´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rhif y Gwlith

Vaughan Roderick | 09:28, Dydd Mercher, 29 Gorffennaf 2009

gwynfor_evans.jpg
Dim ond wrth i mi ddarllen y rhifyn cyfredol o'r Dinesydd y gwnes i ddarganfod bod Nans Jones wedi marw. Digwyddodd hynny rhyw ddeufis yn ôl. Maddeuwch i mi felly bod yr ychydig eiriau yma ar ei hôl hi braidd!

"Trefnydd adran fenywod Plaid Cymru" oedd teitl swyddogol Nans am ddegawdau ond mewn gwirionedd hi oedd brenhines hen swyddfa'r Blaid yn Queen Street, Caerdydd.

Roedd ei swyddfa bersonol hi deirgwaith yn fwy nac un yr ysgrifennydd cyffredinol ac roedd popeth yn rhedeg yn unol â'i threfn hi. Oes oedd pethau yn "ddigon da i J.E" prin bod angen eu newid ar gyfer y wipyrsnapyrs ifanc ddaeth ar ei ôl!

Un agwedd o waith Nans oedd cadw trefn ar y gofrestr aelodaeth. Roedd y manylion wedi ei ffeilio mewn dwsweni o focsys gan ddefnyddio system yr oedd Nans yn unig yn ei deall.

Am flynyddoedd roedd Plaid Cymru yn honni mai hi oedd plaid fwyaf Cymru gyda deugain mil o aelodau. Nonsens pur oedd hynny- ffrwyth system ffeilio Nans.

Roedd y gofrestr yn llawn o'r meirwon a chyn aelodau. Clywais unwaith bod enw Elystan Morgan o hyd ar y system hyd yn oed ar ôl ei ethol fel aelod seneddol Llafur! Efallai bod hynny'n wir. Doedd neb ond Nans yn cael edrych er mwyn gwybod hyd sicrwydd! Yn ôl rhai roedd hi'n haws ddianc o Colditz nac o gofrestr Nans!

O bryd i gilydd fe fyddai rhyw un yn cynnig "chwynnu'r" ffeiliau a chyweirio'r camgymeriadau amlwg. Yr un oedd ateb Nans bob tro. "Mae'r deugain mil yn bwysicach na'r manylion!"

Go brin fod triciau fe' 'na'n cael eu caniatáu yn Nhŷ Gwynfor ond mae gen i un awgrym. Fe ddylai enw Nans aros ar y rhestr aelodaeth. Er cof.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:52 ar 29 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    O ran diddordeb dwi wastad wedi meddwl faint o aelodau sydd gan y brif bleidiau yng Nghymru, a oes 'na ffigurau ar gael Vaughan?

  • 2. Am 11:11 ar 29 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Dydw i ddim wedi gofyn yn ddiweddar. Off top fy mhen rwy'n meddwl bod gan y Democrataid Rhyddfrydol o gwmpas 2,500 ond mae canran rhyfeddol o uchel o rheiny'n aelodau gweithgar. Dwi'n meddwl bod y Ceidwaswyr a Phlaid o gwmpas y saith - wyth mil gyda Llafur oddeutu 11,000. Yn achos Llafur wrth gwrs mae llawer mwy a rhyw fath o gysylltiad a'r blaid trwy eu hundebau.

  • 3. Am 13:15 ar 29 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd John Dixon:

    Rwyf innau'n cofio'r hen gardiau 'na hefyd. Dwi'n hoffi'r syniad yn y frawddeg olaf!

  • 4. Am 14:24 ar 29 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd owen wyn:

    Wn i ddim beth am "cyfredol" ond mae cyfeiriad at "y ddiweddar Nans Jones, Caerdydd" yn yr Archif Wleidyddol Gymreig, rhifyn Hydref 2008. Efallai eu bod o flaen eu hamser!

  • 5. Am 01:16 ar 30 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    ...neu mi oedd capel Minny Street yn hwyr. Roedd yr angladd ar fehefin y cyntaf.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.