Caewch y drysau...
Dydw i ddim wedi blogio cyn hyn ynghylch y busnes BNP yma. Mae bron popeth sy 'na i ddweud wedi cael ei ddweud ond efallai bod 'na werth mewn cymryd cam yn ôl ac edrych ar hanes a gobeithion y dde eithafol yng Nghymru.
Mae'n gamgymeriad i feddwl na allai'r garfan honno gael llwyddiant etholiadol yng Nghymru. Yn ôl yn 1931 fe lwyddodd un o gefnogwyr Syr Oswald Mosley i ennill dros ddeg mil o bleidleisiau ym Merthyr, er mai yn nyddiau'r "New Party" ac nid y BUF oedd hynny.
Yn fwy diweddar fe ddaeth y BNP o fewn rhyw fil o bleidleisiau i ennill sedd cynulliad yn rhanbarth y Gogledd yn 2007. O'r Gogledd Ddwyrain y daeth y rhan fwyaf o bleidleisiau'r blaid a theg yw awgrymu mai adlewyrchiad o gryfder y blaid yng Ngogledd Orllewin Lloegr oedd y bleidlais honno.
Mae pleidlais y blaid yn yr etholiadau Ewropeaidd eleni yn dangos patrwm hynod ddiddorol. Unwaith yn rhagor fe wnaeth y blaid yn gymharol dda yn y Gogledd Ddwyrain gan ennill dros fil o bleidleisiau yn Alun a Glannau Dyfrdwy, De Clwyd a Wrecsam.
Mae 'na dair ar ddeg o etholaethau eraill lle dderbyniodd y blaid dros fil o bleidleisiau sef Pen-y-bont, Castell Nedd, Dwyrain Abertawe, Gogledd Caerdydd, De Caerdydd a Phenarth, Pontypridd, Bro Morgannwg, Blaenau Gwent, Caerffili, Islwyn, Gorllewin Casnewydd, Dwyrain Casnewydd a Thorfaen.
Mae'n ddiddorol bod yr etholaethau yna (ac eithrio Bro Morgannwg, efallai) i gyd yn rhai trefol. Mae'n fwy diddorol fyth nad oes 'na unrhyw gysylltiad amlwg rhwng cryfder y gefnogaeth i'r blaid a'r niferoedd o bobol o gefndiroedd ethnig yn yr etholaethau unigol.
Fe fethodd y BNP gyrraedd y mil yng Ngorllewin a Chanol Caerdydd, er enghraifft, tra'n llwyddo ym Mlaenau Gwent.
Dydw i ddim yn dweud nad yw hil yn ffactor yn y gefnogaeth i'r blaid ond mae 'na elfen arall hefyd. Mewn un ystyr mae pleidlais BNP yn bleidlais "twll eich tinau chi i gyd" a dyw hi ddim yn syndod efallai bod y blaid wedi gwneud yn dda yn sgil y sgandal treuliau.
Efallai y dylai rhai o'r gwleidyddion sydd wedi bod yn uchel eu cloch yn eu beirniadaeth o'r ´óÏó´«Ã½ ystyried ai eu trachwant ariannol nhw wnaeth osod y gorfforaeth yn y sefyllfa o orfod ystyried y gwahoddiad yn y lle cyntaf.
SylwadauAnfon sylw
Mae'r fideo bach yma yn crynhoi gwir gyfraniad Nick Griffin ar QT neithiwr:
"o gefndiroedd ethnig"
Ond mae pawb yn dod o ryw gefndir ethnig. Pobol sydd ddim yn wyn ydych chi'n feddwl?
Dwi ddim yn hoffi "lleiafrifoedd ethnig" chwaith achos bod y Cymry Cymraeg yn leiafrif ethnig ond fford gwlediyddol gywir o ddweud pobol ddu neu 'coloured' ydy o.
Mae 'na ffactor arall hynod bwysig yn hyn oll. Mae cefnogaeth y BNP yng Nghymru a Lloegr ar ei hisaf yn yr etholaethau Cymraeg eu hiaith.