Ffol-di-rol
Does gen i ddim byd yn erbyn dinas Washington. Wrth reswm, does gen i ddim byd yn erbyn Cymru chwaith. Serch hynny rwy'n hynod o falch i beidio bod ym mhrifddinas yr Unol Daleithiau ar gyfer y "". I arall-eirio Goring o glywed y gair "folk" neu "gwerin" rwy'n ymestyn am fy ngwn!
Cyn i unrhyw un camddeall does gen i ddim gwrthwynebiad o gwbwl os ydy oedolion yn dymuno clocsio y tu 么l i ddrysau caeedig. Dydw i ddim am wahardd Cerdd Dant. Mae gen i bolisi "don't ask-don't tell" ynghylch y pethau "gwerin" 'ma. Rhyngoch chi a'ch Hob Y Deri Dando! Dydw i ddim hyd yn oed yn drwglicio'r caneuon na'r dawnsfeydd . Y rhamantu yn eu cylch nhw sy'n fy ngwylltio i, y syniad bod y stwff yma rhywsut yn "fwy cynhenid", yn "fwy Cymreig", yn "well" hyd yn oed na chanu gwlad neu pop neu rock'n'roll.
Mae nifer sylweddol o'n dawnsfeydd "gwerin" yn seiliedig ar Mrs Magretta Thomas o Nantgarw, atgofion wnaeth gael eu cofnodi gan ei merch y diweddar Dr Ceinwen Thomas.
Roedd fy hen daid yn weinidog ar gapeli yn Nantgarw a Groeswen. Mae fy nheulu wedi ffarmio'r un darn o dir Fynydd Maio ers canol y deunawfed ganrif. Yn 么l Dr Thomas roedd y dawnsfeydd yma yn cael eu perfformio fel rhan o ddathliadau Sulgwyn capeli fy hen daid. Mae'n rhaid ei fod e (a phawb arall) yn y festri ar y pryd.
Fe wnes i ofyn i Dr Thomas unwaith (degawdau yn 么l bellach) pam nad oedd neb arall yn y pentref ac unrhyw atgof o gwbwl o'r dawnsfeydd. Dydw i ddim yn cofio'r ateb a dydw i ddim yn mynd i esgus fy mod i. Wedi'r cyfan fe fyddai'n gwbwl hurt i esgus eich bod yn cofio rhywbeth neu fod rhywun arall yn cofio rhywbeth.
Mae bosib, wrth gwrs bod trigolion Mynydd Maio (ac eithrio Mrs Thomas) yn bobol hynod o anghofus. Mae'n bosib hefyd bod nifer o ganeuon "music hall" Saesneg yn gyfieithiadau o ganeuon "gwerin" Bob Roberts Tai'r Felin. Posib ond annhebyg.
Mae 'na bwynt gwleidyddol i'r "rant" yma! Mae dyrchafu "traddodiadau gwerin" a'r "werin bobol" eu hun yn gallu bod yn beth peryg. Mae'n gallu esgor ar gasineb tuag at foderniaeth a diwylliannau eraill a phwyslais ar burdeb gwerinol. Fe ysgrifennodd R Tudur Jones erthygl enwog "Cysgod y Swastika" ynghylch y peryglon hynny yng Nghymru. Fe fyddai'n well gen i ail-ddarllen hwnnw na gwrando ar y ffoldirolio yn Washington!
ON Rwyf newid dderbyn y nodyn yma gan gyfaill:
Dyma ywMae'r Sbaeneg ar y blurb ar yr ochr yn deud. 'Penderfynod y beirniaid beidio rhoi gwobr yn y gystadleuaeth yma' Tybed pam?!
SylwadauAnfon sylw
Erthygl warthus yw "Cysgod y Swastika" R. Tudur Jones, ac yn farc du iawn ar record hanesydd diwylliannol fu gyda'r gorau yng Nghymru. Anodd meddwl y gallai awdur llyfr ardderchog fel "Ffydd ac Argyfwng Cenedl" sgwennu'r ffasiwn sothach.
