´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Banciwch arni

Vaughan Roderick | 15:50, Dydd Iau, 29 Hydref 2009

_40286867_atm_bbc203.jpgMae darlith Peter Hain yn awr wedi ymddangos ar wefan . Mae hi werth ei darllen ond mae 'na un frawddeg braidd yn rhyfedd. Wrth ddadlau yn erbyn annibyniaeth mae'r ysgrifennydd Gwladol yn dweud hyn.

"Wales alone could not have raised the capital to shore up the banking system"

Pa system fancio?

Banc y Ddafad Ddu? Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy?

Y tro diwethaf i mi edrych doedd gan Gymru ddim banciau.

DIWEDDARIAD. Roedd 'na gwestiwn diddorol iawn yn dilyn darlith Peter Hain sef hwn. Gan ei fod mor ffyrnig yn erbyn cynnal refferendwm yn fuan a fyddai'n defnyddio feto yr Ysgrifennydd Gwladol a gwrthod cais i gynnal pleidlais? Yr ateb oedd na fyddai fe.

Gallwch ddisgwyl ateb tebyg gan David Cameron cyn bo hir. Mae'r arweinydd Ceidwadol wedi penderfynu peidio gwneud araith fawr ynghylch datganoli a Chymru ond fe fydd yn gwneud addewid "wrth fynd heibio" y byddai llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yn derbyn cais gan y Cynulliad i gynnal pleidlais.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 19:44 ar 29 Hydref 2009, ysgrifennodd Iestyn:

    Pan fo pobl anwybodus yn codi bwganod fel hyn, wy wastod yn becso am ddyfodol gwleidyddol ein gwlad fach ni - yn lle son am ddadleuon o blaid neu yn erbyn ar sail lles y bobl, ma pobl yn dadlau mewn "sound-bites".

    Ond o glywed Peter Hain yn dechrau ar nonsens o'r fath, mae rhaid ystyried un o ddau bosibilrwydd. Naill ai mae PH yn fwriadol ceisio hala ofan arnon ni, oherwydd nag yw e'n meddwl bod dadleuon rhesymegol yn ddigonol, neu, mae fe'n rhy gil ei feddwl i weld nad yw probnlemau gwlad fach yn debyg i broblemau gwlad fawr (nid eu bod nhw o anghenraid yn llai, ond mae nhw'n wahanol iawn!)

    Yw e'n aelod o "True Wales"?A hyn i gyd gan y dyn a sgrifenodd bod y nifer o Saeson yng Nghymru yn cynyddu a bod hynny wedi dechrau gwella ein cymunedau...

  • 2. Am 12:07 ar 30 Hydref 2009, ysgrifennodd Iestyn:

    Maddau i fi am sgwennu eto, Vaughan, ond wedi darllen anerchiad y bonheddwr Hain yn agosach, ma nifer o gwestiynau eraill yn codi ynglyn a'i agwedd tuag at ddatganoli.

    Yn gyntaf, wyt ti'n cytuno bod y broses yn cyflymu / gwella gyda threigl amser? Mae'n amlwg dy fod ti'n gwylio'n agosach na'r rhan fwyaf ohonom.

    Yn ail, ydw i wedi camddeall pan fo Peter Hain yn gweud bod popeth yn iawn gan nad yw eLCO yn cymryd rhyw lawer yn fwy o amser na chyfraith newydd yn Llundain (hy, pe bai Llundain yn dechrau creu deddf iaith A'r cynulliad yn cychwun eLCO iaith ar yr un un diwrnod, byddai'r ddeddf yn cael ei basio cyn i'r cynulliad hyd yn oed wbod faint o ddeddf fysai modd iddyn nhw gyflwyno).

    Yn drydydd, mynte PH "...it is perfectly right and proper that Parliament ensures through proper scrutiny (o'r eLCO) that the legislation is clear and achieves its declared purpose." Unwaith ma'r eLCO wedi'i chymeradwyo, oes modd i San Steffan ddylanwadu ar gynnwys deddfau sy'n dod ohoni? Sai'n dilyn ei ddadl yma o gwbl - ai dweud taw dim ond meysydd cyfyng caiff eu datganoli, rhag ofn i Gaerdydd wneud rhwbeth nag yw Llundain yn fodlon arno fe? Wy'n credu i PH cyfeirio at eLCO fel "Legislation" rhwle yn ystod yr araith hefyd, ond falle taw fi sy'n drysu!

    Ac yn olaf: "...in the case of the Welsh Language LCO the scrutiny undertaken by the Welsh Affairs Committee has resulted in changes to the Order to ensure that Welsh language duties are imposed in a reasonable and proportionate way." Eto, ai fi sy'n drysu neu ai "...because you just can't trust those damned nashies down the bay ..." yw ystyr y frawddeg yma?

  • 3. Am 12:44 ar 30 Hydref 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Dydw i ddim yn gwybod ydy'r broses yn cyflymu/gwlela. Nid dyna yw barn pobol Bae Caerdydd. Roedd y llywodraeth yn disgwyl gallu sirhau 5-6 LCO bob blwyddyn. Hyd yma cafwyd pedwar yn oes y cynulliad hwn.
    Craidd y broblem dw'n meddwl oedd bod na anghytundeb sylfaenol ynghylch sut oedd y broses i weithio wrth i fesur llywodraeth Cymru gael ei drafod. Roedd Peter yn ddigon parod i ganiatau i aelodau cynulliad meddwl y byddai'r borses yn caniatau troglwyddo ystod enang o bwerau tra'n sicrhau aelodau seneddol mai pwerau cyfyng fyddai'n cael eu trosglwyddo. Roedd hynny yn fodd i gael y mesur drwodd a sicrhau cadoediad o fewn y Blaid Lafur. O bersbectif San Steffan mae'r sytem yn gweithredu yn yr yr union fodd yr oedd ASau yn disgwyl. Y gwrthwyneb sy'n wir yn bae.

  • 4. Am 15:56 ar 30 Hydref 2009, ysgrifennodd Elin:

    Roedd Mr Hain yn economaidd gyda'r gwirionedd. Falle bod LCO yn cymryd run faint o amser a deddf yn San Steffan, ond un rhan yw'r LCO - mae rhaid cael Mesur Cynulliad hefyd cyn cael deddfwriaeth gyflawn - ac mae hynny'n cymryd blwyddyn arall. Mae Mr Hain yn mynnu son hefyd am refferendwm ar "bwerau deddfu llawn" - ond nid dyna fydd dan sylw. Yn hytrach pleidleisio fyddwn ni ar yr hawl i'r Cynulliad wneud deddfau cynradd yn yr 20 maes sydd wedi'u datganoli yn unig. Ac mae Mr Hain yn crybwyll y posibilrwydd o fynd nol i'r drefn cyn 2007 os bydd y refferendm yn cael ei golli - sef gorfod ymbil am amser yn San Steffan i drafod mesurau Cymru yn unig. Fydd hynna ddim yn digwydd chwaith oni bai bod Deddf 2006 yn cael ei diddymu a deddf newydd arall yn ei lle. Mae esboniad mwy trylwyr ar flog newydd yr arbenigwr cyfansoddiadol Alan Trench,

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.