´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Trysor Plas Llanwernen

Vaughan Roderick | 15:20, Dydd Mercher, 15 Gorffennaf 2009

Blydi gwangod. Ugain mlynedd yn ôl fe es i gyfarfod gyda swyddogion adran ffyrdd yr hen Swyddfa Gymreig i drafod y problemau traffig yng Nghasnewydd. Yr unig ateb i'r broblem yn ôl y swyddogion oedd codi traffordd newydd i'r de o 'r dref. Fe fyddai methu gwneud hynny yn andwyol i holl economi De Cymru.

Heddiw, a thref Casnewydd bellach yn ddinas, fe es i gyfarfod digon tebyg a swyddogion trafnidiaeth y cynulliad. Y neges y tro hwn oedd bod y cynllun yn gelain. Y rheswm penna am hynny yw'r gost. Amcangyfrifir erbyn hyn y byddai codi traffordd newydd yn costio oddeutu biliwn o bunnau yn rhannol oherwydd y gost o sicrhau nad oedd pysgod Afon Wysg, yn arbennig y gwangod, yn cael eu haflonyddu. Blydi gwangod.

Dyw'r broblem ddim wedi diflannu, wrth gwrs. Sut mae ei datrys, felly? Wel mewn nofel i blant, rhywbeth gan T Llew Jones neu JK Rowling, fe fyddai un o'r plant yn darganfod ateb syml, hwylus, rhywbeth nad oedd yr holl oedolion peniog wedi sylwi arni. Rhywbeth fel ffordd ddeuol, gyflym oedd eisoes yn bodoli yn rhedeg yn gyfochrog a'r draffordd arfaethedig.

Coeliwch neu beidio dyna'n union sydd wedi digwydd. Mae'r fath ffordd yn bodoli, ffordd a adeiladwyd gan y gorfforaeth ddur i gyflenwi gwaith Llanwern. Fe fydd hi'n costi ugain miliwn o bunnau i'w haddasu a'i chysylltu â'r rhwydwaith ffyrdd. Anhygoel. Pam na wnaethpwyd hynny yn y lle cyntaf?

Un peth bach arall sy'n werth eu nodi yn y cynllun trafnidiaeth cenedlaethol yw'r bwriad i gynnal arbrawf trwy ymestyn un o leiniau rheilffyrdd y cymoedd trwy adeiladu system tram. Mae 'na nifer o lefydd lle y gellid gwneud hynny. Ymhlith y rhai amlwg mae ymestyn lein Maesteg er mwyn cyrraedd Caerau a chysylltu Abertyleri a lein Cwm Ebwy. Ond, o gofio mai Simon Thomas a Rhuanedd Richards yw cynghorwyr arbennig Ieuan Wyn Jones, a bod y ddau yn dod o Gwm Cynon, rwy'n fodlon mentro y bydd gwasanaeth rhwng Hirwaun ac Aberdâr yn uchel ar y rhestr fer!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:55 ar 15 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Idris:

    Siom nad oes son am ail-agor y rheilffordd i Fedlinog.

  • 2. Am 17:05 ar 15 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Dyw'r posiblrwydd yna ddim wedi ei gau allan. Yn wir byswn yn tybio bod gwell gobaith gwneud hynny trwy ddefnyddio dechnoleg reilffordd ysgafn ar y cledrau nwyddau presenol yn hytrach na disgwyl i "Network Rail" ymgymryd a'r gwaith o wneud adferiad llawn ar gyfer trenau trwm.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.