Rhowch i mi'r hen ffordd Gymreig...
Mae'n werth ystyried geiriau Eluned Morgan ar "Post Cyntaf" y bore 'ma.
"Roedd 'na broblem ynglŷn â'n neges ni. Doedd y neges ddim yn un eglur. Roeddwn i'n rhan o'n hymgyrch ni a fedrai i ddim dweud wrthoch chi'n eglur beth oedd ein neges ni... Roedd hwn yn gic i ni ac mae'n rhaid i ni fynd ati i ailadeiladu'r blaid yng Nghymru. Dyw hynny ddim yn mynd i fod yn hawdd i ni. Mae 'na dipyn bach o fyth wedi codi ynghylch y peiriant llafur yng Nghymru. Does dim lot o beiriant i gael. 'Na'r gwirionedd ac wrth gwrs ar hyn o bryd mae prinder arian yn peri pryder mawr i ni fel plaid."
Hwn yw'r tro cyntaf, dwi'n meddwl, i wleidydd Llafur gyfaddef yn gyhoeddus yr hyn sydd wedi bod yn amlwg i nifer ohonom ers tro byd. Mae peirianwaith canolog y Blaid Lafur yng Nghymru bellach yn blisgyn gwag ac yn llwyr fethu cystadlu a'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru ac efallai hyd yn oed y Democratiaid Rhyddfrydol.
Pan gychwynnais i yn y busnes yma chwarter canrif yn ôl roedd swyddfa'r Blaid Ryddfrydol Gymreig yn cyflogi un person (sef Kate Lloyd) a hynny yn ystod y boreau yn unig. Dai Banjo, Gwerful a Phero'r gath oedd yn swyddfa Plaid Cymru ac roedd dau hen foi mewn blazers yn gweithio ym mhencadlys y Torïaid.
Cymharwch hynny a'r hyn oedd gan Hubert Morgan o dan ei oruchwyliaeth yn Transport House. Nid yn unig yr oedd ganddo fe fwy o staff na chyfanswm y pleidiau eraill gyda'i gilydd. Yn ystod etholiad fe fyddai llu o swyddogion undeb ar gael i sicrhau goruchafiaeth y blaid yng Nghymru. O dan eu goruchwyliaeth roedd cannoedd o ganghennau plaid ac undeb heb son am rwydweithiau'r Co-op, yr adran fenywod, y clybiau yfed, y llyfrgelloedd, y neuaddau gweithwyr a'r stwits.
Hwn oedd y peiriant Llafur, y peiriant y mae Eluned yn cyfaddef nad yw'n bodoli bellach. Dyw hynny ddim wedi digwydd dros nos. Bron fel enwad anghydffurfiol mae'r dirywiad wedi digwydd capel wrth gapel, pentref wrth bentref, achos wrth achos a hynny dros gyfnod o ddegawdau.
Nid yng Nghymru yn unig mae hynny wedi digwydd ac ymdrech i ymrafael a'r broblem oedd "Llafur Newydd". Lluniwyd polisïau a delwedd newydd i apelio at bobol nad oeddynt yn rhan o'r rhwydweithiau traddodiadol. Canfuwyd ffynonellau ariannol newydd i gyllido'r blaid ac roedd y cyfan yn ddarostyngedig nid i'r gynhadledd flynyddol na'r undebau ond i'r arweinydd a'r criw o'i gwmpas.
Ymwrthod a hynny wnaeth Rhodri Morgan. Roedd ef am weld "dwr coch clir" rhwng Llafur Cymru a Llafur newydd- y bechgyn a'r siwtiau drud a'r sgidiau sgleiniog. Efallai bod y nenfwd yn gollwng, yr aelodaeth yn lleihau a'r blaenoriaid yn heneiddio ond roedd Llafur Cymru am barhau i gadw drysau'r hen Dabernacl ar agor a chanu'r un hen emynau bob etholiad.
Dyna sydd wrth wraidd y gyflafan. Dyw beio "cyfuniad gwenwynig yr economi a threuliau" ddim yn ddigonol. Dyw hynny ddim yn esbonio pam yr oedd y canlyniad i Lafur yng Nghymru yn waeth nac yng ngweddill Prydain. Mae Llafur Cymru wedi methu addasu i newid cymdeithasol ac wedi osgoi penderfyniadau poenus ac anodd.
Dyw Llafur ddim ar ei gwely angau. Fe ddylai hi ennill y mwyafrif o seddi Cymru yn yr etholiadau cyffredinol nesaf ond mae'n bryd iddi ffarwelio a'r "hen ffordd Gymreig o fyw". Yn eu calonnau mae aelodau Llafur Cymru yn gwybod hynny ac mae nifer cynyddol yn fodlon dweud hynny'n gyhoeddus.
SylwadauAnfon sylw
Hynod ddiddorol, diolch yn fawr. Dyma enwebiad am flog-bost y flwyddyn.
Rwyt ti bron yn cael maddeuant am achosi harten neithiwr i bleidwyr Ceredigion!
Gweld fod y Dem Rhydd wrthi'n sbinio canlyniad Ceredigion fel buddugoliaeth heddiw (ceisio tynnu sylw oddi wrth y gyflafan ym Maldwyn?). Gwerth nodi fod Plaid Cymru yng Ngheredigion wedi cael canran uwch o'r bleidlais na chafodd y Ceidwadwyr ym Mhreseli, Gorllewin Clwyd a Gogledd Caerdydd - ac roedd yr etholiad hon i fod yn fuddugoliaeth fawr i'r Toriaid.
Beth am agor llyfr ar ganlyniad yr etholiad nesaf ?
Dyma fy nghynnig i ar sail canlyniadau neithiwr
Llafur 20
Ceidwadwyr 13
Plaid Cymru 5
Democratiaid Rhyddfrydol 2
Dwi yn amau fod posibl i'r Ceidwadwyr ennill 15 sedd a bod gan y Blaid obaith o ennill 6 ond dwi yn amau y byddai hyn yn rhy uchelegisiol ond pwy a wyr gyda pwrs Llafur yn wag pwy sydd am dalu am yr ymgyrch. Dwi ddim yn gweld llawer yn dod i'w hachubiaeth.
Un peth arall dwi yn meddwl fod y theori wleidyddol fod Cymru yn 3 cymuned :-
Gymru Gymraeg
Welsh Wales
British Wales
wedi ei gadarnhau unwaith eto yn yr etholiadau yma ?? Trafodwch
Rwy'n dal i gochi ynghylch Ceredigion! " My bad" fel mae nhw'n dweud!
Dydw i ddim mos sicr am dy osodiad olaf. Un peth sydd heb ei nodi hyd yma yw'r bleidlais i Blaid Cymru yng Nghaerdydd. Ym mha ddosbarth mae'r brifddinas erbyn hyn?
Mae un gwall difrifol yn yr erthygl.
Mwrc, nid Pharo, oedd y gath roedd Dai Banjo a Gwerful yn gweini arni yn swyddfa'r Blaid
Rwy'n eilio Meurig. Ti'n traethu gwirioneddau mawr yma Vaughan. Baswn i yn un wrth fy modd yn dy glywed yn cyflwyno y dadleuon hyn a ffurf rhaglen radio neu rhaglen deledu...
Cardiff Welsh siwr iawn !!!! Lobscows o Gymru a lot o lefydd eraill. Rhaid cael eithriad i bob rheol !!