´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Carringtons Cymru

Vaughan Roderick | 14:27, Dydd Llun, 21 Medi 2009

dynasty.jpgMae Mabon ap Gwynfor wedi cyhoeddi na fydd yn ymgeisio i olynu Adam Price fel ymgeisydd seneddol Plaid Cymru yn Nwyrain Caerfyrddin gan ddweud hyn;

"Os bydd gennyf i unrhyw ran i'w chwarae yng ngwleidyddiaeth Cymru ar lefel genedlaethol rywbryd yn y dyfodol, yna ym Mae Caerdydd yr hoffwn i fod."

Digon teg. Mae'n anodd credu na fydd Mabon a/neu un arall o'r Gwynforiaid yn chwarae rhan flaenllaw ym mywyd gwleidyddol Cymru yn y dyfodol. Efallai bod Mabon yn gobeithio gwneud yn iawn am siom ei dad-cu ym Meirion yn '64 rhywbryd!

Ac eithrio teulu Lloyd George (Megan, Gwilym et al) mae' anodd meddwl am 'ddinasti' wleidyddol lwyddiannus yn y Gymru fodern. Merch Tom Jones, "Brenin Cymru", oedd Eirene White ac os gofiai'n iawn mae Huw Irranca yn nai i Ivor Davies un o'r "giang o chwech" aelod Llafur wnaeth wrthwynebu datganoli yn 1979.

Oes unrhyw un yn gallu cynnig esiamplau eraill?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:17 ar 21 Medi 2009, ysgrifennodd Rhod:

    Janice Gregory yw merch Syr Raymond Gower, Hywel Francis yw mab Dai Francis a beth am Guto Bebb yw wyr Ambrose Bebb! Hefyd lot o bartneriad yn ymhel a gwleidyddiaeth, Mr a Mrs Ryder, Mr a Mrs Morgan a Mr a Mrs German i enwi ond tri!

  • 2. Am 16:36 ar 21 Medi 2009, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Pawb sydd ar gyngor Ynys Môn, siwr o fod? ;-)

  • 3. Am 16:43 ar 21 Medi 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Da iawn! Rwy'n cymryd mai Ray Powell yn hytrach na Syr Raymond Gower oeddet ti yn ei olygu os nad oedd yr hen Dori'n fwy bywiog nac ydw i'n ei gofio!

  • 4. Am 16:48 ar 21 Medi 2009, ysgrifennodd Dewi:

    Rhodri Morgan yn ddisgynydd i Harri Morgan y Carabi.
    Adam Price yn fab i Vincent Price yr actor.
    Edwina Hart yn perthyn i Richard y LionHart.

    Oes rhaid mynd ymhellach?

  • 5. Am 17:00 ar 21 Medi 2009, ysgrifennodd Rhod:

    wps! Cymysu aelodau seneddol Ogwr a Bro Morgannwg - gobitho na fydd achos enllib!

  • 6. Am 17:42 ar 21 Medi 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    yn ffodus ni ellir enllibio'r meirwon

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.