Zelig
Mae hi wedi bod yn wythnos dda i bobwyr y Bae gyda'r holl deisennau pen-blwydd o gwmpas y lle.
Dyna i chi Rhodri yn torri ei gacen Ddydd Llun. A phwy oedd yna i'w helpu? Wel roedd ei ddirprwy, Ieuan Wyn Jones yno, wrth reswm. A phwy arall? Ei ragflaenydd, Alun Michael? Dim sôn. Arweinwyr y pleidiau eraill efallai? Dim ffiars o beryg ond roedd y gweinidog addysg, Jane Hutt wrth law yn gwenu'n rhadlon ar gyfer y camerâu. Mwy na hynny roedd hi bron yn amhosib gweld Ieuan wrth i Jane wthio'i ffordd i'r blaen.
Tro Dafydd Elis Thomas oedd hi i dorri cacen Ddydd Mawrth- y tro hwn yn fyw ar "Wales Today". Dwy funud i fynd a dyma Zelig y cynulliad yn ymddangos unwaith yn rhagor. Safodd Jane Hutt wrth ymyl y Llywydd gan afael yn y gyllell er mwyn rhannu'r gwaith arlwyo. Hynny er gwaethaf gygau swyddogion y wasg a phrotestiadau ei chyd-aelodau.
Mae'n ffodus nad oedd ymgeisiwyr posib eraill ar gyfer yr arweinyddiaeth Llafur o gwmpas!