´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Llafur Cariad

Vaughan Roderick | 16:59, Dydd Iau, 21 Mai 2009

Wrth yrru i'r gwaith bob dydd rwy'n teithio heibio Parc Ninian ac wrth wneud rwy'n teimlo ambell bwl o hiraeth. Fe fydd gatiau hen gartref Clwb pêl droed Caerdydd yn cau am y tro olaf ymhen rhyw bythefnos, wrth gwrs, gyda'r clwb yn symud i'r stadiwm fodern gerllaw.

Beth sydd a wnelo hynny a gwleidyddiaeth? Wel fe allwn i grybwyll y ffaith mai aelod seneddol bwrdeistref Caerdydd oedd Ninian Chrichton Stuart, y pwysigyn yr enwyd y cae ar ei ôl ond atgof mwy diweddar sy gen i.

Yn ôl yn 1970, fe lansiodd Harold Wilson ei ymgyrch etholiad mewn rali awyr agored ym Mharc Ninian gyda'r "Canton Stand" yn llawn i wrando ar yr arweinydd Llafur. Roeddwn i'n ddeuddeg ar y pryd a does gen i fawr o gof o'r digwyddiad ac eithrio'r hyn ddywedodd Wilson wrth gyflwyno Ted Rowlands oedd yn aelod Gogledd Caerdydd ar y pryd.

Nododd Wilson mai Ted oedd y gweinidog ieuangaf i'w benodi ym Mhrydain ers i Wilson ei hun gael ei ddyrchafu i'r meinciau blaen yn 1945. Doedd dim amheuaeth meddai y byddai'r Rowlands ifanc yn cyrraedd pinacl gwleidyddiaeth Prydain.

Nid felly y bu pethau. Collodd Ted ei sedd yn 1970. Dychwelodd i San Steffan fel aelod Merthyr yn 1972 ond methodd gyflawni ei lwyr botensial er iddo gael gyrfa digon anrhydeddus. Problem Ted oedd ei fod yn wleidydd oedd yn siwtio bod mewn llywodraeth. Doedd e ddim yn meddu'r sgiliau na'r amynedd i ffynnu ar feinciau'r gwrthbleidiau. Fel 'na mae ambell i wleidydd. Anlwc Ted, fel ei gyfaill, Denzil Davies, oedd gwasanaethu yn y senedd mewn cyfnod pan oedd llywodraethau Llafur yn bethau prin.

Ar ddiwedd y dydd mae pob gwleidydd yn chwennych grym wrth gwrs. Efallai mai dyna'r rheswm y mae cymaint o gyw gwleidyddion Llafur yn ceisio am enwebiadau cynulliad ac yn anwybyddu gornestau seneddol. Fe geisiodd dros ddeg ar hugain o ymgeiswyr posib ar gyfer enwebiad cynulliad Pontypridd ac mae dros ddwsin eisoes yn llygadu Blaenau Gwent er y gallai'r sedd honno brofi'n anodd ei hennill.

Yn y cyfamser prin yw'r rhai sy'n cynnig eu henwau ar gyfer yr etholiad cyffredinol. Nid bod yn sarhaus ydw i drwy awgrymu na fyddai Llafur wedi dewis Ronnie Hughes pe bai unrhyw un yn credu am eiliad bod gobaith i'r blaid gadw Aberconwy. Mae yn llygad ei le.

Yn y cyfamser mae 'na ymgeiswyr newydd i'w dewis mewn dwy sedd seneddol y mae Llafur yn eu dal ar hyn o bryd sef De Clwyd ac un na fedrai enwi eto. Fe fydd hi'n ddiddorol gweld faint sy'n mentro amdanynt.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 23:00 ar 24 Mai 2009, ysgrifennodd Dyfrig:

    Beth ddigwydd wrth ddewis ymgeisydd Cynulliad i Lanelli te? Dim llawer o gystadleuaeth hyd y gwn i

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.