Y cyd-destun ar gyfer deall "Cysgod y Swastika" yw casineb heddychwyr y Blaid at fudiad Adfer yn ystod y saithdegau. "Adolygiad" yw'r erthygl o lyfr Emyr Llywelyn, "Adfer a'r Fro Gymraeg". Is-lywydd y Blaid oedd R. Tudur Jones ar un adeg, ac yn gyfaill mawr i Gwynfor Evans. Roedd y Blaid ac Adfer yn casau ei gilydd, ac mae'n amhosb gan hynny roi unrhyw werth ar yr "adolygiad".
Mae'n wir bod trafodaeth ddiddorol y gellid ei chael ynghylch syniadau megis "eneidfaeth" ayyb yn "Adfer a'r Fro Gymraeg". Rwy'n cytuno ei bod yn syniad amheus - ond Herder (yr athronydd Almaenig o'r 19g), ac nid Hitler, yw'r ysbrydoliaeth.
Rhaid cyfaddef nad wyf yn ffan o'r busnes clocsio ma chwaith - ond y gwir amdani ydi mai hwyl ddiniwed ydi o, a dyna'r cwbl. Dwi ddim yn credu fod cysylltiad anorfod rhwng Natsiaeth a'r canu gwerin. Ac o ran y cyhuddiad nad oes sail hanesyddol i lawer o hyn. Wel, beth yw'r ots? Nid oes sail hanesyddol i 90% o'r hyn a ddysgwn fel 'hanes'! Mae pob cenedl yn 'ffugio' ei hanes ei hun.
Clocsio? Hwyl diniwed? Dachi'n gallu dwad???
Wel dyna beth yw "rant"!
Pam esgus mabwysiadu rhyw agwedd siwdo dinesig dilornus at yr agweddau yma o'n diwylliant Vaughan? Mae dawns a chan yn rhan annatod o'n diwylliant ac yn parhau felly. Ond pam dynodi clocsio a cerdd dant fel rhyw arferion y dylid bod a cywilydd ohonyt. Un o nodweddion dy erthyglau dithau yw'r defnydd o bennawdau sy'n adleisio cerdd neu can o'r gorffennol - ac onid dyna yw asgwrn cefn ein holl diwylliant gwerin - maent yn ein hatgoffa o'n gorffennol tra yn ein difyrru ..... nid yn anhebyg i dy gyfraniadau dithau ar dy Flog!
Dywedodd Vaughan: 鈥淵 rhamantu yn eu cylch nhw sy'n fy ngwylltio i, y syniad bod y stwff yma rhywsut yn "fwy cynhenid", yn "fwy Cymreig", yn "well" hyd yn oed na chanu gwlad neu pop neu rock'n'roll.鈥
Yn fy mhrofiad i does fawr neb sy鈥檔 chware cerddoriaeth gwerin o ddifri鈥 yn 鈥榬hamantu鈥檙鈥 gerddoriaeth yn y dull yma. Diffyg gwybodaeth, annodweddiadol, sy鈥檔 sail i dy 鈥榬ant鈥 dwi鈥檔 ofni, Vaughan. Y pibydd a鈥檙 gitarydd cyfareddol Ceri Rhys Matthews sydd wedi bod wrthi yn paratoi鈥檙 CD arfaethedig o ganu 鈥榞werin鈥 Cymraeg i鈥檙 Smithsonian, ac wn i ddim am unrhywun sy鈥檔 ehangach ei orwelion cerddorol.
Cymer gip ar gatalog Fflach:Tradd sy鈥檔 cynnwys y delynores Llio Rhydderch, y band Sild sy鈥檔 cyfuno cerddoriaeth Cymraeg a cherddoriaeth Estonia, y band 鈥榩unk-gwerin鈥 o Townhill, Abertawe, 鈥楾he Boys from the Hill鈥, ac (i chwythu fy sacsoffon fy hun) y chwechawd jazz 鈥楤urum鈥. Does dim sy鈥檔 gul, yn bur, nac yn blwyfol am y gerddoriaeth yma i鈥檓 tyb i.
