Brics a morter
Rwy'n dal i balu fy ffordd trwy dreuliau Aelodau Seneddol Cymru. Peidied neb a meddwl nad oes 'na ragor o straeon i ddod!
Un arfer sy'n dod i'r amlwg dro ar ôl tro yw un sy'n gwneud i mi deimlo'n anesmwyth tu hwnt sef achosion o aelodau'n rhenti swyddfeydd mewn adeiladau sy'n eiddo i'w pleidiau. Mae'r arfer yn codi cwestiynau nad ydynt yn hawdd ei hateb.
Mewn rhai achosion (y Ceidwadwyr yn Hwlffordd a Phlaid Cymru yng Nghaernarfon, er enghraifft) mae'r pleidiau yn berchen ar adeiladau trawiadol, addas ac adnabyddus i'r etholwyr. Fe fysai'r droëdig rhywsut i ddweud na ddylai'r aelodau etholedig ddefnyddio'r adeiladau hynny neu i wahardd y pleidiau rhag derbyn rhent am y cyfleusterau.
Yr hyn mae dyn yn cael gan y pleidiau bob tro wrth holi am yr arfer yw'r esboniad bod y rhent "wedi ei bennu'n annibynnol ac yn unol â phris y farchnad". Digon teg. Y broblem yw wrth gwrs bod "pris y farchnad" yn cynnwys elw i'r landlord sef, yn yr achosion yma, pleidiau gwleidyddol yr aelodau.
Dydw i ddim yn meddwl y byddai'n rhesymol i wahardd yr arfer ond mae gen i un awgrym. Ar hyn o bryd mae pleidiau lleol ond yn gorfod cyhoeddi eu cyfrifon ar wefan y Comisiwn Etholiadol os ydy cyfanswm eu hincwm neu eu gwariant yn fwy na £25,000 y flwyddyn. Fe fyddai gorfodi i unrhyw blaid leol sy'n derbyn rhent gan aelod etholedig gyhoeddi manylion y cytundeb a'r incwm "net" i'w coffrau yn gam sylweddol ymlaen.
.