´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Monbiot, Mon Dieu!

Vaughan Roderick | 11:03, Dydd Iau, 13 Awst 2009

Asterix.jpgFe dynnodd y newyddiadurwr ac ymgyrchydd amgylcheddol George Monbiot dipyn o nyth cacwn ar ei ben ddoe trwy ymosod ar gynlluniau Tesco i agor archfarchnad ym Machynlleth. Mewn erthygl yn y Guardian a hefyd ar ei fe ddywedodd George hyn.

"I live in the last small corner of Gaul still holding out against the Romans. In other words, a small market town which has yet to be conquered by the superstores. No one expects us to hold out for much longer"

Mae'r Asterix yma yn mynnu bod y rhan fwyaf o bobol Mach yn cefnogi ei safiad e a'r Oblexiaid sy'n chwifio'u dyrnau at y concwerwyr. Yn anffodus nid pawb sy'n cytuno. Dyma sydd gan faer y dref Sylvia Rowlands i ddweud yn y .

"Mae 99% o blaid y cynllun. Rwyf wedi byw yma gydol fy oes"

Yr ail frawddeg sy'n ddiddorol. Mae'n ymddangos mai un o'r brwydrau hynny rhwng "pobol ddŵad" a "phobol leol" yw hon. Mae'n sicr bod 'na eithriadau ond rwy'n fodlon mentro nad yw cefnogwyr Tesco ar y cyfan yn byw ar reis brown a thofu ac nad oes llawer o arbenigwyr ar gerdd dafod ymhlith y gwrthwynebwyr!

Fe fyddai'n gamgymeriad meddwl bod y ffenomen hon yn unigryw i Gymru na Phrydain. Bob rhyw ddwy flynedd rwy'n dathlu Eid ul-Fitr gydag ochor Fwslimaidd fy nheulu mewn pentref bach o'r enw Batu Laut ym Malaysia. Mae'r pentref hwnnw rhyw hanner ffordd rhwng dwy dref bur sylweddol Banting a .

Tan ryw bymtheg mlynedd yn ôl roedd y ddwy yn ddigon tebyg i'w gilydd ond dros nos bron fe ddaeth trawsnewidiad i Banting. Mae'n bosib cyfleu natur y trawsnewidiad hwnnw mewn un gair. Tesco. Ar gyrion Banting cafwyd datblygiad sydd i, bob pwrpas yn ganol tref newydd sbon.

Yn ogystal â siop Tesco anferthol codwyd dwsinau o siopai llai a gweithdai i'w gosod i bobol leol a miloedd o dai a fflatiau. Roedd hyd yn oed llyn a chaeau chwarae yn rhan o'r datblygiad.

Nawr pe bai chi ar wyliau yn yr ardal fe fyddai Tanjung Sapat yn eich hudo gyda'i strydoedd culion, marchnadoedd a thai bwyta traddodiadol. Fe fyddai tramorwr yn dewis gyrru heibio Banting a'i heglu hi am Port Dixon neu Malacca.

Ond gofynnwch i fy nheulu ar y llaw arall lle y maen nhw'n dewis siopa a lle y bysen nhw'n dewis byw a Banting fyddai'r ateb bob tro.

Nid dweud hynny er mwyn amddiffyn na beirniadu cwmni Tesco ydw i. Dim ond nodi'r ffaith bod y pethau y mae twristiaid neu fewnfudwyr yn trysori yn aml yn cael eu hystyried yn anghyfleusterau gan bobol gynhenid sy'n chwennych cyfleustra'r byd modern trefol.

Roeddwn wedi gobeithio dod ar draws un o hysbysebion Tesco Malaysia ar y we. Maen nhw'n bla ar orsafoedd teledu'r wlad. Rwyf wedi methu hyd yma - ond mae'r un yma o Thailand yn gwneud y pwynt!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:11 ar 13 Awst 2009, ysgrifennodd Rhodri ap Dyfrig:

    Onid "Moniot, Myn Twtatis" ddylai'r teitl fod? ;-)

    Yn amlwg roeddet ti'n fwy o ddarllenwr Tintin - boy reporter!

  • 2. Am 14:23 ar 17 Awst 2009, ysgrifennodd Angharad:

    Rwyf wedi curo ar ddrysau ar hyd a lled Machynlleth ac wedi darganfod bod nifer fawr o drigolion brodorol yn erbyn y cynllun (yn enwedig ymhlith yr henoed) tra mae nifer o "bobl ddwad" sydd wedi ymddeol i'r ardal, a phobl "gwyrdd" sydd eisiau dewis gwell o lysiau organig, o blaid y datblygiad. Mae'r gymuned amaethyddol yng nghyffiniau'r dref yn bryderus iawn am y cynllun, yn ogystal a'r masnachwyr anibynnol. Mae'n anodd credu bod maer y dref wedi honni fod 99% yn cefnogi'r cais - does dim sail o gwbl i'r honiad yma.

    Y peth trist yw fod cyngor y dref wedi methu a dod a'r gymuned at ei gilydd am drafodaeth gall ac agored, ac wedi creu tensiwn yn y dref trwy ddiystyrru'r gwrthwynebwyr fel 'mewnfudwyr'. Y gwir mewnfudwr fan hyn yw Tesco, fydd yn sugno pres allan o'r economi leol tra'n chwyddo coffrau eu buddsoddwyr a chyfranddalwyr mewn gwledydd pell.

    A'r peth trist arall yw fod newyddiadurwyr y Western Mail yn mwynhau creu drama allan o sefyllfa fel hyn heb ystyried yr oblygiadau ar y gymuned. Yn sicr, dylen nhw wneud ymchwil gofalus cyn cyhoeddi'r fath rwtsh ymfflamychol.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.