´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Peiriant Pres y Pleidiau

Vaughan Roderick | 08:07, Dydd Iau, 2 Gorffennaf 2009

_45999435_partyoffices282bbc.jpgErs i'r holl fusnes treuliau 'ma gychwyn rwyf wedi derbyn ambell i e-bost yn tynnu sylw at gamweddau honedig hwn a'r llall. Yn ddieithriad rwyf wedi gwneud ymholiadau ynghylch y cyhuddiad, ac rwyf wedi cynnwys ambell i un sydd wedi ei brofi mewn adroddiadau'n crynhoi'r holl helbulon.

Mae'n ddigon hawdd i unrhyw un sydd a'r amser, yr ewyllys a gallu i ganfod straeon o'r fath wrth fynd trwy fanylion y treuliau sydd wedi eu cyhoeddi. Mae'n ddilys i wneud hynny er fy mod yn synhwyro mai cymhellion gwleidyddol sy'n sbarduno rhai i wneud y gwaith.

Yn bersonol, mae gen i fwy o ddiddordeb mewn gwendidau strwythurol a phatrymau o weithredu nac mewn achosion o drachwant personol. Dros y pythefnos diwethaf mae fy nghydweithwyr wedi treulio cannoedd o oriau yn ymchwilio i union y fath yna o batrwm.

Yr hyn oedd yn ein diddori oedd nid unigolion yn cyfoethogi eu hun trwy eu treuliau ond tystiolaeth bod pleidiau'n ariannu eu hun o bwrs y wlad. Rydym wedi casglu ynghylch y ffordd y mae aelodau seneddol a chynulliad yn rhenti swyddfeydd o'u pleidiau. Mewn rhai achosion mae'n ymddangos bod yr aelodau yn talu pris ymhell dros bris y farchnad am swyddfa mewn adeilad sy'n eiddo i'w plaid. Rydym wedi cyhoeddi rhai o'n canfyddiadau'r bore 'ma ac mae 'na fwy oi ddod.

Mae 'na ddadl ddilys i gael dros ariannu pleidiau (yn rhannol o leiaf) o'r coffrau cyhoeddus. Mae hynny'n digwydd mewn sawl gwlad. Hyd yn oed yn y wlad yma mae'r gwrthbleidiau yn derbyn cymorth ariannol i dalu am ymchwil ac wrth gwrs mae gan Aelodau Seneddol eu lwfansau cyfathrebu. Mae'r rheiny yn ddadleuol ond o leiaf fe gafodd y system ei mabwysiadu'n ddemocrataidd ac mae'r rheolau yn eglur. Mae sefyllfa'r swyddfeydd yn fwy amwys. Heb os mae 'na achosion lle nad yw'r blaid yn elwa o'r trefniant ond mae 'na eraill lle mae'n ymddangos bod y gwrthwyneb yn wir. Fe fydd hi'n ddiddorol gweld beth sy' gan Roger Jones a'i banel i ddweud am yr arfer yn eu hargymhellion wythnos nesaf.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 23:12 ar 2 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd monwynsyn:

    Mae angen gwahaniaethu yma rhwng beth sydd yn rhesymol ac amgylchiadau sydd yn annerbyniol. Dwi ddim yn gweld bod llawer o'i le gyda'r arfer os yw'r rhent yn agos i bris y farchnad. O ran Maldwyn yr hyn ddylid edrych arno yw beth oedd y rhent flwyddyn cyn ac ar ol yr addasiadau/gwelliannau oedd yn cael ei honi. Mae tuedd weithiau ymhysg gohebwyr i beidio gadael y gwir amharu ar stori dda. Rwyf wedi sylwi fod adroddiadau yn ddiweddar yn cyfrif gwariant dros nifer o flynyddoedd i geisio pwysleisio. O edrych ar wariant blynyddol tydi'r sefyllfa ddim yn edrych cynddrwg.
    Mae'n deg i aelodau etholedig, ac efallai yn bwysicach, ei staff a'r cyhoedd sy'n ymweld gael amgylchiadau gwaith addas. Mae nifer o swyddfeydd yn gyntefig a dwi yn siwr na fyddai ambell i hac yn fodlon ei goddef.
    Dylid cofio hefyd mewn rhai amgylchiadau y gallai gostio mwy petai rhent masnachol a'r holl gostau eraill yn cael ei hychwanegu a bod yn rhaid clymu i les hir dymor.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.