Fyddwn i ddim mor llym fy meirniadaeth o 鈥楥ysgod y Swastika鈥 a Simon Brooks (mae yna gysylltiad syniadaethol rhwng Herder a Hitler), ond dwi鈥檔 awgrymu dy fod yn darllen rhai o ysgrifau yr eangfrydig Meredydd Evans ar ganu gwerin yn lle R. Tudur Jones, Vaughan, a thra dy fod wrthi, gwranda ar fand Affro-Americanaidd Rhiannon Giddens a鈥檌 Carolina Chocolate Drops, sy鈥檔 canu caneuon bluegrass, blues, a gwerin, yn Saesneg, Gaeleg yr Alban, ac ar ymweliad 芒 Abertawe yn 2007, yn Gymraeg. Dwi鈥檔 amau a fyddai鈥檙 gerddoriaeth yma wrth ddant Goring.
Gellir clywed peth o鈥檙 gerddoriaeth perthnasol yma:
Fe wna i gymryd dy gyngor. Fel dwedais i, dydw i ddim yn drwg-licio cerddoriaeth trad. Y gair folk/gwerin sy'n fy ngwylltio gyda'r ensyniad bod bywyd/diwylliant gwledig rhywsut yn fwy real a gwerthfawr na thraddodiadau eraill. Mae Amgueddfa Sain Ffagan, er enghraifft, wedi gwella'n aruthrol er iddi benderfynu bod yn Amgueddfa Hanes (yn Saesneg o leiaf)a chyflwyno bywyd Cymru yn ei gyflawnder yn hytrach na chanolbwyntio ar darlun biwcolic Iorwerth C Peate.
Newydd edrych ar y wefan Smithsonian. Diddorol iawn a nifer yn cynrychiolu Cymru yn y gwahanol meysydd.
Er hynny, dwi'n sylwi bod na fwy o gynrychiolwyr o Batagonia na Cymoedd y De! Sut yn y byd mae Urdd Gobaith Cymru yn gynrychiolaeth Cymru ar gyfer Chwaraeon? I fod yn deg, maent yn son am y cymoedd a thipyn o'r hanes, ond dim yn ein gwahodd, yn anffodus. Dwi'n hoff o'r darn yn Wales and the World a'r croeso ni'n rhoi i bawb yn y byd...bit much. Beth yn y byd mae 'Welsh Tea Room' Patagonia yn wneud yno? Rhaid cyfaddef i mi wenu, pan welais y rhan 'Plants and Medicine' gan i mi disgwyl rhywbeth gwbl wahanol.
Yn ol Simon, 'mae pob cenedl yn ffugio' ei hanes ei hun. Dwi'n tybio mae'r pleidiau gwleidyddol sydd yn ffugio hanes.
Nol at y Smithsonian, ai dyma beth sydd digwydd pan mae adran diwylliant y Cynulliad gyda gweinidog PC? Gor-cynrychiolaeth o rannau o Gymru, anwybodaeth am rannau eraill o Gymru neu jyst heb feddwl. Dwi'n siwr bod nifer yn haeddu bod yno o ran dawn, ond c'mon, bydd yn dda gweld balans yn hyn oll a chynrychiolaeth 'real' o Gymru.
Dwi'n tybio mae ni sy'n talu am 'Eisteddfod y States' hon? Mae hwn i gyd yn braidd yn gyfoglyd i fi.
Hei, ble mae'r Gymraeg ar y wefan hon?
Fe wnes i ddarllen llyfr Hywel Teifi "Eisteddfod Ffair y Byd" yn ddiweddar... mae 'na ambell i adlais!
Ydy, allai ddychmygu.
Yn anffodus, mae na leiafrif sydd dal yn byw yn 1893.
Simon, mae dy sylw yn haeddu ateb llawn. Rwy'n dewis fy ngeiriau cyn ymateb. Yn fy marn i dyw "Cysgod y Swatika" ddim yn warthus. I'r gwrthwyneb credaf mai hwn oedd peth pwysicaf i "Dr. Tuds" ysgrifennu. Rwy'n bwriadu dyrchafu rhai o'r sylwadau yma mewn post ac ymateb iddyn nhw yn ystod y dyddiau nesaf. Rwy'n ceisio gweithio allan sut mae dweud fy nweud o fewn rheolau'r 大象传媒!
