Da yw swllt
Dydw i ddim yn un o'r rheiny sy'n breuddwydio am fyw mewn pentref neu yng nghefn gwlad. Person dinesig bues i erioed. Mae 'na fwy o bethau i wneud yn y dref a mwy o ddewisiadau rhywsut.
Roeddwn yn meddwl am hyn wrth i fy nghyfaill Rhun ap Iorwerth sôn am frwydr yr archfarchnadoedd yn Llangefni. Cyn i chi ofyn (os oes rhaid gofyn) nid Waitrose ac M&S Food sy'n ymrafael a'i gilydd ond y ddau gwmni Almaenaidd Aldi a Lidl.
Yr hyn oedd wedi taro Rhun oedd bod y ddwy siop yn cystadlu a'i gilydd nid yn unig ar sail pris ond hefyd ar sail Cymreictod. Mae'n debyg bod yr Aldi newydd wedi ymateb i arwyddion dwyieithog yr hen Lidl trwy godi arwyddion uniaith Gymraeg.
Mae'n bosib deall hynny yn Llangefni. Jyst abowt. Mae polisi cwmni Asda yng Nghaerdydd yn fwy rhyfedd. Tua'r un amser ac agoriad Aldi yn Llangefni agorodd Asda archfarchnad enfawr gyferbyn a stadiwm newydd Clwb Pêl-droed Caerdydd. Fel y byddai dyn yn disgwyl y dyddiau hyn mae arwyddion y Ninian newydd yn ddwyieithog ond mae'r archfarchnad wedi mynd cam ymhellach trwy ddefnyddio ffont llawer yn fwy i'r Gymraeg na'r Saesneg. A dweud y gwir mae'n rhaid craffu'n eithaf agos ar yr arwyddion i sylwi bod y Saesneg yna o gwbwl.
Wythnos nesaf, mwy na thebyg, fe fydd Pwyllgor Deddfwriaeth (5) y cynulliad yn cyhoeddi canlyniadau ei ystyriaeth o'r LCO iaith. Gallai'r LCO rhoi'r hawl i'r cynulliad orfodi'r defnydd o'r Gymraeg yn y sector breifat. Y cwestiwn sy gen i yw hwn. A fyddai gorfodi triniaeth gyfartal o'r ddwy iaith fod yn gam yn ôl mewn ambell i le- Aldi, Llangefni ac Asda, Parc Ninian, er enghraifft?
SylwadauAnfon sylw
ond dyna yw dwyieithrwydd i fod, ynte... cydraddoldeb rhwng y ddwy iaith.
roedd arwyddion cymraeg co-op crwys road, caerdydd, yn llawer mwy na'r rhai saesneg nol yn 2001...