´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mae'n braf cael byw mewn tÅ· haf...

Vaughan Roderick | 14:26, Dydd Mercher, 3 Mehefin 2009

Ymhen ychydig fe fydd gwefan ´óÏó´«Ã½ Cymru yn cyhoeddi crynodeb o'r wybodaeth sydd ar gael ynghylch treuliau Aelodau Seneddol Cymru. Mae'n anodd cadw trac weithiau!

Alun Michael yw'r diweddaraf i ddenu sylw . Yn unol â'r rheolau oedd yn bodoli ar y pryd pan ddyrchafwyd Alun i'r cabinet fe glustnododd ei fflat yn Llundain fel ei brif gartref ac fe barhaodd a'r drefn honno nes iddo adael y llywodraeth. Digon teg.

Ond arhoswch am eiliad. Beth am y cyfnod yna pan oedd Alun yn Brif Ysgrifennydd Cymru? Dyma sydd ganddo i ddweud mewn e-bost i'r ´óÏó´«Ã½.

My main home has always been in Penarth but - in common with all Ministers - the system defined Ministers as being London-based and required Ministers to claim on the constituency home as the "second home" irrespective of any personal arrangements. That kicked in immediately when I became a Minister in 1997. Being able to change definitions is a quite recent development following a rule change, and I have now used that choice - now that I am out of Government and a back-bencher - to designate Penarth as my main home and to reflect the reality of my situation. That choice wasn't there in the past. During my time at the Assembly I was still an MP but I was intending to stand down at the general election and the question of designation never arose.

Hynny yw, os nad ydw i'n cam-ddeall, yn ystod ei gyfnod fel Prif Ysgrifennydd, Cymru oedd "ail-gartref" Alun yng ngolwg yr awdurdodau yn San Steffan. Nawr Alun yw un o'r dynion lleiaf ariangar dw i'n ei nabod a dyw e dddim o'r fath o berson i chwrae'r system ond onid oes 'na rywbeth braidd yn rhyfedd mewn arwain gwlad tra'n ei chlustnodi fel ail gartref i chi?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.