Ffeithiau o'r diwedd!
Etholaethau wedi eu hennill fesul Plaid.
Ceidwadwyr 17
Llafur 13
Plaid 5
Dem Rhydd 1
4 i ddod sef Conwy, Pontypridd, Cwm Cynon ac Ynys Mon.
Dydw i ddim am ail-deipio'r canlyniad llawn. Un gair. Anhygoel.
Diweddariad. Conwy Plaid, Ynys Mon Plaid, Pontypridd Llafur, Cwm Cynon Llafur. Felly;
Ceidwadwyr 17
Llafur 15
Plaid 7
Dem. Rhydd. 1
Cofiwch mai'r hen etholaethau yw rhain. Conwy nid Aberconwy, er enghraifft.
SylwadauAnfon sylw
Oes modd gweld y canlyniadau unigol mewn urhyw fan ? Gwn dy fod rhy brysur i'w teipio ond mae rhai anoraks fel fi yn hoffi dadansoddi canlyniadau unigol.
Fel hyn y byddwn ni yn crynhoi pethau
Ceidwadwyr - addawol ond nid ardderchog B+
Llafur- siomedig iawn ond nid trychinebus C-
Plaid Cymru siomedig dylet fod wedi gwneud yn well B-
Rhyddfrydwyr - siomedig agos at drychinebus C-
UKIP Canlyniad da B+
Rwan dwi'n mynd i roi llaeth i'r babi sydd wedi gorfod disgwyl ychydig yn hwyrach heno.
O holl bethau gwirion pam ar ddaear gyhoeddi'r canlyniadau mesul hen etholaethau????
Mae'n wendid sylfaenol yn y system. Yn fy marn i ddylai'r comisiwn etholiadol drefnu etholiadau gyda "virtual talley room" fel mewn gwledydd eraill.
Beth fedrai ddweud? Dyna yw'r drefn. Yn Lloegr mae nhw'n cyhoeddi mesur awdurdod lleol. Mae 'na un etholiad (un y cynulliad) wedi bod yn defnyddio'r ffiniau newydd. Hurt. Gwirion. Ynfyd. Dewiswch eich gair!
Rwy'n teipio'n fwy gwallgof nac wyt ti'n gwybod. Cred neu beidio dwi wedi bod yn teipio blog Betsan hefyd.
Diolch Vaughan am roi inni dameidiau o wybodaeth ar eich blog neithiwr. Er mai tameidiau oeddynt, yr oedd yn dda iawn eu cael, er bod ambell sibrydiad wedi bod yn gamarweiniol. Ond sibrydion yw sibrydion: dydw i ddim yn eich beio chi o gwbl am hynny.
Yr hyn sy'n fy mhoeni y bore yma yw na soniwyd dim un gair o gwbl ar y Post Cyntaf heddiw am ganlyniadau rhyfeddol Plaid Genedlaethol yr Alban. Mae'r canlyniadau hynny'n haeddu cael eu crybwyll ar Radio Cymru, a gobeithio y clywn fwy amdanynt cyn diwedd y dydd.
Ie diolch, Vaughan. Er, fe ges i haint pan soniwyd fod y Dem Rhyddiaid (chwedl Cynog!) wedi ennill Ceredigion! Doedden nhw ddim yn agos wrth gwrs.
Vaughan,dwi'n gwybod nad yw gohebwyr yn datgelu ffynhonnellau ond rho gliw i ni ynglyn a'r honiad anghywir o Geredigion. Lib Dems?