´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dyna dderyn hardd wyt ti...

Vaughan Roderick | 09:43, Dydd Iau, 29 Hydref 2009

kookaburra_203_getty.jpgDoes a wnelo'r nesaf ddim byd a gwleidyddiaeth ond mae'n rhy dda i beidio rhannu.

Yn y Llys Ffederal yn Sydney mae rhai o fargyfreithwyr gorau a drytaf Awstralia yn dadlau ynghylch tarddiad cân werin Gymraeg. Yn fwy penodol mae'r llys yn ystyried y cwestiwn dwys "p'un ddaeth gyntaf y deryn du neu'r Kookaburra?"

Cwmni o'r enw Larrakin Music sydd wedi dwyn yr achos gan honni bod record enwog Men at Work, "Down Under", yn cynnwys rhannau o dôn y gân "Kookaburra Sits in an Old Gum Tree". Larrakin sy'n berchen ar hawlfraint y gân.

Nonsens yw hynny medd Men at Work. "Dacw di yn eistedd aderyn du" yw'r dôn yn ôl cyfreithwyr y band. Cyfieithiad yw "Kookaburra" ac mae Larrakin wedi bod yn camhawlio arian am ei defnyddio ers degawdau. Dydw i ddim yn gwybod pwy sy'n iawn. Efallai bod pobol Tŷ Siamas yn gallu helpu!

Ta beth mae ychydig o "track record" gan Awstralia yn hyn o beth. Mae 'na gythraul o debygrwydd rhwng "Waltzing Matilda" a'r gân Albanaidd "Thou Bonnie Wood Of Craigielea" ac mae rhannau o'r anthem genedlaethol "Advance Australia Fair" yn bur debyg i "God Bless The Prince of Wales". Cofiwch, rwy'n amau bod sawl un yn ddigon parod iddyn nhw gael honna!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:45 ar 29 Hydref 2009, ysgrifennodd Mabon:

    Aha!
    mae hwnna yn esbonio dipyn - bu i mi dderbyn ambell i neges o Awstralia yn ymholi ynghylch caneuon gwerin Cymraeg yn ymwneud ag adar du(!) tua deunaw mis yn ol, pan oeddwn i'n gweithio yn Nhy Siamas.

    Galla i ddim cofio yr union ymholiad - mi wna i ofyn i ffrindiau yno. Ond gwn na wnes i rhoi esboniad ddigon clir i'r ymholwyr.

    Mered fyddai'n gwybod.

  • 2. Am 10:58 ar 29 Hydref 2009, ysgrifennodd FiDafydd:


    ...mae croeso iddyn nhw gael y dyn ei hun.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.