Ym Marn Gwion
Does neb yn deall dalltings sefyllfa gyfreithiol y Gymraeg yn well na'r bargyfreithiwr Gwion Lewis awdur "Hawl i'r Gymraeg". Fe ddylai ei sylwadau yn y rhifyn newydd o "Barn" achosi tipyn o bryder i Gomisiwn y Cynulliad felly.
Mae'n debyg eich bod yn cofio i'r Comisiwn gyhoeddi yn ystod yr Eisteddfod na fyddai cyfraniadau Saesneg yn y siambr yn cael eu cyfieithu i'r Gymraeg yn y cofnod swyddogol o hyn ymlaen. Fe fyddai rhai yn amau bod y cyhoeddiad wedi ei amseru'n fwriadol yn y gobaith y byddai'n mynd ar goll yng nghanol bwrlwm newyddion y brifwyl. I ddyfynu Francis Urquhart "you may say that. I couldn't possibly comment".
Ta beth, mae Gwion o'r farn bod y newid yn anghyfreithlon. Wedi'r cyfan, fel mae Gwion yn dweud, mae cyhoeddi'r cofnod yn ddwyeithog yn rhan o gynllun iaith y cynulliad ac mae'r cynllun hwnnw, fel pob cynllun iaith arall, yn gytundeb cyfreithiol. Dyma esboniad Gwion.
"Cyn gynted ag y bo modd ar ôl y cyfarfod, cyhoeddir cofnod gair-am-air dwyieithog o bob Cyfarfod Llawn..." (adran 4.8). Dyna'r addewid a wnaeth y Cynulliad Cenedlaethol yng Ngorffennaf 2007, pan gyhoeddodd ei gynllun iaith yn unol â gofynion y ddeddf iaith bresennol, Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Nid datgan delfryd y gellid ei anghofio er mantais ariannol oedd y nod: yr oedd arwyddocâd cyfreithiol i'r datganiad gan y byddai dyletswydd ar Fwrdd yr Iaith Gymraeg, ac yn y pen draw, Gweinidogion Cymru, i sicrhau fod y cynllun iaith yn cael ei wireddu."
Mae Gwion yn tynnu sylw at y ffaith bod Cynllun Iaith y Cynulliad yn datgan "na fydd unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud i'r Cynllun hwn heb gymeradwyaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg".
Dyw'r bwrdd ddim wedi ystyried na chymeradwyo'r newid hyd yma. Mae'n anodd i leygwr felly anghytuno â Gwion wrth iddo ddweud "mae'r newid polisi hwn yn anghyfreithlon ac rwy'n ffyddiog y byddai'r Uchel Lys yn ei ddileu pe bai cais am adolygiad barnwrol".
Fedra i ddim gweld unrhyw wall yn y rhesymeg. Efallai y byddai'n syniad i Dafydd Elis Thomas, sy'n cadeirio'r comisiwn, ofyn am farn arbenigol. Rwy'n sicr y byddai rhywun fel un o gyn-gadeiryddion y bwrdd iaith yn fodlon cynnig cyngor!
Ta beth mae'n werth prynu Barn i ddarllen dadl Gwion yn ei chyfanrwydd.
Diweddariad; Mae rhywun wedi tynnu fy sylw at y post gan Peter Black, sy'n aelod o'r comisiwn, ar "Freedom Central" ar Awst 18fed. Dywed Peter;
"The decison to no longer produce a fully bilingual record of proceedings is not a breach of the Commission's own Welsh Language scheme."
Gellir darllen cynllun iaith y cynullad yn (pdf). Mae'r frawddeg allweddol ar dudalen 14.
"Cyn gynted ag y bo modd ar ôl y cyfarfod, cyhoeddir cofnod gair-am-air dwyieithog
o bob Cyfarfod Llawn, ynghyd â chofnod o bob cyfarfod Pwyllgor gyda chyfieithiad
Saesneg o unrhyw gyfraniadau Cymraeg."
Pe bai hynny ond yn golygu cyfieithu cyfraniadau mewn cyfarfodydd llawn o'r Gymraeg i'r Saesneg ni fyddai angen nodi bod y rheolau ar gyfer y pwyllgorau'n wahanol. I fod yn deg i Peter mae'r geiriad yn y fersiwn Saesneg o'r cynllun yn fwy amwys. Serch hynny dydw i ddim yn gweld sut ar y ddaear y gall y comisiwn bod mor ddi-hid ynghylch y sefyllfa gyfreithiol.
SylwadauAnfon sylw
Cytuno 100% efo safbwynt Gwion. Dwi fy hunain wedi gyrru at pob Aelod o'r Cynulliad i ddatgan fod hwn yn groes i Bolisi Iaith y sefydliad ei hunain - ffaith fedr ei gadarnhau gan Fwrdd yr Iaith Gymareg.
Mae'r penderfyniad yma hefyd yn gyrru neges gwbwl anffodus i gyrff cyhoeddus eraill ar draws Cymru yn ogystal i'r sector breifat a gwirfoddol. Dylai hyn gael ei newid ar unwaith a dylai fod gan y Comisiwn gwyliydd am ddwyn anfri ar y Cynulliad ac ar yr iaith Gymraeg ac hawliau ni fel Cymry.
Adam Black ar Freedom Central:
"If a language is to survive and flourish then it must be used as part of daily life and business. It follows therefore that in a body such as the National Assembly we should be using our resources to enable our business to be conducted blingually rather than producing what is effectively a retrospective record that adds nothing to that aim. For Rhodri Glyn Thomas and others it appears the bilingual record of proceedings is symbolic rather than functional. At £250,000 a year that is a very expensive symbol."
Y Cofnod, bron yn ddiamheuaeth, sy'n ffurfio'r sail i gyfieithu peirianyddol Google Translate Cymraeg. Caiff ei ddefnyddio ganddynt fel corpws dwyieithog i gynhyrchu cyfieithiadau newydd ar sail tebygolrwydd ystadegol. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio gan y criw sy'n gyfrifol am raglen debyg Apertium ar gyfer eu rhaglen gyfieithu peirianyddol hwythau. Gweler am enghraifft o'r Cofnod wedi'i baratoi ar gyfer defnydd peiriant cyfieithu.
Dylai potensial rhaglenni cyfieithu o'r fath i'n galluogi i ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob rhan o'n bywyd a'n busnes beunyddiol fod yn amlwg i unrhyw un sydd wedi defnyddio'r feddalwedd.
Yn amlwg felly, yn hytrach nag ychwanegu "nothing to that aim"(fel y dywed Adam Black), bydd y Cofnod yn cyfrannu'n sylweddol at hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg mewn bywyd modern drwy effeithlonni a hwyluso cyfieithu yn aruthrol.
Mae'r budd anuniongyrchol hwn a gawn o'r Cofnod yn rhoi swyddogaeth ymarferol, hynod werthfawr i rywbeth y mae Adam Black, yn ei ddiffyg dealltwriaeth ynglÅ·n ag anghenion iaith fodern, yn ystyried yn 'symbolaidd' ac felly'n ddiwerth.
Efallai bod agwedd symbolaidd i'r Cofnod, ond am £250,000 y flwyddyn, mae cyfraniad y Cofnod at ostwng costau ac amser cyfieithu - o hyn hyd dragwyddoldeb - ynddo'i hun yn cynrychioli un o fargeinion y ganrif.
Google Translate:
Apertium:
Sori, Peter Black, nid Adam Black o'n i'n feddwl!