´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Tic Toc

Vaughan Roderick | 14:16, Dydd Mawrth, 1 Medi 2009

seneddmorgan.jpgDyma ni ym Mis medi felly. O'r diwedd mae gobaith i ni gael atebion i rhai o'r cwestiynau y mae pawb yn y Cynulliad wedi bod yn ei gofyn.

Ar y 29ain o Fedi fe fydd Rhodri Morgan yn dathlu ei benblwydd yn saethdeg ac os ydych chi'n credu ei fantra cyson fe fydd hynny hefyd yn ddiwedd, neu'n ddechrau ar ddiwedd, ei gyfnod fel Prif Weinidog Cymru. Ers sbel mae Rhodri wedi glynu at yr un fformiwla sef ei fod yn bwriadu sefyll i lawr ar ei ben-blwydd os nad oes 'na etholiad cyffredinol neu ryw argyfwng arall yn rhwystro fe rhag gwneud hynny.

Nawr pe bai Rhodri yn dymuno cadw at ei union eiriau fe fyddai'r etholiad arweinyddol eisoes yn cael ei gynnal er mwyn iddo gael rhoi ei dŵls ar y bar a'i ffidl yn y to ar union ddiwrnod ei benblwydd. Gan nad yw hynny'n digwydd gallwn gymryd y bydd hi'n closio at y Nadolig cyn i'r arweinydd newydd gael ei draed dan y bwrdd.

Mae hynny'n golygu y bydd y penderfyniadau pwysig ynghylch cyllideb y llywodraeth yn 2010-2011 eisoes wedi eu gwneud. Bydd 'na fawr o gyfle i newid cyfeiriad na blaenoriaethau cyn yr etholiad cynulliad nesaf felly. Cyn hynny wrth gwrs fe fydd 'na etholiad cyffredinol, etholiad lle y gallai Llafur gael hamrad.

Ym marn llawer o fewn y blaid gan nad yw'r arweinydd newydd eisoes wedi ei ddewis, gwell fyddai aros tan ar ôl yr etholiad cyffredinol. Gellid wedyn bortreadu dewis yr arweinydd fel rhan o'r broses o adnewyddu'r blaid ac fe fyddai fe neu hi yn rhydd o gyhuddiadau o fod yn gysylltiedig a'r "ancien régime".

Yn wrthrychol mae'r dadleuon o blaid oedi yn gwneud synnwyr perffaith. Yr unig ddadl yn erbyn, hyd y gwelaf i, yw nad yw Rhodri yn dymuno cael ei weld fel dyn sy'n mynd yn ôl ar ei air. Mae hynny'n ddealladwy. Ar ôl dweud hynny mae cymryd clatsied dros y tîm hefyd yn beth digon anrhydeddus i wneud.

Un peth bach arall. Mae Medi'r 29ain yn ystod cynhadledd Brydeinig y Blaid Lafur. Ydy Rhodri, mewn gwirionedd, yn bwriadu tynnu'r gwynt o hwyliau'r ymdrech i gyhoeddi'r neges Llafur yn y ffenest siop fawr olaf cyn etholiad cyffredinol?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.