Sioc Drydanol
Un o'r cymeriadau hanesyddol hynny y mae pobol yn ei ddiawlio yw Dr Richard Beeching. Ei adroddiad ef ar ddechrau'r chwedegau wnaeth arwain at gau oddeutu hanner rheilffyrdd Prydain yn ystod y degawd dilynol.
Ychydig iawn o'r leiniau yr oedd Beeching yn dymuno eu cau wnaeth lwyddo i osgoi'r fwyell. Roedd dwy ohonyn nhw yng Nghymru sef lein y "Cambrian" i Bwllheli a lein y canolbarth neu "rheilffordd Calon Cymru" fel mae Arriva'n ei galw hi.
Anghyfleustra teithio o gwmpas aberoedd afonydd yn hytrach na'u croesi wnaeth achub y "Cambrian". Ffactorau gwleidyddol pur oedd yn gyfrifol am barhad lein y Canolbarth. Fe dynnodd George Thomas sylw'r cabinet at y ffaith bod y lein yn rhedeg trwy res o etholaethau ymylol ac am y rheswm hynny mae 'na drenau arni hyd heddiw.
Er bod llywodraethau'r chwedegau wedi cyflawni rhan gyntaf cynllun Beeching anwybyddwyd y gweddill. Roedd yr adroddiad wedi argymell cau hanner y rhwydwaith a defnyddio'r arbedion i wella'r hanner oedd yn weddill, yn bennaf trwy ei drydaneiddio. Gyda ambell i eithriad ni ddigwyddodd hynny.
Yn sydyn mae'r syniad wedi eto ynghylch y brif lein i Abertawe a hynny ar y diwrnod y mae cabinet Gordon Brown yn cwrdd yng Nghymru.
Tan yn ddiweddar iawn, er gwaethaf pwysau gan Lywodraeth y Cynulliad y cynllun oedd i drydaneiddio lein y Great Western i Fryste a dim pellach. Pam mae pethau wedi newid tybed?
Efallai fy mod yn sinig ond dyma'r etholaethau y mae'r brif lein i Abertawe yn teithio trwyddyn nhw; Dwyrain Casnewydd, Gorllewin Casnewydd, De Caerdydd a Phenarth, Bro Morgannwg, Pen-y-bont, Aberafan, Castell Nedd a Gorllewin Abertawe.
Dyna i chi wyth etholaeth, pob un o nhw ac aelod seneddol Llafur. Yn etholiadau Ewrop roedd y Ceidwadwyr ar y brig yn y bedair etholaeth o Orllewin Casnewydd i Ben-y-bont. Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol ar y blaen o drwch blewyn yn Nwyrain Casnewydd. Dim ond tair etholaeth oedd yn ffyddlon i Lafur ac mae 'na lwyth o etholaeth tebyg o fewn dalgylch y lein.
Ydy llywodraeth Gordon Brown wedi deffro i'r ffaith mai gwlad o seddi ymylol yw Cymru bellach? Os felly fe fyddai George Thomas yn deall y rhesymeg y tu ôl i gyhoeddiad Andrew Adonis!
SylwadauAnfon sylw
"Ymgyrch a barhaodd am flynyddoedd oedd honno dros lein ganol Cymru sy'n rhedeg heibio i Langadog. Buasai'r lein hon wedi'i chau onibai am ymyrraeth Keith Joseph pan oedd e'n Weinidog Materion Cymreig*. Euthum i'w weld ynglyn a dau fater: un oedd yr angen am Awdurdod Economaidd i Gymru (gwelais Edward Heath ynghylch hynny hefyd pan oedd arno gyfrifoldeb am bolisi rhanbarthol), a'r llall oedd ynglyn a'r lein hon yr oedd y Rheilffyrdd Prydeinig yn paratoi i'w chau'n llwyr. gofynnodd Joseph am weld mapiau o Gymru; fe'u hagorodd o'm blaen i ddilyn llwybr y rheilffordd. Yna aeth i weld Ernest Marples, y Gweinidog Trafnidiaeth. Y canlyniad ydoedd ei chadw fel rheilffordd ysgafn. Argarffodd y Blaid bwysigrwydd y lein hon ar feddwl y Swyddfa Gymreig. Soniai Marsh, Gweinidog Trafnidiaeth y llywodraeth Lafur, am ei chau pan oedd George Thomas yn Ysgrifennydd Cymru a minnau'n aelod dros Gaerfyrddin. Adroddodd Marsh yr hanes pan ddaeth y mater gerbron y Cyfrin Gyngor. "But Prime Minister," meddai George Thomas, "this line runs through six marginal constituencies". Mewn gwirionedd, trwy dair y rhedai, ond roedd Caerfyrddin yn un ohonyn nhw."
* 1959 - 1964?
Gwynfor Evans, t.124, Bywyd Cymro (gol. Manon Rhys)