Em, Clem a Lem
Un o'r ffigyrau hanesyddol hynny y mae dyn yn teimlo y dylai fe wybod mwy yn ei gylch yw Clement Davies, arweinydd y blaid Ryddfrydol rhwng 1945 a 1956. Wedi'r cyfan mae'n un o'r ychydig Gymry i arwain plaid wleidyddol Brydeinig a'i wrthodiad penstiff o ymdrechion Churchill i draflyncu'r Rhyddfrydwyr yn 1951 sy'n bennaf gyfrifol am barhad y blaid a bodolaeth y Democratiaid Rhyddfrydol heddiw.
Nid ar chwarae bach chwaith y mae rhywun yn cael ei enwebu ar gyfer Gwobr Heddwch Nobel.
Arweinydd plaid trwy hap a damwain oedd Clem mewn gwirionedd. Doedd gan y blaid neb arall. Yn ystod ei arweinyddiaeth aeth pethau o ddrwg i waith i'r blaid gyda'i phleidlais yn gostwng i 2.5% a dim ond chwe Rhyddfrydwr ar ôl yn y senedd. Mae'n rhaid i Clem ysgwyddo o leiaf peth o'r bai am hynny. "Erratic and ineffectual" oedd disgrifiad damniol K.O. Morgan ohono
Efallai'n wir, ond roedd gan etholwyr Maldwyn resymau da dros aros yn deyrngar iddo er gwaethaf problem yfed ddifrifol a'r ensyniadau cyson nad oedd e rhywsut yn wleidydd "seriws".
Yn ddiweddar des i ar draws () ynghylch Clem gan ei olynydd ym Maldwyn Emlyn Hooson. Esboniad Emlyn o boblogrwydd Clem ym Maldwyn oedd bod yr etholwyr yn fodlon maddau llawer am iddo frwydro'n galed dros bethau yr oeddynt yn teimlo'n gryf yn eu gylch.
Roedd ei adroddiad damniol ynghylch y cysylltiad rhwng safon tai a system garthffosiaeth Cymru a'r diciâu, er enghraifft, yn garreg filltir o bwys yn ein hanes cymdeithasol.
Mae maddeuant a goddefgarwch yn werthoedd rhyddfrydol ac mae'n ymddangos bod etholwyr Maldwyn yn fodlon maddau a goddef llawer ynghylch eu cynrychiolwyr os ydyn nhw'n gwneud tro da o waith. Dyw bod yn "erratic" ddim, o reidrwydd, yn anfantais ym Maldwyn. Gallai hynny fod yn newyddion da i rhywun.
Gyda llaw roedd Lembit yn westai ar "The funny side of..." ar ´óÏó´«Ã½2 neithiwr. Mae'n werth gwylio!