Scots Wha Hae
Mae'r Gymraeg yn iaith. Mae hynny'n ffaith. Gall neb wadu'r peth.
Dyw pethau ddim mor syml bob tro. Roedd Serbo-Croat arfer bod yn un iaith. Bellach mae'n ddwy. Ydy Provençal yn iaith neu ydy hi'n fersiwn dafodieithol o Langue d'oc neu Langue d'oïl? O ran hynny, ydy'r Ocsitaneg (os mai dyna yw'r gair) a'r Oïleg (!) yn dafodieithoedd Ffrangeg?
Mae'n hawdd chwerthin wrth ddarllen wnaeth ymddangos yn "Scotland on Sunday" heddiw am ymgyrch ynghylch arwyddion archfarchnadoedd yn y wlad honno. Efallai ei bod hi'n annheg i wneud hynny.
THE battle for independence has moved into the fruit and veg aisles. A Nationalist politician has written to supermarkets demanding that they translate the English names of fresh produce into their Scots equivalents, such as "tatties", "neeps" and "brambles". Bill Wilson, the MSP for the West of Scotland, says stores should label goods in their stores according to the most commonly used Scots phrases north of the border.
Dydw i ddim yn gwybod rhyw lawer am sefyllfa ieithyddol yr Alban. Rwy'n gwybod bod darllen "Trainspotting" yn dipyn o dasg! Rwyf hefyd yn gwybod bod 'na rywbeth o'r enw "Doric" a rhywbeth arall o'r enw "Lallans" a bod y ddwy rhywsut yn gysylltiedig a "Scots".
Y gwir amdani, am wn i, yw bod tafodiaith yn gallu cael ei dyrchafu'n iaith os ydy pobol yn dymuno hynny ac os ydy'r ewyllys gwleidyddol yn bodoli.
Fel mae'n digwydd mae "Scots" yn fwy o bwnc llosg yng Ngogledd Iwerddon nac yn yr Alban. Roedd gan y Gweriniaethwyr eu hiaith eu hun felly roedd yr Unoliaethwyr yn benderfynol o gael un hefyd! O ganlyniad sefydlwyd i hybu'r 'iaith'. Serch hynny, mae'n anodd osgoi credu bod 'na elfen o ffrwyth dychymyg wrth ddarllen brawddegau fel hon ar .
"Laa-Makkan Forgaitherars (LMFs) is waled in frae the fowk o Norlin Airlan. Thar 108 LMFs, 6 frae ilkane o the 18 constituencies in Norlin Airlan. Wales tae the Assemblie bes helt ilka foweryeir."
Os ydy honno yn iaith beth am yr sy'n cael ei siarad yn yr Unol Daleithiau? Ydy honno yn iaith hefyd? Mae rhai yn dadlau ei bod hi gan ddefnyddio "Scots" fel cynsail. Wel, mae'r ddwy yn arbennig o hoff o'r gair "yo"!
Diolch byth, does neb wedi ceisio dyrchafu "Wenglish" hyd yma! Rwy'n gallu dychmygu ambell i wleidydd o'r cymoedd yn gwneud!
SylwadauAnfon sylw
Dwi'n meddwl mai Samuel Johnson ddudodd mai'r gwahaniaeth rhwng iaith a thafodiaith ydi fod gan iaith fyddin (h.y gwladwriaeth). O ganlyniad mae Iseldireg a Fflemeg yn cael eu hystyried yn ieithoedd ar wahan er eu bod yn llawer tepycach nag ydi Saesneg lloegr a Saesneg yr Alban, neu Saesneg Cymru o ran hynny.
Gyda llaw, mae Serbo-Croat bellach yn dair iaith - ym Mosnia mae Bosneg hefyd yn iaith swyddogol. Mae'n sialens weithiau edrych ar arwyddion tair-ieithog a chwilio am yr un gair, neu lythyren hyd yn oed, sydd yn wahanol o un i'r llall.
Tair! Rwy'n gwybod bod Croat yn defnyddio'r wyddor Ladin a Serb yr un Rwsieg, beth ar y ddaear mae Bosnia'n defnyddio!
Un o dafodieithoedd y Saesneg yw Scots. Mae'r Aeleg yn iaith Geltaidd ac yn gwbl wahanol wrth gwrs, ac wedi ei gwthio i'r gogledd a'r gorllewin ers canrifoedd lawer.
Hen, hen stori.....
"mae Iseldireg a Fflemeg yn cael eu hystyried yn ieithoedd ar wahan "
Dydy hyn ddim yn wir. Mae pobol Fflandrys yn dweud eu bod yn siarad Iseldireg (Nederlands). Mae nhw'n gweld Fflemeg fel casgliad o dafodieithau lleon ond dim ond Iseldireg (gyda acen Belg) sy'n cael ei dysgu yn yr ysgolion.
Dwi'n ei chael hi'n anodd gweld Scots fel iaith ar wahan i Saesneg. Mi fyddai unrhyw dafodiaith Saesneg (e.e. Swydd Efrog) yn edrych yn rhyfedd pe baech chi'n ysgrifennu'n union sut mae pobol yn siarad.