Peter, Paul, Aneurin a'r LCO
Mae adroddiad pwyllgor deddfwriaeth y cynulliad ynghylch yr LCO iaith newydd ei gyhoeddi. Fel gwnes i broffwydo dwy'r pwyllgor ddim yn fodlon a'r gorchymyn yn ei ffurf bresennol. Hon yw'r frawddeg allweddol;
"Rydym yn argymell y dylai'r Cynulliad gael pwerau eang dros yr iaith Gymraeg, gan osgoi'r dryswch o fanylu ar bwy fydd, neu na fydd, yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth bellach yn y dyfodol, ar yr adeg hon. Credwn y gallwn gael dadl fwy gwybodus o lawer pan gaiff y mesurau arfaethedig eu cyflwyno."
Hynny yw, mae'r pwyllgor yn credu y dylai'r cynulliad gael y cwbwl lot o'r pwerau deddfu ynghylch yr iaith.
Yn benodol mae'r pwyllgor am i'r cynulliad gael yr hawl i ddeddfu yn y meysydd canlynol;
cyrff partneriaeth sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau trafnidiaeth yn cynnwys rheilffyrdd, bysiau, hedfan a fferis a sefydliadau ariannol mawr, yn cynnwys banciau.
Adroddiad y pwyllgor dethol sy nesaf. Os ydy'r pwyllgor hwnnw'n cytuno (ac mae 'na arwyddion o hynny) a fydd Swyddfa Cymru yn gwrando?
Paul Murphy oedd yn gyfrifol am lastwreiddio LCO yn y lle cyntaf. A fydd Peter Hain yn fwy hyblyg? Dydw i ddim yn gwybod. Mae record Peter ynghylch yr iaith yn bur dda. Ar y llaw arall mae'n debyg bod y berthynas rhyngddo fe a Rhodri o hyd yn fregus yn sgil helynt fideo Delilah.
Gyda llaw beth sydd wedi digwydd i safle ""? "A daily must-check website for anyone who wants to know what's really going on in Wales" oedd disgrifiad Peter o'r safle. Wel, rwy'n tsiecio bob dydd ac mae'n ymddangos bod y safle wedi syrthio i drwmgwsg.