Lessons History
Erbyn hyn mae o gwmpas un o bob pump o blant Caerdydd yn mynychu ysgolion Cymraeg ac mae gwleidyddion y ddinas newydd wneud canfyddiad rhyfeddol. Mae rhieni a neiniau a theidiau'r plantos yn pleidleisio!
Gadewch i ni osod y peth ar ffurf cwestiwn cyfnod allweddol 2.
Os ydy un o bob pump o blant mewn ysgolion Cymraeg faint o bleidleisiau sydd i'w colli trwy wrthwynebu ehangu'r ddarpariaeth?
a.1%
b.5%
c.10%
ch.20%
Ch. yw'r ateb cywir wrth gwrs. Am y tro cyntaf erioed mae gan rieni'r sector Gymraeg glowt gwleidyddol - ac nid yng Nghaerdydd yn unig.
Cymerwch un esiampl. Yn yr Eglwys Newydd yng ngogledd Caerdydd mae 'na ddwy ysgol gynradd Saesneg ac un ysgol Gymraeg. Mae'r cyngor yn ystyried uno'r ysgolion Saesneg ac ehangu'r ysgol Gymraeg. Nawr yn yr hen ddyddiau fe fyddai unrhyw wleidydd lleol gwerth ei halen yn gwybod sut i ennill fôts hawdd- gwrthwynebu'r cynllun yn ei grynswth gan fwmian rhywbeth am y "crachach", ´óÏó´«Ã½ Cymru a "local schools for local kids".
Nid felly mae pethau'r dyddiau 'ma. Tra bod gwleidyddion yr Eglwys Newydd fel ei gilydd am amddiffyn yr ysgolion Saesneg (ac mae 'na ddadleuon da dros wneud) rhaid gwneud hynny heb bechu rhieni'r ysgol Gymraeg.
Yn y cynulliad y prynhawn yma roedd Jonathan Morgan, yr aelod cynulliad lleol, ar ei draed yn cwyno am fethiant Cyngor Caerdydd "dros gyfnod o ddegawdau i gwrdd â'r galw am addysg Gymraeg". Galwodd am ddadl i drafod y ffordd ymlaen yn enwedig sut y dylid ariannu addysg Gymraeg. Hwn yw'r tric diweddaraf gan wleidyddion- esgus y gall rhyw bot o arian gael ei ganfod yn rhywle er mwyn codi ysgolion newydd sbon er mwyn diogelu dyfodol ysgolion hanner gwag. Mae gwleidyddion o bob plaid yn euog o hyn.
Cafodd Jonathan fawr o gydymdeimlad gan arweinydd y tŷ. Nid arian oedd y broblem yn ôl Carwyn Jones. "Mae cynghorau yn osgoi cymryd penderfyniadau anodd oherwydd eu bod nhw'n anodd" meddai. Ac aelodau cynulliad hefyd.
SylwadauAnfon sylw
Mae faint i bleidleisiau sydd i'w colli trwy wrthod ehangu'r ddarpariaeth Gymraeg yn debygol o fod yn uwch na 20%.
Mae'r galw am addysg Gymraeg yn y brifddinas yn uwch na 20%. Y cyflenwad, nid y galw sy'n 20%.
"Lessons History, wir?" Ma' ise Lessons Sums ar Vaughan a blogmenai.
Wn i ddim faint o blant sy'n byw yng Nghaerdydd ond dyweder fod plant rhwng 4 a 18 yn cyfrif am 20% o'r boblogaeth gyfan. Mae 20% o'r 20% yn derbyn addysg Gymraeg, felly 4% o holl boblogaeth Caerdydd sy'n derbyn addysg Gymraeg.
Hyd yn oed os yw eu rhieni, a'u neiniau a'u teidiau a'u modrybedd a'u ewyrtherod a'r dyn a'r ddynes drws nesaf yn cefnogi addysg Gymraeg dwi'n amau'n fawr a fydd y cyfanswm yn cyrraedd 10% o holl boblogaeth y Brifddinas.
Felly c) nid ch)yw'r ateb mwyaf cywir. Sori mod i'n taflu dwr oer ar stori newyddion da. Er hynny, boed i Gymrakis bach Caerdydd elwa'n llawn o'u haddysg gan ddysgu gwneud 'u syms yn gywir - sori dwi'n cofio nawr rhifyddeg yw'r gair.