´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Torri Gwynt

Vaughan Roderick | 09:07, Dydd Gwener, 11 Medi 2009

windy_miller_150.jpgOnd dyw Llandudno'n bert? Mae Venue Cymru'n lle arderchog am gynhadledd hefyd os ydych chi'n fodlon anwybyddu'r jocs ynghylch "mynd i Landudno i chwilio am venue"!

Un peth sydd wedi newid ers y tro diwethaf i mi fod yma yw'r melinau gwynt ar y gorwel. Roeddwn i'n cymryd mai "Gwynt y Mor" oedd rhain ac roeddwn i'n methu'n lan a deall pam yr oedd cymaint o ffwdan yn eu cylch. Erbyn hyn, rwyn deall mai fferm wynt Rhyl yw hon. Mae un Llandudno i ddod ac fe fydd hi'n agosach ac yn fwy. Os felly, fe fydd hi'n gythraul o beth!

Y ddadl yghylch ynni gwynt yw un o'r ddwy ddadl allai fod yn ddadleuol yng nghynhadledd Plaid Cymru. Mae 'na ddadleuon economaidd ac amgylcheddol o blaid ac yn erbyn ynni gwynt ond ar ddiwedd y dydd mae 'na elfen oddrychol i'r peth. Mae rhai yn credu eu bod yn bethau hardd, eraill o'r farn eu bod yn hyll. O ofyn o gwmpas mae'n ymddangos bod aelodau'r blaid, fel y boblogaeth, wedi eu hollti i lawr y canol.

Y ddadl arall allai droi'n gas yw honno ynghylch Academi Filwrol Sain Tathan. Mae holl dradodiadau heddychiaeth a gwrth-imperialaeth Plaid Cymru yn agrymmu y dylai'r blaid wrthwybeu'r cynllun. Sawl gwaith y byddwn yn clywed y geiriau "Gwynfor", "Epynt" a "Phenyberth" yn ystod y ddadl, tybed?

Ar y llaw arall mae'r tir eisoes yn eiddo i'r Weinyddiaeth Amddiffyn ac mae'r cynllun yn drawsnewidiol i economi rhanbarth gyfan o Gymru. A fydd arain yn drech na thraddodiad? Fe gawn weld!.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:21 ar 11 Medi 2009, ysgrifennodd Huw Waters:

    MAe'r fferm wynt sydd i'w weld yn cael ei hadeiladu rwan fod i allu greu 90MW o bwer. Yn ogystal a hyn mae fferm wynt arall i ddod a fydd yn gallu creu 750MW o bwer. Fydd y cynyddiad yma ddim yn unig yn dibynnu ar nifer y tyrbinau, ond fydd rhai y cam nesa'n enfawr!

    Fy hun, dwi'm yn meindio, ond yn dal i gwestiynu pam fod cynllun am dri i ffwrdd arfordir hyd 20 milltir? Be am weddill y wlad? Byddai buddsoddi'r arian ar yr melinau gwynt ma ddim yn dwyn canlyniadau gwell mewn cadwraeth egni?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.