Dyna ddiwedd ein rhaglenni am heno...
Rwyf newydd ymddangos ar S4C2 i sgyrsio am yr wythnos wleidyddol o'n blaenau. Hwn oedd y tro olaf i mi wneud hynny. Fe fydd yn ein sianel fach sydd wedi bod yn darlledu gweithgareddau'r cynulliad dros y degawd diwethaf yn dirwyn i ben Ddydd Gwener.
Penderfyniad y ´óÏó´«Ã½ yw hwn ond fe fydd yn galluogi S4C i fwrw ymlaen a'i chynlluniau i gynyddu'r ddarpariaeth i blant. Am bob pensiynwr sy'n hiraethu am Alun Davies a Peter Black rwy'n siŵr y bydd 'na blentyn yn falch o'r cyfle i wylio "Un Tro"!
Mae cau'r sianel yn rhan o'r paratoadau ar gyfer lansio gwasanaethau gwleidyddol ar-lein Cymraeg a Saesneg newydd y ´óÏó´«Ã½ yn yr Hydref. Fe fydd gan Ddemocratiaeth Fyw a Democracy Live eu staff newyddiadurol eu hun ond fe fydd y safleoedd hefyd yn dwyn ynghyd holl gynnyrch gwleidyddol ´óÏó´«Ã½ Cymru a gwasanaeth archif gyflawn gyda system "llais i destun" arloesol.
Fe fydd 'na ddigon o amser i drafod y datblygiadau hynny yn y man ond am y tro fe wna i godi gwydred bach i ffarwelio a sianel fach y Bae a'i "ffan club" bychan ond ffyddlon.
Diolch am wylio.
SylwadauAnfon sylw
I rhai hynny sydd a phlant bach tydi rhagor o arlwy plant ddim bod tro yn beth da yn arbennig ar rhai adegau. Mae rhaglenni yn gallu bod yn rhwystr. Er bod yr arlwy yn dda mae yn gallu bod yn anodd llusgo'r plant o'r teledu.
Cytuno monwynsyn. Er, dwi'n sylwi gyda'n blentyn ni, bod wir angen rhagor o ddarpariaeth a dewisiadau yn y Gymraeg er mwyn cystadlu gyda'r sianelau Saesneg fel CBeebies ayb.
Gyda llaw, beth yw'r system llais i destun arloesol? Ydi hyn yn golygu bod y ´óÏó´«Ã½ wedi datblygu system llais i destun ('speech recognition') ar gyfer y Gymraeg?? Anodd coelio!