Tic... Toc...
.Fe wnes i roi fy mhen ar y bloc ar Post Cyntaf bore 'ma wrth ddweud fy mod yn credu y byddai Gordon Brown yn ymddiswyddo cyn diwedd y dydd. Rwy'n ddigon parod i wisgo sachliain a lludw ar Bost Prynhawn os ydw i'n anghywir! Weithiau mae'n rhaid dibynnu ar reddfau a weithiau mae greddfau'n anghywir .
Dau gwestiwn sy gen i ar hyn o bryd. Y cyntaf yw hwn. Oes 'na unrhyw un yn credu y gallai'r Prif Weinidog arwain ei blaid i mewn i etholiad cyffredinol gydag unrhyw obaith o ganlyniad parchus? Os ydy'r ateb i'r cwestiwn cyntaf yn negyddol mae'r ail gwestiwn yn dilyn yn naturiol. Pam gohirio'r artaith?
Rwy'n tybio y bydd gwleidyddion Llafur yn gofyn yr un cwestiynau.
Neithiwr roedd Rhodri Morgan yn gyrru trwy ei etholaeth gydag uchelseinydd yn galw ar bobol i droi allan i bleidleisio dros Lafur. Rwy'n dwli byw mewn gwlad lle mae'r Prif Weinidog yn gwneud rhywbeth felly ond yn ôl y son doedd ymateb y cyhoedd ddim yn bert. Y frawddeg y mae dyn yn clywed amlaf gan wleidyddion Llafur yw hon. "Dyw pethau ddim yn gallu mynd 'mlaen fel hyn"
SylwadauAnfon sylw
Tic... Toc...
'... pen ar y bloc'
CHOP... CHOP!
Do, mi glywais i o'n pasio'r ty hefyd ond ron i'n cymryd mai tap oedd o!
Vaughan- roedd dy broffwydoliaeth di bora ma yn gyn-amserol iawn! Dwi wedi meddwl ers peth amser mai megalomaniac peryglus ydi Brown sydd wedi troelli a bwlian ei ffordd i rif 10. Does neb yn gwybod pa mor bell yr aiff o i gadw ei afael ar rym. Mae'r Crash TV anhygoel hwn yn debyg o bara am beth amser eto felly, er bod symudiad PC a'r SNP i alw am ddiddymu'r senedd mewn dadl ddydd Mercher nesaf yn ymddangos yn fwy o stroc pob awr sy'n mynd heibio, gyda'r pwysau cynyddol sy'n cael ei osod ar Brown. Tybed ai ateb y Bunker i hynny fydd galw etholiad cyffredinol jest cyn y bleidlais honno? A gorfodi'r aelodau llafur i'w gefnogi yn y frwydr honno?