Bu erthygl R. Tudur Jones yn ergyd fawr i fudiad Adfer, a oedd yn fudiad a oedd wedi dechrau gyda'r bwriad o ail-godi adfeilion gydag arian cyfraniadau, a rhentu'r eido i Gymry lleol. Yr oedd yn fudiad 'caletach', a mwy ymarferol na Chymdeithas yr Iaith. Yr oedd yn fudiad gyda meddylwyr mwy craff na Cymdeithas yr iaith erbyn yr 80'au -cymharer Ieuan Wyn , er enghraifft gyda Meri Huws . Pwysleisiau Adfer yr angen am gadw'r ardaloedd Cymraeg yn Gymraeg gyda pholisiau uniaith. Nid oedd polisiau dwyieithog CIG yn aml yn gwneud lles i gymunedau cryf (ar y pryd ) y Gorllewin . Arosodd Adfer yn unplyg genedlaetholgar yn y cyfnod pan oedd CIG yn achub morfilod ayb . Gelli ystyried Adfer fel rhagflaenydd i Cymuned , a tueddai i fod yn fudiad mwy gwrywaidd a sinicaidd ei naws na CIG , oedd yn apelio at ddelfrydwyr benywaidd.
Fe ysbrydolwyd Adfer gan J.R. Jones a'i syniadau ynglyn a'r perthynas rhwng cymdeithas a'i hiaith. Mae ei rybuddion ac ofnau wedi eu gwireddu filgwaith yng Ngheredigion.
Bu dadlau poeth rhwng Emyr Llew a Dr Tudur. Trychineb mawr, gan fod ill dau ymysg meddylwyr mwyaf eu cenhedlaeth .
Abraham - dwi'n meddwl dy fod di'n bod ychydig yn llawdrwm ac yn euog o weld polisi Gwyl Smithsonian ei hun i ffitio dy farn (rhagfarn) di.
Dwi'n digwydd gwybod i'r Urdd cael eu gofyn i fynd i'r Smithsonian i edrych ar ol y chwaraeon ar fyr rybudd iawn gan fod sefydliad cenedlaethol arall methu gwneud. Roedd angen sefydliad felly oedd a'r personel a'r strwythur cenedlaethol (ac ie, pobl fyddai'n gwybod rhywbeth am Gymru petai Americanwr yn holi) i sefyll yn y bwlch. Nawr, does dim yn hynny sy'n golygu nad oes pobl o'r Cymoedd yn rhan o dim yr Urdd sydd yn y Smithsonian. Wn i ddim. Dy awgrym di wrth gwrs yw fod yr Urdd yn fudiad Cymraeg ac felly yn llawn Gogs etc. Hyd y gwyddost ti, efallai fod staff yr Urdd yno yn llawn o bobl o'r Cymoedd.
O ran y ddelwedd o Gymru sy'n cael ei phortreadu yn yr Wyl, wel, mae hynny'n gyfyng iawn oherwydd rheolau'r Smithsonian. Mae'nt am weld pethau sy'n werinol (ie, dwi'm yn siwr beth mae hynny'n feddwl) ac am wn i unigryw. Wrth gwrs, fe ellid cael llwytho o bobl 'normal' a diwylliant 'gyfoes' dyweder lot o bobl ifainc yn dawnsio i fiwsig Michael Jackson ... ond wedyn, beth sy'n ddiddorol neu wahanol yn hynny. Neu'n hytrach, pam trefnu gwyl yn America i ddangos diwylliant Eingl-Americanaidd.
Dwi'n deall fod lot o stwff cyfoes yno. Dwi'n gobeithio hynny t'beth. Ond mae'n wir dweud fod lot fawr (y mwyafrif) o ddiwylliant Cymru bellach yr union yr un peth ag UDA, Prydain neu'r Almaen am wn i. Beth sy'n ddiddorol i'r Smithsonian yw beth sy'n wahanol. Camp y trefnwyr o Gymru yw llwyddo i sicrhau fod gwedd Gymreig gyfoes (a Chymraeg) i'r digwyddiadau. Ond i'r Smithsonian, Festival of FOLK life yw hi, felly cyn fod pobl yn dechre gweld cenedlaetholwyr diwylliannol o dan y gwely, byddai'n werth ystyried fod cliw yn nheitl yr wyl am beth yw ei bwrpas.
Efallai fyddai Abrham yn cwyno fod gwyl jazz Aberhonddu gynt ddim yn cynnwys digon o ganu cerdd dant neu ddawnsio gwerin?