod San Steffan yn wael ond beth am y stori yma o'r ?

" An investigation by the Herald has discovered no official agency monitors how much of the $32,000 allowance is kept as income by MPs, how much is spent on voters or what it is spent on. The Remuneration Tribunal said politicians could spend it "at their discretion" and many MPs say they use it to buy raffle tickets, give prizes and provide assistance to their electorate. But they can also keep some or all of it as taxable income."

Gyda'r Gemau Olympaidd yn dod i Lundain hwyrach y dylid trefnu cystadleuaeth i ganfod y gwleidydd mwyaf ariangar!

Beth am wahodd o Louisiana? Er i'r FBI ddod o hyd i $90,000 yn ei rewgell a'i gyhuddo o un ar bymtheg o achosion o dderbyn llwgrwobrwyon cafodd Jefferson ei ail-ethol i Gyngres yr UDA yn 2006. Doedd e ddim mor ffodus llynedd!

$90,000? Arian poced mae'n debyg i . Fe dderbyniodd hwnnw "anrhegion" o £8.5 miliwn gan ddynion busnes Iwerddon dros gyfnod o 17 mlynedd.

£8.5 miliwn? Wfft i hynny medd o Zaire. Roedd hwnnw yn llogi awyren Concorde at ei ddefnydd personol gan godi maes awyr preifat ar gyfer yr awyren ym mhentref ei enedigaeth. Amcangyfrifir iddo ddwyn $5 biliwn (ie, biliwn) o goffrau un o wledydd mwyaf tlawd y byd, neu mi oedd hi'n dlawd erbyn iddo fe gwpla!

A dyma ni'n poeni am setiau teledu ac ambell i "trouser press". Mae'n gwleidyddion ni'n amaturiaid!

Fel mae'n digwydd mae'r elusen "" yn ceisio mesur llygredd mewn gwahanol wledydd gan gyhoeddi rhestr flynyddol o'r gwledydd lleiaf a mwyaf llwgr. Y llynedd allan o 170 o wledydd roedd Prydain ymhlith yr ugain lleiaf llwgr. Mae'n werth cofio hynny weithiau.

Yr hyn sy'n rhyfedd yw bod ariangarwch ceiniog a dimau rhai o'n gwleidyddion yn teimlo'n waith rhyw sut na lladrad agored gwleidyddion tramor. Mae'r peth mor ddiangen ac mor druenus o bitw.

"Canys pa lesâd i ddyn, os ennill efe y Trouser Press, a cholli ei enaid ei hun?"


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:46 ar 21 Mai 2009, ysgrifennodd Deio:

    Well, mae ein llywodraeth 'ni' yn dwyn tua 25% o ffrwyth fy llafur i bob wythnos......

    Gyda, llaw, gan dy fod ti Vaughan wedi son am deledu....dwi'n meddwl eu bod hi'n bryd dechrau edrych ar beth mae'r ´óÏó´«Ã½ yn rhoi i'w staff....gan ddechrau gyda Thompson ar y brig.;-)

  • 2. Am 22:04 ar 21 Mai 2009, ysgrifennodd Hogygog:

    Rhyw chwarter canrif yn ol, dwi'n cofio mynychu achos llys yn y Bala - Cymdeithas yr Iaith wedi meddiannu ty
    haf rhyw AS . Dwi bron 100% yn siwr mai ty Antony Steen ydoedd . Ew, mae'n rhaid ei fod o'n dy haf cyffyrddus ! .

  • 3. Am 22:08 ar 21 Mai 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Diawl, gwd sbot! Rwy'n siwr dy fod ti'n iawn. Fe wnai ymchwilio!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.