´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Chwarae Plant

Vaughan Roderick | 13:07, Dydd Iau, 30 Gorffennaf 2009

2202267.jpg

Dydw i ddim yn gweithio yn yr Eisteddfod. Ambell i drip diwrnod amdani felly!

Yn anffodus rwy'n colli cyfle felly i rannu "" gydag Owain Clarke a Gwyddno Dafydd. Am biti!

Oedd Tyddyn Llan a Phlas Coch yn llawn, dywedwch?

Dyw "awyrgylch diwedd tymor" ddim cweit yn cyfleu'r awyrgylch yn NhÅ· Hywel yw wythnos hon. Mae'n fwy pe bai'r athrawon i gyd wedi diflannu'n sydyn gan adael y plantos i redeg yn rhemp.

Myrddin Edwards, swyddog newyddion hoffus a golygus y Lib Dems wnaeth gyflwyno'r gêm ddiweddaraf i sgubo'r cynulliad. Y dasg yw canfod pum gair sy'n gyffredin yn Saesneg ond y mae Cymry Cymraeg yn methu'n lan eu cyfieithu

Rhain oedd awgrymiadau Myrddin;

Calf (y darn o'r coes nid llo!) , Broom (y planhigyn), Leeches, Collar bone, Curlew

Mae'r rhain gan staff "Democratiaeth Fyw";

Ladle, Jay (aderyn), Moustache (nid mwstas), Tuning Fork, Barrel Organ

Cewch chi feddwl am rheiny tra fy mod i yn nodi ffaith fach ryfeddol y gwnes i ddysgu o'r Times y bore 'ma. Perchennog cyntaf cerbyd "Porsche" yn y deyrnas unedig oedd... Cyngor Bwrdeistref Aberdâr! Mae'r papur yn ychwanegu mai bws- nid car oedd y Porsche arbennig yna!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:42 ar 30 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd ceri jones:

    'Swn i'n gallu cyfieithu calf (bola coes), broom (banal) a curlew (gylfinir) heb edrych yn y geiriadur ac fi'n siwr gelwn i'r gweddill mas o'r geiriadur yn ddigon rhwydd. Siwr bo geiriau lot mwy anodd na'r rhain i gal :-)

  • 2. Am 14:06 ar 30 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Rhys Williams:

    Ladle - lletwad

  • 3. Am 14:18 ar 30 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Meurig:

    collar bone - pont yr ysgwydd
    jay - sgrech y coed
    Termau digon cyffredin yn tydyn??

  • 4. Am 14:34 ar 30 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Oes siwr Ceri! Mae geiriauron wedi eu gwahardd! Y pwynt yw bod y geiriau's yn gorfod bod yn eiriau pob dydd yn Saesneg. Mae'r rhan fwyaf yn cael rhyw ddau neu dri'n gywir- ond gwahanol rai! Rwyn cadw "ebyll deudwll" yn ol fel fy ecsoset personol!

  • 5. Am 14:36 ar 30 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Meical J Llwynog:

    Dwi'n meddwl mai'r gymraeg am 'jellyfish' ydi'r gorau. Cont y Môr - clasur udai! Plentynaidd effallai, nefar!

  • 6. Am 15:30 ar 30 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Wel, heb eiriadur, dwi'n gwybod 'na trawswch ydi mwstash a gelod ydi leeches.

    Dwi'n gwybod hefyd mai jay ydi sgrech y coed - ro'n i'n cyfieithu rhywbeth amdano ychydig nôl, enw gwych!

  • 7. Am 15:47 ar 30 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    O roi'r gorau iddi a wedyn edrych yn y geiriadur (neu Cysgeir wrth gwrs!) byddwn i'n dadlau bod curlew (sy'n air dwi BYTH wedi'i glywed fy hun) y ffordd arall rownd, hynny ydi bod y gair Cymraeg yn gyffredin ond y gair Saesneg ddim ... ond dwi ddim am sbwylio'r hwyl a dweud be dio!

  • 8. Am 15:52 ar 30 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Trawswch yw mwswtash ar ddyn...ond beth yw'r gair am fwstash ar ddynes? Diolch i Myrddin am hwn!

  • 9. Am 18:31 ar 30 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd ceri jones:

    Own i'n rhyw feddwl taw 'trwchflew' odd y gair iawn (?!) am fwstash yn Gymraeg yn hytrach na 'trawswch'.

    Ife trwchflew yw mwstash menyw 'ta?

  • 10. Am 19:13 ar 30 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Alwyn ap Huw:

    Mae honni bod pobl gwlad y gân, o bobman, ddim yn gwybod be di trawfforch yn hurt botas.

  • 11. Am 09:32 ar 31 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Idris:

    Fel eraill, welai ddim problem efo sgrech y coed, gylfinir na trawfforch.

    Be am rhain, ar thema gwleidyddol...

    Turnout (mewn etholiad)
    Engage (e.g the Assembly is seeking to engage with children)

    Heb ddod ar draws cyfieithiadau hwylus eto

  • 12. Am 12:22 ar 31 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Paul Rowlinson:

    Mae'r gair moustache yn eithaf cyffredin yn Ffrangeg. Tybed a all rhywun ei gyfieithu i'r Saesneg?

  • 13. Am 13:04 ar 31 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mae'n gair yn dod o'r Ladin mustacium, mae'n debyg.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.