´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Syr Wmff a fflim-fflam

Vaughan Roderick | 10:52, Dydd Gwener, 4 Medi 2009

yes_minister_humphrey.jpgMae'n anodd gor-ddweud ynghylch pa mor gandryll y mae ambell i aelod cynulliad ynglŷn â'r ffrae rhwng y Comisiwn a'r Bwrdd Iaith. Mae sawl pwynt diddorol wedi eu codi gan aelodau ers iddyn nhw ddechrau cribo'n fan trwy gofnodion y comisiwn a llythyr Claire Clancy at y Bwrdd.

Er enghraifft mae'n werth darllen yr argymhellion ar gyfer ("Author name; Claire Clancy") y ddogfen wnaeth gynnwys yr argymhelliad i roi'r gorau i gyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg yn y cofnod yn y lle cyntaf. "We are not intending to do less but to improve what we are able to deliver with the recources available to us" medd y ddogfen. Cewch chi farnu os ydy rhoi'r gorau i gyfieithiad yn "improvement" ai peidio. Fe fyddai rhai o'r farn ei bod yn gyfystyr â "gwneud llai"!

Wrth droi at lythyr Ms. Clancey at y Bwrdd Iaith mae un AC wedi codi dau bwynt diddorol.

Yn gyntaf gan fod y comisiwn yn mynnu nad oes a wnelo Cynllun Iaith y Cynulliad unrhyw beth â nhw sut ar y ddaear mae ganddyn nhw'r hawl i ofyn i'r Bwrdd gymeradwyo newid yn ei gynnwys? Fe fyddai hyd yn oed Jim Hacker wedi sbotio'r anghysondeb yn y rhesymeg!

Yn ail mae'r aelod yn cwestiynu honiad Ms Clancy bod fersiwn drafft o'r Cynllun Iaith yn cynnwys y "geiriad cywir" a bod rhywun yn rhywle wedi ei newid am resymau oedd yn "well intentioned but misguided". Mae'n fwy synhwyrol yn ôl yr aelod i gredu bod y fersiwn gwreiddiol yn wallus a bod rhywun wedi ei gywiro.

Mae'n bosib amau hyd yn oed bod y geiriad gwreiddiol yn rhan o ymdrech blaenorol i roi'r gorau i gyfieithu'r Cofnod a bod un o swyddogion y comisiwn wedi sbotio hynny. Wrth gwrs dim ond y math o berson sy'n credu bod yr Americanwyr wedi ffugio glanio ar y lleuad a bod Elvis yn byw mewn bwthyn ym Mhenmachno byddai'n credu rhywbeth felly!

Fe wna i roi'r gair olaf (am y tro) i Major Alan. Draw ar ei mae'r Uwchgapten yn dweud hyn;

"Why is it so difficult for the National Assembly to understand that bilingual accounts of proceedings are totally irrelevant, but absolutely essential?"

Pan mae arbenigwr ar strategaeth filwrol yn awgrymu bod hi'n bryd ildio efallai y byddai'n gall i wrando!



SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:21 ar 4 Medi 2009, ysgrifennodd Dewi:

    O ddifrif mae'n rhaid i'r cynulliad newid y penderfyniad - oes yna broses i hynny ddigwydd?

  • 2. Am 12:45 ar 4 Medi 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Oes. Gall y cynulliad rhoi gorchymyn i'r comisiwn trwy basio cynnig. Hyd yma does neb wedi cyflwyno cynnig o'r fath. Rwy'n pwyslesio "hyd yma".

  • 3. Am 14:04 ar 4 Medi 2009, ysgrifennodd Edward:

    Oedd aelodau'r Cynulliad yr un mor gandryll cyn i ti dynnu sylw at y peth, Vaughan? Mae'n ymddangos i mi nad oedd 'na helynt tan i ti (ar ôl Gwion Lewis) fynd i'r afael â'r mater.

    Mae hynny'n fy mhoeni dipyn bach - ond diolch am dynnu sylw.

  • 4. Am 14:06 ar 4 Medi 2009, ysgrifennodd Gwilym Euros Roberts:

    O'r ymatebion positif dwi wedi gael i'r neges ddaru mi yrru at holl aelodau'r Cynulliad, medrai ddweud bron yn bendant bydd cynnig o'r fath yn cael ei roi ger bron.
    Fydd o'n llwyddiannus? Dwn i ddim? Os na fydd yna bydd y Cynulliad yn destun cywliydd i ni fel Cymry gan nad yw'n rhoi statws cyfartal i'n mamiaith.
    Os bydd y cynnig yn llwyddiannus yna bydd yn adfer peth hyder yn y corff. Serch hynny, peidiwch a gadael i ni osgoi y ffaith fod y Comisiwn ac arweiniad Clair Clancy wedi dwyn anfri ar y sefydliad ac sen ar statws yr iaith Gymraeg ac yn hynny o beth mae hynny yn fy nhristau'n fawr.
    Rhaid hefyd llongyfarch Bwrdd yr Iaith a Chymdeithas yr Iaith am eu safiad cadarn ar y mater yma.

  • 5. Am 14:10 ar 4 Medi 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Yr hyn sydd wedi corddi'r aelodau yw ymdrech y comisiwn i eithrio'i hun o gynllun iaith y cynulliad. Doedd hynny ddim yn gyhoeddus tan y dyddiau diwethaf. Mae'r ddau bwnc ynghlwm a'i gilydd, wrth reswm.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.